Beth yw blaenoriaethau byd amaeth cyn etholiad y Senedd?

Mae myfyrwyr amaeth Coleg y Drenewydd yn codi pryderon am effaith costau nwyddau hanfodol, TB a'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar y diwydiant
- Cyhoeddwyd
Wrth edrych ymlaen at etholiad y Senedd, mae myfyrwyr a darlithwyr amaeth ar gampws Coleg y Drenewydd yn dweud mai buddsoddi yn y diwydiant a chreu cyfleoedd i bobl ifanc yw rhai o'u prif flaenoriaethau.
Maen nhw hefyd yn poeni am effaith TB mewn gwartheg ac yn cwestiynu beth fydd effaith cynllun cymorthdaliadau amaeth newydd Cymru, y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC), ar y diwydiant.
Ar yr un pryd, mae'r argyfwng yn y Dwyrain Canol yn peri pryder o ran costau nwyddau hanfodol fel tanwydd, bwyd anifeiliaid a gwrtaith.
Fferm Fronlas, fferm gymysg 140 hectar ger y Drenewydd, yw canolfan yr adran amaeth lle mae myfyrwyr yn cael profiad ymarferol o'r diwydiant.
Mae Sian Jerman yn un o ddarlithwyr amaeth yn y coleg.
"Dwi'n meddwl ein bod ni'n chwilio am gefnogaeth wrth symud ymlaen, gyda lot o stwff yn dod ymlaen fel y cynllun CFfC, ac mae TB yn dal yn broblem," meddai.

Dywedodd y darlithydd Sian Jerman fod angen mwy o gefnogaeth i'r diwydiant amaeth
Dywedodd hefyd bod "lot o bryder" ynghylch effaith y rhyfel yn y Dwyrain Canol ar gostau tanwydd a mewnbynnau eraill i ffermwyr.
Ychwanegodd y byddai mwy o gyfleoedd i bobl ifanc fynd i mewn i'r diwydiant yn help i'r sector yn y dyfodol.
"Mae cynlluniau fel Cyswllt Ffermio yn ceisio dod â phobl ifanc i mewn i fusnesau ffermio, sy'n gallu lleihau'r baich gwaith ar ffermwyr ac yn rhoi cyfle iddyn nhw gymryd rhan mewn penderfyniadau busnes.
"Yn aml, mae'n anodd i bobl ifanc ddechrau bant yn y diwydiant, yn enwedig os nad ydyn nhw'n dod o gefndir amaethyddol, ac mae'n gallu bod yn anodd ffeindio job ar ôl gadael coleg."
Ychwanegodd, er bod "digon o swyddi amaethyddol ar gael", fod dod o hyd i waith hirdymor yn her gan nad yw rhai rolau'n cael eu hystyried yn yrfa.
"Ond os ydyn nhw actually yn berchen ar rywbeth ma' nhw wedyn yn teimlo eu bod nhw yn cael mwy o impact."

Dywedodd Josh Davies fod effaith TB wedi gorfodi ei deulu i leihau nifer eu gwartheg
Effaith TB mewn gwartheg yw prif bryder Josh Davies o ardal Llanfair Caereinion, sy'n astudio amaeth-beirianneg lefel 3.
"Mae teulu Dad wedi byw ar ein fferm ni yn ardal Llanfair Caereinion am flynyddoedd mawr, a fe yw'r trydydd cenhedlaeth i ffermio yno," meddai.
Esboniodd eu bod bellach wedi gorfod lleihau nifer y gwartheg ar y fferm oherwydd TB.
"Mae hyn wedi bod yn anodd iawn ar fy nhad achos ma' fe'n caru'r gwartheg, ond oherwydd y straen gyda TB ac oherwydd iechyd e, mae'n haws cael gwared ar y gwartheg i gyd, ac ry' ni'n troi nawr at ddefaid ac alpacas."
Lansio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar ôl blynyddoedd o ddadlau
- Cyhoeddwyd2 Ionawr
Oedi cynllun ffermio dadleuol tan 2026 ar ôl protestiadau
- Cyhoeddwyd14 Mai 2024
Cydweithio ar gynllun ffermio yn 'batrwm i'r dyfodol'
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2025
Dywedodd fod colli'r gwartheg yn rhoi straen mawr ar y teulu ac yn achosi gofid.
"Bydden ni'n hoffi gweld mwy o sylw yn cael ei roi i broblem TB mewn gwartheg ar ffermydd fel ein un ni," meddai.
Ychwanegodd y byddai'n well gweld ffyrdd eraill o ddelio â TB yn hytrach na chael gwared ar wartheg, gan nad yw'r iawndal bob amser yn ddigonol.
"Ar hyn o bryd rwy'n astudio peirianneg amaeth yn y coleg, ond yn y dyfodol hoffwn weithio adref gyda'r anifeiliaid heb symud yn rhy bell o'r ardal."
Yn y pen draw, gobaith Josh ydy gweithio adref yn y dyfodol: "Dwi ddim eisiau symud yn rhy bell o fan hyn i fyw a gweithio - dwi'n hoff iawn o'r ardal ac eisiau bod o gwmpas yr anifeiliaid."

Yn ôl Ioan Phillips, mae angen mwy o eglurder ynghylch y cynllun CFfC a'i reolau
Mae Ioan Phillips o Aber-miwl yn astudio Diploma Cenedlaethol Uwch mewn amaeth ac yn gweithio ar y fferm deuluol yn ogystal â fferm leol.
Dywedodd y byddai "wir yn hoffi" gweld mwy o drafodaeth am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC) a "hefyd newidiadau posibl iddo".
Mae'r cynllun, a lansiwyd ym mis Ionawr eleni, yn disodli hen gymorthdaliadau'r UE ac yn talu ffermwyr am waith amgylcheddol a dulliau cynaliadwy, er iddo achosi dadlau dros ei effaith ar incwm a chynhyrchu bwyd.
Esboniodd Ioan fod rhai o'r rheolau presennol, fel cyfyngiadau ar dyfu india-corn ar lethrau, yn her i nifer o ffermydd.
"Ar hyn o bryd does dim modd tyfu maize ar lethrau o 12% neu fwy ac ma' hynny yn anodd iawn i nifer fawr o ffermydd."
Dywedodd nad yw ei fferm deuluol yn sicr a ydynt am ymuno â'r cynllun.
"Dwi'n gwybod am rai sydd ddim yn mynd i mewn iddo fe oherwydd y rheol hyn," meddai.
"Wrth edrych i'r dyfodol, rwy'n gweld mai'r ffermydd mawr fydd yn gwneud yr arian - mae'n anodd iawn i'r ffermydd bach.
"Dy'n nhw ddim yn gallu gwneud arian oherwydd pethau fel effaith TB a'r cynllun CFfC - mae'n anodd iawn iddyn nhw."
Mae BBC Cymru wedi gofyn i'r prif bleidiau gwleidyddol am eu hymateb i'r sylwadau.
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae amaethyddiaeth yn rhan hollbwysig o economi Cymru ac yn ganolog i'n diogelwch bwyd, felly dylai llywodraethau Cymru a'r DU fod yn barod i gamu mewn i gynnig cefnogaeth os yw'r sefyllfa yn gwaethygu."
Dywedodd Plaid Cymru mai "ffermio yw asgwrn cefn ein heconomi wledig a chalon ein cymunedau cefn gwlad ond mae'r sector gyfan wedi bod o dan straen sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf".
"Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn diogelu dyfodol ffermydd teuluol Cymru drwy barhau i gydweithio'n gryf â'r gymuned ffermio wrth i ni roi'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar waith, a pharhau i'w ddatblygu a'i fireinio."
Dywedodd y blaid Lafur: "Yn 2023, fe wnaeth llywodraeth Lafur Cymru lansio cynllun pum mlynedd sy'n nodi cyfeiriad y Rhaglen Dileu TB yn y dyfodol, gan weithio mewn partneriaeth â ffermwyr a milfeddygon. Byddwn yn cynnal ein gwaharddiad ar ddifa moch daear ar raddfa fawr.
"Byddai Llafur Cymru yn parhau i ddatblygu ein Cynllun Ffermio Cynaliadwy nodedig i hybu cynhyrchu bwyd cynaliadwy a chynyddu cefnogaeth i ffermwyr i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur."
Dywedodd Reform UK fod "sefydliad Bae Caerdydd" wedi bod yn "ymosod" ar ffermwyr, ond y bydd hynny'n newid os mai nhw fydd mewn grym.
"Byddwn ni'n diwygio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy i roi ffermwyr a diogelwch bwyd wrth galon y cynllun, byddwn ni'n gweithio gyda ffermwyr i ddatblygu strategaeth bwyd 10 mlynedd, a byddwn yn taclo TB gyda chynllun profi a rheoli yn seiliedig ar dystiolaeth."
Mae'r Blaid Werdd a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi derbyn cais am ymateb.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.