Agor y Senedd: Canmol 'ymdeimlad o berthyn' ond y Bardd Cenedlaethol ddim yno

Y Brenin Charles a'r FrenhinesFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Brenin ei fod "bob amser wedi teimlo'n hynod freintiedig ac yn falch o fod wedi cael cysylltiad mor arbennig â Chymru, â'i hiaith, ei diwylliant a'i thirwedd"

GanAlun JonesacIfan YwainBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Brenin Charles a'r Frenhines wedi dychwelyd i'r Senedd ddydd Iau ar gyfer agoriad swyddogol seithfed tymor Senedd Cymru.

Dyma oedd y tro cyntaf i'r Brenin gwrdd â Phrif Weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth mewn seremoni swyddogol.

Nid oedd Bardd Cenedlaethol Cymru yn rhan o'r seremoni fel y disgwyl ar ôl i swyddogion y Senedd wrthod cerdd yr oedd hi wedi ei hysgrifennu ar gyfer y digwyddiad.

Dywedodd y Brenin y bydd yn ymweld ag Aberfan – safle trychineb y domen lo ym 1966 – yr wythnos nesaf, ac fe wnaeth e gwrdd â Gareth Jones, a oroesodd y trychineb pan oedd yn chwech oed.

Cafwyd cyfarchiad y Gynnau Brenhinol ym Mae Caerdydd i nodi dyfodiad y Brenin i'r ddinas.

Croesawyd y Brenin a'r Frenhines i'r Senedd gan ddisgyblion o Ysgol Gynradd Llwynypia, Tonypandy, ac Ysgol Gynradd Albany, Caerdydd.

Cafodd un person ei arestio wrth i lond llaw o brotestwyr ymgynnull ger y Senedd, gyda'r heddlu'n dweud bod yr unigolyn wedi gwrthod cydymffurfio gyda gorchymyn i adael y safle.

'Yma o Hyd'

Dywedodd y Brenin fod llawer o wynebau newydd yn y Senedd, yn ogystal ag wynebau cyfarwydd y gallai rhywun ddychmygu eu bod yn dweud "Yma o Hyd" – gan gyfeirio at gân Dafydd Iwan.

Ychwanegodd y Brenin ei fod "bob amser wedi teimlo'n hynod freintiedig ac yn falch o fod wedi cael cysylltiad mor arbennig â Chymru, â'i hiaith, ei diwylliant a'i thirwedd".

"Wrth i chi fwrw ymlaen â'ch tasg o lywodraethu, gwyddom y byddwch bob amser yn cadw'r cryfderau hynny a rennir mewn cof, ac yn tynnu ysbrydoliaeth ohonynt, wrth i chi weithio ar ran pobl y gornel hon o'r ddaear sy'n wirioneddol arbennig."

Brenin mewn carFfynhonnell y llun, Comisiwn y Senedd

Dywedodd y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth bod "heddiw yn ddiwrnod o ddathlu ac adnewyddu" ac yn nodi "pennod newydd yn hanes Cymru a'i senedd."

Dywedodd Llywydd y Senedd, Huw Irranca-Davies, bod "ychydig o eiriau Cymraeg syml yn mynegi'r hyn y dylai fod, bob amser, wrth wraidd ein gwaith:

"Gorau Cymru, Cymry."

"Mae'r Senedd hon yn perthyn iddynt hwy.

"Mae'n perthyn i'r cymunedau rydym yn eu cynrychioli, i'r rhai sydd wedi rhoi eu hymddiriedaeth ynom, ac i'r bobl ifanc hynny a fydd yn etifeddu'r hyn rydym yn ei adeiladu."

Disgrifiad,

'Braint canu yn y Gymraeg' yn ystod seremoni agoriadol y Senedd

Ni chymerodd bardd cenedlaethol Cymru Hanan Issa ran yn y seremoni fel yr oedd wedi'i gynllunio, ar ôl i swyddogion y Senedd wrthod y gerdd yr oedd wedi'i hysgrifennu ar gyfer y digwyddiad.

Dywedodd Hanan Issa ar y cyfryngau cymdeithasol fod ei cherdd wedi cael ei gwrthod gan fod y seremoni yn "anwleidyddol".

Mewn ymateb dywedodd Comisiwn y Senedd eu bod "wedi dod i'r casgliad, yn dilyn proses ddatblygu, nad oedd y gerdd yn addas ar gyfer yr achlysur hwn".

Ar Radio Wales fore Iau, dywedodd Issa iddi geisio lleddfu pryderon ac addasu ei gwaith yn dilyn sgwrs gyda'r Comisiwn, "ond yn amlwg doedd hynny ddim yn ddigon".

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n dweud cyfrolau bod siambr sy'n clywed trafodaethau gwleidyddol bob tro mae aelodau'r Senedd yn cwrdd, ond bod dim croeso i gerdd sy'n codi materion gwleidyddol, mae hynny'n teimlo'n bryderus."

Hanan IssaFfynhonnell y llun, Abi Bansal
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Hanan Issa olynu Ifor ap Glyn fel Bardd Cenedlaethol Cymru

Roedd awgrym y byddai Hanan Issa yn darllen cerdd fel rhan o'r seremoni swyddogol ddydd Iau.

Ond nos Fercher, mewn neges gafodd ei rannu ar Instagram, dywedodd fod ei cherdd 'To Grow' wedi cael ei gwrthod.

Roedd y gwaith yn cyfeirio at bynciau megis y sefyllfa yn Gaza a gofal iechyd i bobl traws ymhlith pethau eraill.

Dywedodd fod ail fersiwn o'r gerdd oedd yn cynnwys iaith mwy "haniaethol" hefyd wedi cael ei gwrthod.

'Wedi fy siomi mwy na dim'

Dywedodd Ms Issa ei bod wedi derbyn briff i ysgrifennu darn a fyddai'n "dathlu" Aelodau'r Senedd a'u "llwyddiant wrth gael eu hethol, tra'n eu hatgoffa o'u hymrwymiad i bobl Cymru".

"Dwi wedi fy siomi mwy na dim. Mae'r siambr yma yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynnal sgyrsiau gwleidyddol, ond mae'r penderfyniad yma yn awgrymu nad oes croeso i sgwrs wleidyddol ar ffurf barddoniaeth," meddai wrth BBC Cymru.

Mewn datganiad, dywedodd Comisiwn y Senedd: "Yn dilyn proses ddatblygu, fe wnaethon ni ddod i'r casgliad nad oedd y gerdd yn addas ar gyfer yr achlysur hwn.

"Rydyn ni'n parchu annibyniaeth artistig Bardd Cenedlaethol Cymru ac yn parhau i edmygu ei gwaith."

Mewn cyfweliad ar Dros Frecwast, dywedodd Llywydd y Senedd, Huw Irranca-Davies fod y sefyllfa yn "anffodus".

"Mae'n anffodus na atebodd y gerdd anghenion yr achlysur hwn, er nad yw hynny'n adlewyrchu dim a'r rhinweddau'r bardd na'r gerdd," meddai.

"...Yn y Senedd rydym ni'n siarad am bynciau gwleidyddol bob dydd, bob wythnos trwy'r flwyddyn, ond yn y seremoni heddiw, yr agoriad seremonïol, mae'n rhaid i ni ffocysu ar wasanaeth yr aelodau i bobl ledled Cymru."

'Siomedig nad oes elfen lenyddol'

Dywedodd Llenyddiaeth Cymru mewn datganiad eu bod yn "siomedig nad oes elfen lenyddol i'r dathliad ffurfiol hwn o ddemocratiaeth Cymru" ond eu bod yn derbyn y penderfyniad.

"Mae Hanan Issa wedi bod yn egwyddorol a pharchus wrth rannu'r gwir â'r rhai mewn grym erioed, ac roedd y rhinweddau hynny yn allweddol yn y penderfyniad i'w phenodi yn Fardd Cenedlaethol yn 2022.

"...Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch fod gennym Fardd Cenedlaethol nad yw'n osgoi taflu goleuni ar faterion sy'n wynebu pobl Cymru, yn ogystal â phryderon am ddigwyddiadau tu hwnt i ffiniau'r wlad.

"Rydym yn parchu hawl y Bardd Cenedlaethol i gyfathrebu negeseuon yn eu dull nhw eu hunain, ac i arfer eu hunaniaeth creadigol.

"...Rydym hefyd yn cydnabod hawl Comisiwn y Senedd, fel y rhai a gomisiynwyd y gwaith, i benderfynu peidio cynnwys y gerdd yn eu dathliad gan eu bod o'r farn nad oedd yn addas ar gyfer yr achlysur."

Protestwyr
Disgrifiad o’r llun,

Yn ogystal â chefnogwyr, roedd rhai wedi dod i brotestio'n erbyn y digwyddiad

Fe wnaeth Y Brenin draddodi araith yn siambr y Senedd, yn dilyn seremoni oedd yn cynnwys perfformiad gan y Delynores Frenhinol, Mared Emyr Pugh-Evans.

Wedi araith gan Rhun ap Iorwerth, roedd perfformiadau gan gôr Merched Plastaf, wedi'i ffurfio gan ddisgyblion o dair ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd sef Ysgol Gyfun Plasmawr, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, ac Ysgol Gyfun Bro Edern.

Ymhlith y rhai fu'n cwrdd â'r Brenin oedd Noah Jones, 10 oed – goroesodd ei hen-dad-cu Gareth drychineb Aberfan, yn ogystal â phlant o ysgolion cynradd yng Nghaerdydd a Llwynypia.

Agorodd y Frenhines Elizabeth bob sesiwn o'r Senedd – neu'r Cynulliad Cenedlaethol fel yr oedd cyn 2020 – cyn ei marwolaeth bedair blynedd yn ôl.

Mae'r Brenin wedi bod yn bresennol ym mhob Agoriad o'r Senedd, gan gynnwys y cyntaf ym 1999, fel Tywysog Cymru ar y pryd, ond nid oedd y Tywysog Cymru presennol, William, yn bresennol ddydd Iau.

y Brenin Charles ar ei ymweliad cyntaf â'r Senedd fel brenin fis Medi 2022Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Croesawodd Elin Jones - y Llywydd ar y pryd - y Brenin Charles ar ei ymweliad cyntaf â'r Senedd fel brenin fis Medi 2022

Roedd cyfarfod y Brenin gyda Rhun ap Iorwerth yn foment arwyddocaol a symbolaidd, ac yn ganlyniad i etholiad y Senedd ym mis Mai pan ddaeth Plaid Cymru yn gyntaf gan ddisodli Llafur o rym.

Mae Plaid Cymru yn cefnogi annibyniaeth ac â'i gwreiddiau mewn traddodiad gweriniaethol cryf.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth mewn cyfweliad â Politics Home y llynedd nad oedd yn credu mewn "brenhinoedd a thywysogion", ond nododd nad oedd hynny'n "flaenoriaeth wleidyddol iddo".

Dywedodd ei fod yn deall bod y frenhiniaeth yn parhau i fod yn "bwysig" i lawer yng Nghymru, ond nododd fod "dadl glir y dylid rhoi teitl Tywysog Cymru yn y llyfrau hanes".

Brenin a'r Prif WeinidogFfynhonnell y llun, Aaron Chown/PA
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y Brenin a'r Prif Weinidog gwrdd mewn digwyddiad preifat yn ddiweddarach ddydd Iau

Pan oedd yn iau, roedd y prif weinidog yn aelod o fand o'r enw 69 – cyfeiriad at arwisgiad dadleuol Charles fel Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon yn 1969.

Roedd holl Aelodau Plaid Cymru o'r Senedd yn bresennol ddydd Iau, heblaw am Adam Price sydd ar daith i hyrwyddo Cymru yn yr Unol Daleithiau.

Nid felly y bu pethau bob amser. Yn 2011, cadwodd pedwar Aelod o'r Senedd o Blaid Cymru draw – gan gynnwys Leanne Wood, cyn iddi ddod yn arweinydd y blaid y flwyddyn ganlynol.

Fe wnaeth arweinwyr y gwrthbleidiau yn y Senedd – Reform, Llafur, y Ceidwadwyr, y Gwyrddion a'r Democratiaid Rhyddfrydol – hefyd gyfarch y Brenin, felly hefyd Llywydd y Senedd, Huw Irranca-Davies ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Kinnock.

Arwisgo Charles fel Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon ar 1 Gorffennaf 1969Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Charles ei arwisgo fel Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon ar 1 Gorffennaf 1969

Wrth i'r Brenin a'r Frenhines gyrraedd Caerdydd cafodd cyfarchiad y Gynnau Brenhinol (21 rownd) ei seinio y tu allan i'r Senedd.

Cafodd y byrllysg seremonïol ei gario i'r Senedd a'i osod yn ei le fel arwydd o agoriad swyddogol y seithfed Senedd.

Cludwyr y Byrllysg oedd Delyth Lewis, rheolwr Senedd Ieuenctid Cymru, a Lukas Santos Evans, dirprwy glerc i bwyllgorau'r Senedd.

Yn wreiddiol o São Paulo ym Mrasil, symudodd Lukas Santos Evans i Gymru 10 mlynedd yn ôl.

Yn ymuno â nhw yn rhan o'r orymdaith oedd dau aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, sef Ffiôn-Hâf Scott, aelod a etholwyd gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, ac Aryan Gupta, aelod dros Lanelli.

Y telynorion eraill yn y digwyddiad oedd Arpe Dolce, sef y ddeuawd Angharad Wyn Jones a Dylan Cernyw, Dafydd Huw a Rhianwen Pugh.

Y tu allan i'r Senedd, wrth i'r Brenin a'r Frenhines adael, roedd Côr CFfI Cymru - sy'n cynnwys aelodau o Glybiau Ffermwyr Ifanc ledled Cymru, ac yn dod â lleisiau o bob un o 16 etholaeth y Senedd ynghyd - yn canu Fel Hyn 'Da Ni Fod gan Bwncath, sef y gân a ddewiswyd gan y mudiad i ddathlu hunaniaeth, cymuned a pherthyn yng Nghymru.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.