'Cam mawr' tuag at ddechrau adeiladu gorsaf bŵer newydd Wylfa

Delwedd 3d o'r wylfa newyddFfynhonnell y llun, Rolls-Royce
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rolls-Royce yn dweud y bydd y prosiect yn creu 8,000 o swyddi

  • Cyhoeddwyd

Mae "cam mawr" wedi'i gymryd tuag at dechrau ar y gwaith o adeiladu gorsaf bŵer niwclear newydd Wylfa ar Ynys Môn, yn ôl Llywodraeth y DU.

Roedd gweinidogion wedi dewis y safle ar ôl cytuno ar bartneriaeth gwerth £2.5bn gyda Rolls-Royce y llynedd i'w hadeiladu.

Mae'r cwmni'n honni y bydd y prosiect yn creu 3,000 o swyddi lleol a 5,000 o swyddi ychwanegol yn genedlaethol.

Fore Llun fe gyhoeddodd Rolls-Royce bod cytundebau wedi'u harwyddo - rhywbeth maen nhw'n dweud sy'n galluogi i'r gwaith ar y safle ddechrau.

Mae Tom Greatrex, prif weithredwr Cymdeithas y Diwydiant Niwclear, wedi croesawu'r newyddion, gan alw Wylfa yn lleoliad â "chryfderau unigryw" sydd â'r potensial i roi Prydain ar "flaen y gad o ran datblygiadau niwclear newydd".

Dywedodd y byddai'n paratoi'r ffordd ar gyfer fflyd o adweithyddion modiwlaidd bach (small modular reactors - SMRs) ar y safle.

Bydd y cytundeb yma yn gweld gwaith yn dechrau ar dri adweithydd SMR yn Wylfa - y rhai cyntaf yn y DU.

Fe fydd yn rhan o gynlluniau i ddiwallu galw cynyddol y DU am drydan a chreu swyddi.

Mae adweithyddion SMR yn cael eu cynhyrchu mewn ffatri mewn modiwlau cyn cael eu gosod at ei gilydd ar y safle.

Y gred yw y bydd y tri adweithydd gyda'i gilydd yn cyflenwi digon o drydan i bweru'r hyn sy'n cyfateb i dair miliwn o gartrefi am fwy na 60 mlynedd.

Gorsaf bwer Wylfa Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd adweithydd olaf Wylfa ei gau yn 2015 ar ôl cael ei adeiladu gyntaf yn y 1960au

Mae Wylfa yn hen orsaf bŵer niwclear oddi ar arfordir Ynys Môn.

Cafodd ei hadeiladu yn y 1960au, a dechreuodd gynhyrchu trydan am y tro cyntaf yn 1971, gan gyflogi miloedd o weithwyr.

Yn 2015, caewyd adweithydd olaf Wylfa a dechreuodd y broses hir o gael ei ddadgomisiynu, gan ddod â 44 mlynedd o weithredu ar y safle i ben.

Dywedodd Chris Cholerton, prif weithredwr Rolls-Royce SMR, fod y cytundeb yn enghraifft o "oes aur" Llywodraeth y DU "o ran cyflwyno ynni niwclear newydd yn llwyddiannus gyda thechnoleg Brydeinig".

Ychwanegodd Tom Greatrex, prif weithredwr Cymdeithas y Diwydiant Niwclear, ei fod yn "gam hanesyddol" ar gyfer pŵer glân, twf diwydiannol a swyddi medrus yng Nghymru.

"Mae'n nodi dechrau cyfnod newydd arwyddocaol a chyffrous i'r prosiect a phobl Ynys Môn," meddai.

Dywedodd Mr Greatrex y bydd y prosiect yn dod â "buddsoddiad sylweddol" i'r ardal ac ar draws Prydain, gan sicrhau "cyflenwad hirdymor y DU o bŵer dibynadwy, carbon isel".

Galwodd Ed Miliband, Ysgrifennydd Ynni Llywodraeth y DU, y prosiect yn "garreg filltir bwysig" ar gyfer diogelwch ynni Prydain.

'Manteisio i'r eithaf er budd Ynys Môn'

Dywedodd pennaeth rheoleiddio a datblygu economaidd Cyngor Ynys Môn, Christian Branch: "Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad heddiw gan Great British Energy – Nuclear a Rolls-Royce SMR fel cam pellach ymlaen tuag at gyflawni adweithyddion modiwlar bach yn Wylfa.

"Fel y gymuned sy'n cynnal y datblygiad, mae Ynys Môn yn benderfynol o barhau'n rhan annatod o'r trafodaethau a'r broses o wneud penderfyniadau wrth i'r prosiect pwysig hwn fynd rhagddo.

"Mae'r cyhoeddiad hwn yn atgyfnerthu'r potensial ar gyfer manteision economaidd, cymdeithasol a sgiliau sylweddol.

"Ein blaenoriaeth ni yw sicrhau bod y cyfleoedd hyn yn cael eu manteisio i'r eithaf er budd Ynys Môn – drwy swyddi lleol o ansawdd uchel, llwybrau sgiliau a hyfforddiant clir i bobl leol, a chyfranogiad ystyrlon gan fusnesau lleol a Chymru gyfan yn y gadwyn gyflenwi o'r cychwyn cyntaf.

"Er ein bod yn cydnabod y cyfleoedd sy'n cael eu cyflwyno, rydym hefyd yn ymwybodol bod angen rheoli'n ofalus yr effeithiau posib ar gymunedau, seilwaith a'r amgylchedd.

"Rhaid i drigolion lleol, yn enwedig yng ngogledd Ynys Môn, barhau'n ganolog i bob ystyriaeth wrth i'r prosiect symud drwy'r camau dylunio, cynllunio, adeiladu a gweithredu."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.