Yr Eglwys yng Nghymru i bleidleisio ar fendithio priodas un rhyw yn barhaol

- Cyhoeddwyd
Bydd corff llywodraethol Yr Eglwys yng Nghymru yn pleidleisio ddydd Mercher ar a ddylid bendithio priodasau a phartneriaethau sifil o'r un rhyw yn barhaol.
Ym mis Medi 2021 mewn pleidlais hanesyddol, fe wnaeth corff llywodraethol Yr Eglwys yng Nghymru gefnogi caniatáu bendithio priodas neu bartneriaeth sifil cyplau un rhyw mewn gwasanaeth eglwysig, ond am gyfnod arbrofol.
Ar y pryd dywedodd y sefydliad bod y penderfyniad "yn gam tuag at edifeirwch yn sgil hanes o fewn yr Eglwys sydd wedi cythreulio ac erlid pobl hoyw a lesbiaidd".
Mae'r cyfnod arbrofol o bum mlynedd yn dod i ben ddiwedd 2026.
Os bydd y corff llywodraethol yn pleidleisio o blaid gwneud y trefniant yn un parhaol, bydd angen ymgorffori gwasanaeth bendithio awdurdodedig ar gyfer priodasau a phartneriaethau sifil o'r un rhyw yn y Llyfr Gweddi Gyffredin.
Mae'r corff llywodraethol yn cynnwys 143 o aelodau sydd wedi eu rhannu yn dair urdd - esgobion, clerigwyr ac aelodau lleyg.
Er mwyn i'r trefniant presennol fod yn un parhaol rhaid i ddwy ran o dair (66%) pob un o'r tair urdd fod o blaid.
Safbwynt enwadau crefyddol eraill
O ran yr enwadau eraill, mae'r Undodiaid wedi cefnogi cydraddoldeb llwyr i bobl LHDTC+ ers 1970, a chapel Undodaidd ym Manceinion oedd y man addoli cyntaf i gofrestru fel lle i gynnal partneriaethau sifil.
I'r Bedyddwyr ac Annibynwyr, mater i bob eglwys unigol yw cynnal priodas neu wasanaeth bendithio, ac mae amrywiaeth barn rhwng gwahanol gynulleidfaoedd ar y mater.
Bu trafodaeth ar y mater o fewn Eglwys Bresbyteraidd Cymru dros ddegawd yn ôl, ond penderfynu glynu at y traddodiad o briodas heterorywiol yn unig wnaed bryd hynny.
Mae ei chwaer eglwys, y Methodistiaid (Wesleaidd), yn priodi cyplau un rhyw ers 2014, ond gyda chymal cydwybod i weinidog a fyddai yn gwrthod dilysrwydd y gwasanaeth.
Yr Eglwys yng Nghymru yn cynnal cyfarfodydd i drafod priodas un rhyw
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2025
Yr Eglwys yng Nghymru i fendithio cyplau un rhyw
- Cyhoeddwyd6 Medi 2021
Yn ystod y cyfarfod yn Venue Cymru Llandudno ddydd Mercher bydd yr aelodau hefyd yn derbyn adroddiadau gan Gorff y Cynrychiolwyr, y Pwyllgor Sefydlog a Mainc yr Esgobion, yn ogystal â diweddariadau ar feysydd allweddol gwaith yr Eglwys.
Mae'r rhain yn cynnwys cyflwyniad a diweddariad diogelu, ac adroddiad cynnydd ar ymrwymiad yr Eglwys i sero net.
Bydd trafodaeth hefyd ar gynnig aelod preifat sy'n galw am sefydlu Grŵp Cyflawni Croeso Anabledd, gyda'r nod o gefnogi eglwysi i ddod yn fwy hygyrch a chynhwysol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.