Pum peth ddysgon ni o faniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol

Jane Dodds
GanCatrin Haf Jones
Gohebydd gwleidyddol
  • Cyhoeddwyd

Un sedd sydd wedi bod gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn Senedd Cymru ers ddegawd bellach, a'r arolygon barn yn awgrymu y gallai fod yn her iddyn nhw fynd llawer ymhellach na hynny'r tro hwn hefyd.

Mae'r blaid yn cydnabod nad ydyn nhw'n disgwyl arwain Llywodraeth Cymru wedi 7 Mai, ond maen nhw yn gobeithio ennill digon o seddi i fod â dylanwad ar bwy bynnag sydd mewn grym.

Mae'r blaid wedi gwneud hi'n glir bod pum targed ganddyn nhw yn yr etholiad hwn, mewn llefydd y mae gan y blaid rywfaint o hanes etholiadol eisoes - Caerdydd Ffynnon Taf, Gŵyr Abertawe, Brycheiniog Tawe Nedd, Ceredigion Penfro a Gwynedd Maldwyn.

Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi pum llinell goch polisi, a'u haddewid yw y byddan nhw ond yn barod i gefnogi llywodraeth sy'n glynnu at y llinellau coch hynny. Ond pa mor gadarn yw'r llinellau coch?

Yn ôl eu harweinydd, Jane Dodds maen nhw'n absoliwt, ond nid dyna neges un o'u hymgeiswyr mwyaf blaenllaw, Rodney Berman, sy'n dweud y gellid cydweithio â phleidiau eraill a'r achosion penodol - ac mai cyflawni blaenoriaethau eu maniffesto yw eu prif nod.

Gofal cymdeithasol

Mae'r blaid yn addo buddsoddi £300m mewn gofal cymdeithasol, fel ffordd o ysgafnhau'r baich ar y gwasanaeth iechyd, trwy alluogi mwy o bobl i adael eu gwlâu ysbyty a chael gofal yn y gymuned.

Er mwyn talu am hyn, mae'r blaid yn dweud y byddan nhw'n barod i godi ceiniog ar dreth incwm yng Nghymru am gyfnod penodol (ond sydd heb amserlen hyd yn hyn) pe na bai digon o arian yn y gyllideb bresennol i ariannu'r buddsoddiad, tra'n gwthio am ragor o arian o San Steffan i Gymru yn y cyfamser.

Atal annibyniaeth

Mae'r addewid i atal annibyniaeth yn cael lle blaenllaw iawn ym maniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol - yn ail baragraff yr holl ddogfen mae'r blaid yn ymosod ar awydd Plaid Cymru i wthio am annibyniaeth.

Un o'u llinellau coch yw gwrthwynebu gwario ceiniog ar baratoadau at annibyniaeth, gan fynnu y dylai holl bwyslais Llywodraeth Cymru wedi 7 Mai fod ar y materion sy'n effeithio ar fywydau bob dydd pobl.

Disgrifiad,

Beth sydd ym maniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol? Elliw Gwawr sy'n esbonio

Ond gyda'r blaid yn gobeithio, ar y gorau, cael digon o seddi i ddylanwadu ar unrhyw lywodraeth wedi 7 Mai trwy fenthyg eu cefnogaeth, mae'n anodd gweld sut all y Democratiaid Rhyddfrydol gefnogi Plaid Cymru heb ildio un o'u llinellau coch, neu bod Plaid Cymru yn gollwng eu haddewid i ariannu comisiwn cyfansoddiadol i baratoi'r tir at annibyniaeth.

Gofal plant

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn addo 30 awr o ofal plant am ddim i rai rhwng naw mis a phedair oed, fel ffordd o helpu rhieni yn ôl i'r gwaith, rhoi hwb i'r economi a rhoi dechrau da i blant.

Mae'r addewid yn fwy penodol nag un Llafur, sy'n addo ymestyn y ddarpariaeth ond heb fanylion, ac mae'n mynd ymhellach nag addewid Plaid Cymru, sy'n addo 20 awr am ddim yr wythnos i blant o'r un oed.

Maniffesto

Tra bod y cynnig yn fwy hael nag un Plaid Cymru, mae'n cynnig platfform ar gyfer cydweithio rhwng y ddwy blaid os oes gan y Democratiaid Rhyddfrydol ddigon o aelodau i wneud gwahaniaeth - oni bai bod llinell goch arall y Democratiaid Rhyddfrydol, i wrthwynebu gwario ceiniog ar annibyniaeth, yn drech nag unrhyw bosibilrwydd o gydweithio.

Gwella cyflwr afonydd a moroedd

Mae'r blaid yn dweud y byddan nhw'n deddfu i atal cwmnïau dŵr rhag gollwng carthion heb eu trin ac yn atal bonws i benaethiaid cwmnïau dŵr tan nad oes unrhyw garthion yn cael eu rhyddhau i afonydd a moroedd.

Maen nhw hefyd eisiau cyflwyno rheoleiddiwr newydd ar gyfer y diwydiant fydd â grymoedd penodol i atal y weithred o ollwng carthion gan gwmnïau dŵr.

Cost

Tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn mynd i'r afael ag un o'r materion anoddaf i'r pleidiau gwleidyddol - codi treth incwm - fe fyddai hynny at bwrpas penodol iawn, sef talu am fuddsoddiad mewn gofal cymdeithasol.

Does dim awgrym o gost un o'u cynigion mawr eraill nhw: y cynnig gofal plant am ddim.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Wrth lansio'r maniffesto roedd Jane Dodds yn barod iawn i feirniadu'r pleidiau sydd wedi addo torri treth incwm pe baen nhw mewn grym - y Ceidwadwyr a Reform - trwy ddweud bod unryw blaid sy'n addo torri treth incwm tra'n gwario ar wasanaethau cyhoeddus "yn dweud celwydd".

Ond heb atebion pendant i'w haddewidion gwariant mawr ei hun, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn wynebu cwestiynau caled o ran cost.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.