Iestyn Arwel: Actio 'y Cymro twp' wedi fy arwain at ysgrifennu

Iestyn ArwelFfynhonnell y llun, Iestyn Arwel
GanLlio Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Er iddo gael "flirtation byr" gyda phensaernïaeth, mae'r awydd i berfformio wedi bod yn Iestyn Arwel ers iddo ddechrau perfformio gyda Theatr Felin Fach yn ei arddegau.

A bellach, mae'n serennu ar lwyfan, sgrin a radio, a hynny fel actor, canwr ac awdur.

"Dwi'n berson sy'n diflasu yn eitha hawdd," meddai, "felly os dwi wedi bod yn actio am bach, dwi falle'n symud i ganu am 'chydig, wedyn falle'n mynd i ysgrifennu am bach. Mae'n helpu i gadw'r diddordeb a'r sbardun 'na."

Ei brosiect ddiweddaraf yw'r comedi byr Ar Daith ar blatfformau digidol S4C a BBC iPlayer, sy'n sbec tu ôl i'r llen ar gyfres sy'n crwydro Cymru, tra fod Carwyn, y cyflwynydd, yn mynd drwy drafferthion personol.

Iestyn ysgrifennodd y bennod, a fo sy'n chwarae rhan Carwyn.

Ar DaithFfynhonnell y llun, S4C

Er ei fod yn fwy cyfarwydd i rai fel actor, mewn cyfresi fel Rownd a Rownd, 35 Awr a Death Valley, ac fel aelod o'r grŵp comedi cerddorol Cabarela, dydy ysgrifennu ddim yn rhywbeth newydd i Iestyn.

Dechreuodd arni er mwyn creu cymeriadau roedd yn awyddus i'w perfformio, meddai, ac fel y sylweddolodd ar ddechrau ei yrfa, roedd prinder cymeriadau Cymreig roedd wir eisiau eu hactio.

"Mae pob actor Cymreig wedi ei wneud e ar ryw bwynt, sef chwarae rôl sydd ddim yn portreadu'r Cymry yn y ffordd orau. Mae wedi newid lot yn y blynyddoedd diwethaf, ond roedd 'na gyfnod pan o'n i'n dechrau mas, y cymeriadau oedd yn cael eu cynnig oedd rhywun twp Cymraeg.

"A pan mae rhent 'da ti i'w dalu, mae'n anodd iawn i gael egwyddorion!

"Hwnna yw un o'r rhesymau dwi'n ysgrifennu achos o'n i 'di diflasu. Ar ôl gwneud clyweliad ar gyfer hysbyseb lle o'n i ar fy mhengliniau yn mynd o amgylch y stafell yn canu Hen Wlad Fy Nhadau fel dafad, o'n i'n meddwl, mae hwn yn gorfod newid...!"

Comedi yw bywyd

O ddrama a gafodd ei pherfformio yng Nghanolfan y Mileniwm yn syth ar ôl gadael y coleg, i ddrama ar Radio Cymru a chyfresi byrion ar gyfer Hansh, mae Iestyn wedi ysgrifennu tipyn dros y blynyddoedd, ond roedd dal i deimlo fod angen hogi ei grefft.

Dyna pam iddo benderfynu dilyn cwrs meistr mewn ysgrifennu creadigol; rhywbeth a lenwodd ei amser a bodloni ei greadigrwydd yn ystod y cyfnod clo, eglurodd, ag yntau wedi colli ei holl swyddi actio dros nos.

Er mai sgriptiau teledu oedd o'n disgwyl eu hysgrifennu, sylweddolodd ei fod yn mwynhau ffuglen, a dim ond rhyw 5,000 o eiriau sydd ganddo ar ôl i gwblhau ei nofel gyntaf.

Job dros yr haf fydd hynny, meddai, ar ôl i holl brysurdeb cyd-ysgrifennu sioe gerdd Cabarela yn yr Eisteddfod Genedlaethol basio (cyn i brysurdeb sioeau Nadolig y criw ddechrau).

Iestyn ArwelFfynhonnell y llun, Iestyn Arwel

Er ei amrywiaeth o genres gwahanol o weithiau ysgrifennu, mae un peth yn gyffredin, meddai, sef comedi.

"Fi'n meddwl fi'n trio clymu elfen o gomedi i mewn i bopeth fi'n 'neud. Ambell waith mae'r comedi'n dywyll iawn, ond mae dal ryw wrthgyferbyniad neu ryw elfen o sypreis sy'n comedic.

"Yn y bôn, mae'n defnyddio'r un mecanwaith â drama, yn yr ystyr bo' ti'n adeiladu tensiwn er mwyn torri tensiwn. Y chwerthin sy'n torri'r tensiwn, felly pa mor hir ti'n gallu gwthio hwnna?

"Fi'n trial dod ag elfen o gomedi mewn i bopeth, achos hwnna yw bywyd go iawn."

'Ysgrifennu fel dwi'n siarad'

A bywyd go iawn sy'n tueddu i ysbrydoli ei waith, wrth iddo gynnwys elfennau o bobl o'i fywyd dydd-i-ddydd yn y cymeriadau mae'n eu creu, ynghyd â'r ffordd mae'n clywed y bobl o'i gwmpas yn siarad.

"Dwi ddim yn ofni defnyddio'r Saesneg tra dwi'n ysgrifennu pethau Cymraeg, achos dwi'n teimlo mai dyna yw realaeth lot o bobl. Does yna ddim llawer o bortreadau o'r math o Gymraeg fi'n meddwl mae pobl yn ddefnyddio.

"Mae fy nghymeriad fel comedïwr yn Cabarela yn chwarae ar y dwyieithogrwydd 'na.

"Mae 'na gymaint o ragfarnau sosio-ecomonaidd ynglŷn ag addysg i 'neud gydag acen a iaith a dwi'n ffeindio hynny'n rili diddorol. Dwi'n chwarae gyda rhagfarnau pobl am y math o berson ydw i, achos bo' fi'n siarad Saesneg gydag acen RP, diolch i'r coleg drama.

"Achos mae 'na gymaint o hiwmor mewn bod yn ddwyieithog. Mae'r elfen yna o sypreis gyda punchline jôc pan ti'n newid rhwng ieithoedd, yn sbesial."

CabarelaFfynhonnell y llun, Iestyn Arwel
Disgrifiad o’r llun,

Mae criw Cabarela yn dathlu 10 mlynedd o gydberfformio y flwyddyn nesaf

Er ei fod i'w weld mewn rolau mwy difrifol – mae'n dweud fod chwarae baddies yn dod yn hawdd iddo – mae actio comedi yn dod â "gwefr anhygoel" iddo, meddai, yn enwedig ar y llwyfan.

"Mae'n rhyw fath o berthynas gyda'r gynulleidfa lle ti'n aros am y foment cywir i ddweud y llinell nesa' sy'n dod â'r don nesa' o chwerthin. 'Sai'n meddwl fod unrhyw deimlad gwell yn y byd.

"Mae 'na hefyd rywbeth mewn drama os ti'n gallu creu tawelwch gyda rhywbeth ti wedi ei ddweud. Mae e'r un teimlad. Ti 'di gneud i rywun feddwl am rywbeth. Fi'n cael rush o hwnna... fel mae pobl eraill yn ei gael o triathlons (rhywbeth 'na i byth wneud!)."

Beth nesa'?

Ag yntau'n mwynhau neidio o un ddisgyblaeth i'r llall, mae gan Iestyn ddigon o opsiynau a phosibiliadau i'w gadw'n brysur ac yn hapus. Ond beth yw'r uchelgais?

"Beth fi rili moyn 'neud yw ysgrifennu ar gyfer teledu a bod yn showrunner ar y sioe. Ges i brofiad o 'neud hynny ar Ar Daith, ac roedd yn teimlo'n gywir, ac yn gyfforddus iawn.

"Mae'n swnio'n ridiculous am rywbeth gymerodd dau ddiwrnod i'w saethu, sydd ond tua 16 munud, am fod ar sianeli digidol, a falle byth am gael cyfres – ond 'naeth e newid bywyd fi.

"O'dd pawb mor garedig a chefnogol, ac mae cael pobl yn cefnogi dy syniad a dy helpu di i wireddu dy weledigaeth ar ei gyfer e, mae 'na rywbeth rili emosiynol am hynny. O'n i methu credu bod pawb mor gêm i chwarae sili bilis gyda fi!

"'Naeth y profiad brofi i mi unwaith ac am byth ma' dyna beth dwi moyn 'neud gyda fy mywyd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.