Dy Lais: Beth yw barn pobl Môn cyn etholiad y Senedd?

Dafydd, Carwyn, Lowri a Sian yn rhannu eu barn ar dothwy etholiad y Senedd 2026
- Cyhoeddwyd
O'r 22 sir yng Nghymru, Môn ydy'r un sydd bellaf i ffwrdd o Fae Caerdydd.
Mae'r brifddinas yn gallu teimlo'n bell i ffwrdd, ac yn daith o dros bedair awr a hanner yn y car neu'r trên.
Yn naturiol efallai, mae natur ddaearyddol yr ynys yn golygu bod ffiniau'r etholaeth wedi aros yn sefydlog ers iddi gael ei chynrychioli gyntaf yn San Steffan yn y 16eg ganrif.
Ond ar lefel Gymreig, o fis nesa bydd yr ynys yn rhan o etholaeth newydd Bangor Conwy Môn - etholaeth a fydd hefyd yn cynnwys rhannau o siroedd Conwy, Gwynedd a Sir Ddinbych.
O ganlyniad, bydd y ffiniau'n ymestyn o Gaergybi yn y gorllewin i Glocaenog yn y dwyrain.
Y pynciau sy'n bwysig i etholwyr Ynys Môn cyn etholiad Senedd 2026
Er fod dinas Bangor yn rhan o'r etholaeth newydd, a chymunedau fel Llandudno ar arfordir y gogledd, ar y cyfan bydd y naws yn parhau i fod yn un gwledig.
Mae'r etholaeth yn cael ei gwasanaethu gan Ysbyty Gwynedd ar gyrion Bangor, ac yn rhan o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sydd wedi bod o dan fesurau arbennig o 2015 hyd at Dachwedd 2020, ac unwaith eto ers Chwefror 2023.
Mewn digwyddiad ffermwyr ifanc diweddar yn Rhos-goch, ger Amlwch, roedd y pynciau sy'n pryderu pleidleiswyr yn rhai amrywiol.

Mae Dafydd Foulkes yn ffermio yn Llangaffo, ger Gaerwen ac yn credu y dylai Ynys Môn fod yn etholaeth ar ei phen ei hun
Dywedodd Dafydd Foulkes, sy'n ffermio yn Llangaffo, ger Gaerwen, bod y diciâu [TB] yn parhau i fod yn bryder, a'i fod "wedi mynd ymlaen yn lot rhy hir".
"Mae'n amser i lywodraethau rili feddwl yn galed am hynny erbyn rwan.
"Mae'r SFS [cynllun cymorthdaliadau amaeth newydd Cymru, y Cynllun Ffermio Cynaliadwy] yn edrych yn reit ddiddorol... mae 'na lot hefo gwahanol farn am hwnnw, dwi'n meddwl bydd o'n reit dda ond mae'n anodd gwybod.
"Ond hefyd yr NHS.... mae 'na waith mawr cael trefn yn fanno hefyd, ond dwn 'im be' ydy'r ateb."
Dydy Dafydd ddim yn croesawu bod y sedd newydd yn golygu uno Ynys Môn gyda rhannau o'r tir mawr.
"Dylian ni fod yn set ein hun, 'da ni'n ynys.... mae'r dŵr yn gwneud boundary hollol gall yn dydi."
Sedd aml-liw
Yn wleidyddol mae sawl plaid wahanol wedi gweld llwyddiant yn y rhan yma o'r byd.
Mae Arfon - sef rhan Bangor a Dyffryn Ogwen o'r etholaeth newydd - wedi bod yn sedd Plaid Cymru ym Mae Caerdydd ers ei sefydlu yn 2007.
Ond cyn hynny roedd yr ardaloedd yma yn rhan o sedd Conwy, a welodd gynrhychiolaeth gan Blaid Cymru a'r Blaid Lafur ers dyfodiad datganoli yn 1999.
Ymhellach i'r dwyrain, y Ceidwadwyr sydd wedi dal sedd Aberconwy ers 2011.
Ac er mai Plaid Cymru sydd wedi cynrychioli Ynys Môn yn y Bae ers 27 mlynedd, yn San Steffan roedd hi'n sedd Lafur ac yna Ceidwadol yn 2019, cyn i Blaid Cymru ei hennill hi'n ôl yn Etholiad Cyffredinol 2024.
Mae Carwyn Rowlands o Fryngwran yn 17 oed ac yn gymwys i bleidleisio am y tro cyntaf.
Mae o eisiau gweld mwy o brentisiaethau a gwaith ar gael i bobl ifanc, ond mae'n dweud nad ydy o wedi cadw llygad agos ar yr ymgyrch hyd yma.

Bydd Carwyn Rowlands yn pleidleisio am y tro cyntaf
"Doedd gen i'm syniad fod o'n mynd ymlaen!" meddai.
"Mae angen ei hysbysu o'n well i bobl ifanc dwi'n meddwl."
Ond i Lowri Hughes, mae 'na bynciau sy'n bwysig iawn iddi.
"Mae o 'di bod yn anodd, does na'm llawer o swyddi i bobl sydd newydd raddio," meddai.
"Dwi hefyd yn fam newydd felly mae'r cymorth ariannol pan mae'n dod i ofal plant yn ofnadwy o bwysig.
"Dwi'n gorfod mynd yn ôl i'r gwaith ac yn edrych i dalu rhyw £800 y mis ar ofal plant.. dwi'm yn gallu fforddio mynd yn ôl llawn amser.
"Does na'm cymorth yna."

Mae cymorth ariannol at ofal plant yn bwysig i Lowri Hughes
"Gwaith o safon am flynyddoedd i ddod gobeithio," ydy dyhead Twm Tudor, sydd hefyd yn byw ym Mryngwran.
"A gweld datblygiad a gwellhad o fewn yr ynys 'de.
"Pwy bynnag sy'n dod i fewn dwi jyst isho gweld ôl ar eu holau nhw de, bod ni'n teimlo o ddydd i ddydd bod ein bywydau yn gwella."

Mae Twm Tudor yn gobeithio y bydd y rhai fydd yn cael eu hethol yn gwneud gwahaniaeth
I Sian Tudor, sydd hefyd yn ffermio yn ogystal â rhedeg busnes, mae natur y drafodaeth hefyd wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf.
"Os 'dach chi'n ffermio ar dir isel mae be 'da chi ei angen gan y llywodraeth yn hollol wahanol i ffermwyr sydd ar y tir uchel," meddai.

Mae anghenion amaethyddol ffermwyr yn wahanol, medd Sian Tudor
"Mae ffermwyr llaeth angen sicrwydd y bydd 'na dâl iawn ar eu cyfer nhw... sicrhau does na'm mewnforio cig o wledydd tramor sydd ddim yn gorfod mynd i'r un faint o ofal â ni.
"Mae'r pethau 'ma yn ofnadwy o bwysig, a dwi'n meddwl bod 'na dro wedi bod yn yr hyn sy'n bwysig - mae'r pethau sy'n bwysig ers stalwm wedi'u lluchio i'r cefn rwan a pethau mwy tanbaid yn dod i law."
Bydd etholiad y Senedd yn cael ei gynnal ar 7 Mai.