Crynodeb

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 12:17 GMT+1

    Mae'n llif byw ni'n dod i ben am heddiw, ond fe gewch chi ragor o ddadansoddiad o addewidion y Democratiaid Rhyddfrydol ar brif dudalen Cymru Fyw gydol y dydd.

    Cofiwch hefyd fod y BBC eisiau clywed pa straeon rydych chi am i ni fwrw golwg arnyn nhw cyn yr etholiad.

    Mae Dy Lais yn rhoi lle canolog i'ch straeon a'ch cwestiynau yn ein darllediadau etholiadol.

    Cliciwch y botwm isod i gyflwyno'ch syniad, a gallai gael ei gynnwys ar raglen deledu, radio, gwasanaethau ar-lein y BBC, BBC Sounds ac ar gyfryngau cymdeithasol.

    Ewch yma i gyflwyno syniad.

    dy lais
  2. Y prif negeseuon o lansiad maniffesto y Democratiaid Rhyddfrydolwedi ei gyhoeddi 12:16 GMT+1

    • Blaenoriaeth arall yw gwarchod yr amgylchedd - mae glanhau afonydd a moroedd Cymru yn un o bump prif flaenoriaeth y blaid

    • Roedd yna addewid ychydig yn wahanol ar gyfer cadw ysgolion gwledig ar agor wrth i Jane Dodds nodi y dylai fod o leiaf un lleolaid addysg cyfrwng Cymraeg ac un cyfrwng Saesneg o fewn awr o daith mewn ardaloedd gwledig, ac o fewn 30 munud mewn ardaloedd trefol, erbyn 2035

  3. Pwy sy'n cael pleidleisio yn yr etholiad?wedi ei gyhoeddi 12:14 GMT+1

    Er mwyn gallu pleidleisio mae'n rhaid i chi:

    • fod yn 16 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod yr Etholiad (y diwrnod pleidleisio)
    • bod wedi cofrestru i bleidleisio
    • bod yn ddinesydd cymwys o Brydain, Iwerddon neu'r Gymanwlad, yn ddinesydd o'r Undeb Ewropeaidd, neu ddinesydd tramor cymwys
    • byw yng Nghymru
    • bod â hawl gyfreithiol i bleidleisio
    pleidlaisFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Etholiad mwyaf nodedig ers '99?wedi ei gyhoeddi 12:12 GMT+1

    Bydd yr etholiad nesaf i Senedd Cymru yn digwydd ar 7 Mai.

    Mae'n argoeli i fod yr etholiad mwyaf nodedig i Fae Caerdydd ers sefydlu'r Cynulliad - fel yr oedd ar y pryd - yn 1999.

    Mae hynny i raddau helaeth oherwydd y newidiadau i'r modd mae Aelodau'r Senedd yn cael eu hethol.

    Ewch yma am ganllaw byr i'r newidiadau.

  5. 96 o Aelodau'r Senedd eleniwedi ei gyhoeddi 12:07 GMT+1

    seneddFfynhonnell y llun, Senedd Cymru

    Y Senedd yw lle mae penderfyniadau'n cael eu gwneud am lawer o agweddau ar fywyd yng Nghymru, fel iechyd, addysg, tai, trafnidiaeth a'r amgylchedd.

    Mae Aelodau'r Senedd yn chwarae rhan hanfodol wrth graffu ar gynlluniau a gwariant Llywodraeth Cymru, ac yn awgrymu gwelliannau i wneud pethau'n well i bawb yng Nghymru.

    O 2026 ymlaen bydd gan y Senedd 96 o aelodau, wedi'u hethol o bob cwr o Gymru.

    Dyma'r Senedd ar ei newydd wedd - lle i 96 aelodFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Dyma'r Senedd ar ei newydd wedd - lle i 96 aelod

  6. 16 etholaeth y tro hwn - y rhestr yn llawnwedi ei gyhoeddi 12:04 GMT+1

    Dyma'r rhestr o'r etholaethau newydd yn llawn:

    • Bangor Conwy Môn
    • Clwyd
    • Fflint Wrecsam
    • Gwynedd Maldwyn
    • Ceredigion Penfro
    • Sir Gaerfyrddin
    • Gŵyr Abertawe
    • Brycheiniog Tawe Nedd
    • Afan Ogwr Rhondda
    • Pontypridd Cynon Merthyr
    • Blaenau Gwent Caerffili Rhymni
    • Sir Fynwy Torfaen
    • Casnewydd Islwyn
    • Caerdydd Penarth
    • Caerdydd Ffynnon Taf
    • Pen-y-bont Bro Morgannwg
    Disgrifiad,

    Etholiad 2026: Beth sy'n newid?

  7. Beth yw'r dyddiadau pwysig?wedi ei gyhoeddi 12:02 GMT+1

    20 Ebrill - Dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio

    17:00 ar 21 Ebrill - Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau pleidlais drwy'r post a phleidlais bost drwy ddirprwy

    17:00 ar 28 Ebrill - Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy

    7 Mai - Diwrnod y bleidlais

    17:00 ar 7 Mai - Cyfle olaf i gasglu papur pleidleisio newydd drwy'r post os bydd y gwreiddiol wedi'i ddifetha neu wedi mynd ar goll

    17:00 ar 7 Mai - Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau brys drwy ddirprwy

    8 Mai - Cyfri'r pleidleisiau

  8. Ble fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn sefyll ar ddiwedd y bleidlais?wedi ei gyhoeddi 12:01 GMT+1

    Gareth Lewis
    Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae'r blaid yn anelu at gael pum Aelod Seneddol ac yn derbyn na fyddan nhw'n rhedeg llywodraeth nesaf Cymru.

    Maen nhw hefyd yn reit onest am eu ffiniau o ran pwy fydden nhw'n hapus cynnal trafodaethau â nhw i gael cytundeb,

    Fydden nhw ddim yn dod i gytundeb â Reform na'r Ceidwadwyr, efallai wnewn gyda Phlaid Cymru ond mae'n dibynnu ar ba aelodau yn y blaid rydych chi'n siarad ag ef.

    Ydy hynny'n risg? Ydy hi'n bosibl eu bod yn cyfyngu eu hapêl gymaint y bydd pleidleiswyr yn troi i ffwrdd?

  9. Etholiad 2026: Pa un yw f'etholaeth i?wedi ei gyhoeddi 12:00 GMT+1

    Wrth i nifer yr aelodau gynyddu yn y Senedd, mae ffiniau'r etholaethau hefyd yn newid.

    Bydd Cymru yn cael ei rhannu yn 16 o etholaethau, gyda chwe sedd yn y Senedd i bob etholaeth.

    Ewch yma i weld ym mha etholaeth rydych chi ynddi.

    map

    Mae'r pleidiau wedi rhestru hyd at wyth ymgeisydd ar gyfer pob etholaeth ac fe all ymgeiswyr annibynnol hefyd sefyll yn yr etholiad.

    Fe fyddwch yn pleidleisio dros un blaid, neu un ymgeisydd annibynnol, ac mae'r seddi'n cael eu dyrannu ar sail cyfran y pleidleisiau.

    Er enghraifft, os bydd plaid yn ennill tair sedd, bydd y tri pherson uchaf ar eu rhestr yn cael eu hethol i'r seddi hynny.

  10. Un bleidlais fydd gan etholwyr y tro hwnwedi ei gyhoeddi 11:57 GMT+1

    Yn 2026 dim ond un bleidlais fydd gan etholwyr, a fydd dim cyfle i gefnogi ymgeisydd penodol (heblaw bod yr ymgeisydd yn sefyll yn annibynnol).

    Yn hytrach, bydd pleidleiswyr ond yn gallu dewis plaid.

    Ym mhob un o'r 16 o etholaethau bydd gan bob plaid restr o ymgeiswyr.

    Bydd y nifer o ymgeiswyr sy'n cael eu hethol o restr pob plaid yn dibynnu ar y gyfran o'r bleidlais mae'r blaid wedi ei hennill.

    Mater i'r pleidiau eu hunain fydd penderfynu sut maen nhw'n llunio'u rhestrau o ymgeiswyr.

    Pan ddaw'r etholiad fydd etholwyr yn methu dewis a dethol yr unigolion yr hoffen nhw eu hethol.

    gorsaf
  11. Gwell telerau i weithlu gofal cymdeithasolwedi ei gyhoeddi 11:57 GMT+1

    India Pollock
    Gohebydd materion cymdeithasol BBC Cymru

    Mae galwadau wedi bod ers tro i'r gweithlu cymdeithasol gael yr un cyflog a datblygiad â'r rhai sy'n gweithio yn y GIG.

    Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn dweud y byddant yn cefnogi sefydlu Coleg Brenhinol y Gweithwyr Gofal er mwyn cael gwell cydnabyddiaeth broffesiynol, safonau a datblygiad.

    Er hynny does ‘na ddim sôn am degwch cyflog yn y maniffesto na sut i gynyddu nifer y gweithwyr gofal. Mae prinder gofalwyr ar hyn o bryd gyda data diweddaraf Gofal Cymdeithasol Cymru yn dangos bod mwy na 5,000 o swyddi gwag yn y sector.

  12. Cynnig i ehangu gofal plant am ddim yng Nghymru - fel nifer o'r prif bleidiau eraillwedi ei gyhoeddi 11:56 GMT+1

    Felicity Evans
    Gohebydd ariannol BBC Cymru

    Fel rhan fwyaf y prif bleidiau yn yr etholiad yma, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn addo ehangu gofal plant am ddim yng Nghymru.

    O ran y Democratiaid Rhyddfrydol maen nhw'n cynnig ehangu'r gofal i 30 awr yr wythnos, am 48 ​​wythnos y flwyddyn i blant rhwng 9 mis a 4 oed.

    Mi fydd hyn yn ymrwymiad costus ac hefyd yn un heriol yn logistaidd o ran cael staff cymwys a chyfleusterau priodol yn y mannau cywir.

    Mae'n debygol y bydd y dirwedd gyllidol sy'n wynebu llywodraeth nesaf Cymru'n fwy heriol hefyd, felly mae addewidion drud yn codi'r cwestiwn beth fyddai'n cael ei dorri er mwyn galluogi hyn?

  13. Addewidion ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ond oes yna fanylion?wedi ei gyhoeddi 11:55 GMT+1

    Jenny Rees
    Gohebydd Iechyd BBC Cymru

    Er bod sawl addewid mewn maniffestos yn cael eu hanelu at feysydd iechyd a gofal cymdeithasol, ychydig iawn sy'n cynnig esboniadau manwl o ran sut y cawn nhw eu cyflawni.

    Er enghraifft, mae yna addewid i sicrhau y bydd 100% o gleifion canser yn dechrau triniaeth o fewn y targed o 62 diwrnod o atgyfeiriad brys, gyda chyflwyniad cynllun canser cenedlaethol.

    Yr hyn sy'n ei wneud yn drawiadol yw'r ffaith mai 75% ydy'r targed presennol ar hyn o bryd ond mae'r ffigyrau sy'n cael eu cyflawni wedi aros tua 57% ers peth amser a does dim llawer o fanylion o ran beth fydd yn y cynllun er mwyn gwneud y naid honno.

    Yn yr un modd, mae'r addewid i sicrhau bod pawb sydd ag angen deintyddol brys yn cael mynediad at ddeintydd ar y Gwasanaeth Iechyd ddim yn nodi sut y bydd hynny'n cael ei gyflawni, ar adeg pan fo cytundeb newydd wedi golygu bod rhai yn y proffesiwn yn rhoi eu contractau GIG yn ôl.

    Fodd bynnag, mae eu maniffesto yn cynnwys buddsoddiad pendant mewn 5,000 o "leoliadau gofal nyrsio" newydd neu wedi'u hadnewyddu i helpu i "ddod â gofal coridor i ben" a "gostwng rhestrau aros" gan awgrymu y byddai'r lleoliadau hyn yn cynnig cyfleuster cam-i-lawr i ganiatáu i fwy o gleifion gael eu rhyddhau o ysbytai gorlawn.

  14. Trwsio'r Gwasanaeth Iechyd - ond beth am restrau aros?wedi ei gyhoeddi 11:54 GMT+1

    Catrin Haf Jones
    Gohebydd Seneddol BBC Cymru

    Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn rhoi llawer o bwyslais yn yr etholiad hwn ar drwsio'r Gwasanaeth Iechyd - gydag addewid o £300m i'r gwasanaeth gofal cymdeithasol.

    Y bwriad yw sicrhau nad yw pobl yn gorfod aros mewn gwelyau ysbytai yn ddiangen a rhyddhau adnoddau a staff ar gyfer cleifion eraill.

    Ond er cyfeirio droeon at dorri rhestrau aros, mae un absenoldeb amlwg yn y maniffesto yng nghyd-destun y drafodaeth yng Nghymru: does dim un targed nac amserlen ar gyfer torri'r rhestrau aros hynny yn y maniffesto hwn.

  15. Y prif bleidiau eraill eisoes wedi lansio eu maniffestowedi ei gyhoeddi 11:53 GMT+1

    Mae'r prif bleidiau eraill wedi rhannu manylion eu maniffestos yn barod.

    Y Ceidwadwyr oedd gyntaf, ac ymhlith eu haddewidion oedd torri treth incwm ac adeiladu ffordd liniaru'r M4.

    Ychydig ddyddiau wedyn daeth lansiad Reform, a ddywedodd y bydden nhw'n blaenoriaethu Cymry ar gyfer tai cymdeithasol petawn nhw'n ennill yr etholiad.

    Tro Llafur oedd hi wedyn, gydag Eluned Morgan yn addo rhewi cyfraddau treth incwm a sicrhau bod apwyntiad meddygol ar gael o fewn 48 awr os oes problem na all aros.

    Ddechrau wythnos diwethaf fe gyhoeddodd y Blaid Werdd eu maniffesto - ymhlith yr addewidion roedd rhewi rhenti, adeiladu mwy o dai cymdeithasol a gwneud tai yn addas i fyw ynddyn nhw.

    Y gwasanaeth iechyd a chostau byw gafodd prif sylw arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wrth iddyn nhw lansio eu maniffesto yn Wrecsam ddydd Iau diwethaf.

    Am fwy o straeon am yr etholiad ewch yma.

  16. Llinellau coch y Democratiaid Rhyddfrydolwedi ei gyhoeddi 11:50 GMT+1

    Catrin Haf Jones
    Gohebydd Seneddol BBC Cymru

    Un o bum llinell goch y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer cydweithio ag unrhyw lywodraeth yng Nghymru yw darparu 30 awr o ofal plant am ddim, 48 wythnos o'r flwyddyn, i bob plentyn rhwng 9 mis a phedair oed.

    Mae'r addewid yn mynd ymhellach nag un Plaid Cymru, sy'n addo 20 awr am ddim yr wythnos i blant o'r un oed.

    Tra bod cynnig y Democratiaid Rhyddfrydol yn fwy hael nag un Plaid Cymru, mae'n cynnig platfform ar gyfer cydweithio rhwng y ddwy blaid os oes gan y Democratiaid ddigon o aelodau i wneud gwahaniaeth.

    Hynny yw, oni bai bod llinell goch arall y Democratiaid Rhyddfrydol, i wrthwynebu gwario ceiniog ar annibyniaeth, yn drech nag unrhyw bosibilrwydd o gydweithio.

  17. Cadw pobl ifanc yn Nghymru - a'u cefnogi i astudio'n Lloegrwedi ei gyhoeddi 11:48 GMT+1

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Mae Jane Dodds wedi dweud na fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn gweithio gyda’r Ceidwadwyr Cymreig na Reform.

    “Nid yw Cymru’n cael ei llethu,” meddai yn ystod yr araith. "Rydym yn dweud mai'r broblem yw pam mae ein pobl ifanc ein hunain yn teimlo bod yn rhaid iddynt adael.”

    Ond yn yr un araith mae hi’n dweud na fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cytuno gyda Phlaid Cymru i ddileu grant gwerth £1,000 i fyfyrwyr o Gymru sy’n mynd i brifysgolion yn Lloegr.

    Dywed Jane Dodds fod y polisi yna yn un “creulon”.

    A yw hynny'n wrthgyferbyniol - eisiau pobl ifanc i aros yng Nghymru, tra hefyd yn cefnogi iddynt adael?

  18. Cynllun i wella ffigyrau goroesi canser yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 11:47 GMT+1

    Owain Clarke
    Gohebydd iechyd BBC Cymru

    Mi fydd tua hanner y boblogaeth yn datblygu canser ar ryw adeg yn ystod eu bywydau.

    Ac o ran gofal canser, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn addo rhoi hwb i'r cyfraddau goroesi drwy sicrhau bod 100% o gleifion yn dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i phryd mae amheuaeth o'r clefyd.

    Mae'r ystadegau iechyd diweddaraf ar gyfer Cymru'n dangos mai dim ond 57% o achosion a ddechreuodd driniaeth o fewn yr amser hwn ym mis Ionawr - sydd ymhell islaw'r targed o 75%.

    Felly, bydd unrhyw gynllun a allai wella'r ffigyrau hynny'n cael ei groesawu gan elusennau canser.

    Ond er bod cyfraddau goroesi canser yng Nghymru, i ryw raddau, wedi bownsio'n ôl ar ôl iddyn nhw ostwng yn ystod y pandemig - bu pryderon ers tro bod y cyfraddau yma, yn ogystal ag ar draws y DU, yn is na chyfraddau gwledydd datblygedig tebyg.

    Ac mae yna bryder gwirioneddol fod y gwahaniaeth yn nifer y bobl sy'n goroesi yng nghymunedau cyfoethocaf Cymru o'i gymharu â'r rhai yn y cymunedau tlotaf, wedi parhau i fod yn anodd mynd i'r afael ag ef.

  19. Addewid ychydig yn wahanol ar gyfer cadw ysgolion gwledig ar agorwedi ei gyhoeddi 11:42 GMT+1

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

    Yn draddodiadol, mae cadw ysgolion bach gwledig ar agor wedi bod yn flaenoriaeth i’r blaid. Ond yn y maniffesto yma mae 'na addewid sydd rhywfaint yn wahanol.

    Maen nhw’n dweud dylai fod o leiaf un lleolaid addysg cyfrwng Cymraeg ac un cyfrwng Saesneg o fewn awr o daith mewn ardaloedd gwledig, ac o fewn 30 munud mewn ardaloedd trefol, erbyn 2035.

    Yn aml, y rheswm sy’n cael ei roi dros gau ysgolion bach yw’r angen i ddefnyddio adnoddau prin mew dull mor effeithlon â phosibl. Ac ariannu yw’r her amlycaf ar hyn o bryd i’r rhan fwyaf o ysgolion ledled Cymru.

    Mae’r blaid yn dweud y byddai’n cynyddu'r gwariant fesul disgybl ar gyfer ysgolion a cholegau uwchlaw cyfradd y chwyddiant bob blwyddyn.

  20. Proffil o Jane Dodds - mwy amdani ymawedi ei gyhoeddi 11:41 GMT+1

    Jane Dodds
    Disgrifiad o’r llun,

    Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn lansio maniffesto ei phlaid

    Mae Jane Dodds ar hyn o bryd yn amlinellu cynlluniau ei phlaid petai nhw’n cael eu hethol i lywodraethu fis Mai a hithau’n dod yn Brif Weinidog Cymru.

    Ond pwy ydi arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru? Darllenwch ein proffil o Jane Dodds yma.