Gwahardd cerdd Bardd Cenedlaethol o'r Senedd yn 'sensoriaeth' a'n 'wael i Gymru'

Dywedodd Dr Gower fod y penderfyniad Comisiwn y Senedd i wrthod y cerdd yn "siomedig ar y naw"
- Cyhoeddwyd
Roedd gwahardd Bardd Cenedlaethol Cymru rhag darllen cerdd yn agoriad y Senedd yn "enghraifft o sensoriaeth" ac yn "beth gwael i Gymru", yn ôl yr awdur Jon Gower.
Ni chymerodd Hanan Issa ran yn y seremoni ddydd Iau fel yr oedd wedi'i gynllunio, ar ôl i swyddogion Comisiwn y Senedd wrthod y gerdd yr oedd wedi'i hysgrifennu ar gyfer y digwyddiad.
Dywedodd Hanan Issa ar y cyfryngau cymdeithasol fod ei cherdd wedi cael ei gwrthod gan fod y seremoni yn un "anwleidyddol".
Ar y pryd dywedodd Comisiwn y Senedd eu bod "wedi dod i'r casgliad, yn dilyn proses ddatblygu, nad oedd y gerdd yn addas ar gyfer yr achlysur hwn".
Ni wnaeth y Comisiwn ymateb i feirniadaeth Jon Gower.

Fe wnaeth Hanan Issa olynu Ifor ap Glyn fel Bardd Cenedlaethol Cymru
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Dr Gower fod penderfyniad Comisiwn y Senedd i wrthod y gerdd yn "siomedig ar y naw".
"Mae Cymru'n cael sylw yn y wasg ar draws y byd, nid am ddathliad agoriad y Senedd, ond yn hytrach bod y Senedd wedi gwahardd ein bardd cenedlaethol rhag cyflwyno ei geiriau hi," meddai.
"Mae'n ddiddorol edrych ar y gwahoddiad yr oedd Hanan Issa wedi cael. Roedden nhw wedi gofyn iddi sgwennu cerdd i gyflwyno yn y digwyddiad yma oedd yn atgoffa aelodau'r Senedd o'u cyfrifoldebau nhw i bobl Cymru a'u hymrwymiad nhw.
"Ac yn y gwahoddiad yna, dywedon nhw 'we are happy for Hanan to execute the poem as they wish'.
"Dwi'n meddwl fod o'n siomedig iawn bod nhw'n ffrwyno bardd yn y ffordd yna."
'Brenin yn cael help a'r bardd yn cael ei thawelu'
Dywedodd mai "geiriau gwag" oedd ymateb Llywydd y Senedd, Huw Irranca-Davies, a anogodd pobl i ddarllen y gerdd a gafodd ei gwrthod.
"Mi'r oedd hi wedi addasu a chyfaddawdu a dwi'n credu wedyn mae'r ffordd mae pobl yn gweld yr holl beth nawr fel enghraifft o sensoriaeth gan Gomisiwn y Senedd yn beth gwael i Gymru," meddai Dr Gower.
"Dylwn ni fod yn dathlu creadigrwydd yn hytrach na cloffi fe."
Wrth ymateb i araith y Brenin, a gyfeiriodd at gân Dafydd Iwan 'Yma o Hyd', dywedodd fod "y Brenin yn cael help [gyda'i araith] a'r Bardd Cenedlaethol yn cael ei thawelu".
'Dim croeso i gerdd sy'n codi materion gwleidyddol'
Ar Radio Wales fore Iau, dywedodd Issa iddi geisio lleddfu pryderon ac addasu ei gwaith yn dilyn sgwrs gyda'r Comisiwn, "ond yn amlwg doedd hynny ddim yn ddigon".
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n dweud cyfrolau bod siambr sy'n clywed trafodaethau gwleidyddol bob tro mae aelodau'r Senedd yn cwrdd, ond bod dim croeso i gerdd sy'n codi materion gwleidyddol, mae hynny'n teimlo'n bryderus."
Rhannodd Issa neges ar Instagram nos Fercher yn dweud bod ei cherdd 'To Grow' wedi cael ei gwrthod.
Roedd y gwaith yn cyfeirio at bynciau fel y sefyllfa yn Gaza a gofal iechyd i bobl traws, ymhlith pethau eraill.
Dywedodd fod ail fersiwn o'r gerdd oedd yn cynnwys iaith mwy "haniaethol" hefyd wedi cael ei gwrthod.
Dywedodd ei bod wedi derbyn briff i ysgrifennu darn a fyddai'n "dathlu" aelodau'r Senedd a'u "llwyddiant wrth gael eu hethol, tra'n eu hatgoffa o'u hymrwymiad i bobl Cymru".

"Mewn termau cyfreithiol hawliau dynol doedd y Comisiwn ddim wedi gwneud ddim byd o'i le," meddai'r Prifardd Emyr Lewis
Hefyd ar Dros Frecwast, dywedodd y Prifardd yr Athro Emyr Lewis, bod y "gyfraith yn eithaf eglur bod hawl gan seneddau i drefnu be' sy'n digwydd oddi fewn eu hunain a ddyle'r gyfraith ddim ymyrryd ar hynny".
"Felly mewn termau cyfreithiol hawliau dynol doedd y Comisiwn ddim wedi gwneud dim byd o'i le," meddai.
"Ond os ydyn ni'n ystyried y peth mewn termau o beth yw Bardd Cenedlaethol Cymru o'i gymharu â'r Poet Laureate, sy'n benodiad gan y Brenin, ac yn cael arian a barel o win am eu gwaith felly 'da chi'n disgwyl i'r Poet Laureate falle osgoi beirniadaeth.
"Mae Bardd Cenedlaethol Cymru yn gystadleuaeth agored, mae Hanan Issa wedi'i phenodi.
"Mae ei swyddogaeth hi yn wahanol iawn, mae Llenyddiaeth Cymru yn dweud mai cynrychioli diwylliannau ac ieithoedd amrywiol Cymru ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol mae hi fod i wneud."
Ychwanegodd: "Dyw'r gerdd ddim wedi'i gwahardd ond fe alle [Hanan Issa] ddadlau dyw e ddim wedi digwydd ar y llwyfan yna a bydd yr impact ar y llwyfan yna yn fwy na be' mae e wedi bod."
Mewn datganiad, dywedodd Comisiwn y Senedd: "Yn dilyn proses ddatblygu, fe wnaethon ni ddod i'r casgliad nad oedd y gerdd yn addas ar gyfer yr achlysur hwn.
"Rydyn ni'n parchu annibyniaeth artistig Bardd Cenedlaethol Cymru ac yn parhau i edmygu ei gwaith."
Mewn cyfweliad ar Dros Frecwast ddydd Iau, dywedodd Llywydd y Senedd, Huw Irranca-Davies fod y sefyllfa yn "anffodus".
"Mae'n anffodus na atebodd y gerdd anghenion yr achlysur hwn, er nad yw hynny'n adlewyrchu dim a'r rhinweddau'r bardd na'r gerdd," meddai.
"...Yn y Senedd rydym ni'n siarad am bynciau gwleidyddol bob dydd, bob wythnos trwy'r flwyddyn, ond yn y seremoni heddiw, yr agoriad seremonïol, mae'n rhaid i ni ffocysu ar wasanaeth yr aelodau i bobl ledled Cymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.