Teimlad 'sbesial' i gôr bechgyn Glantaf ar Britain's Got Talent

Bydd y côr yn cael gwybod yr wythnos nesaf a ydyn nhw wedi llwyddo cyrraedd y rownd nesaf
- Cyhoeddwyd
A hithau'n gychwyn tymor newydd yn yr ysgol, roedd 'na gyffro yn Ysgol Glantaf fore Llun.
Bu côr yr ysgol uwchradd yng Nghaerdydd yn perfformio ar raglen Britain's Got Talent nos Sadwrn.
Aeth y côr o 70 o fechgyn, a oedd yn cael eu harwain gan y cyn-gystadleuydd X-Factor, Lloyd Macey, drwodd i rownd nesaf y gystadleuaeth ar ôl i'r beirniaid godi i'w gymeradwyo yn y clyweliad.
Bydd y côr yn cael gwybod yr wythnos nesaf a ydyn nhw wedi llwyddo cyrraedd y rownd nesaf.

Dywedodd Lloyd Macey ei fod yn falch o gael aduniad gyda'r beirniaid
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Llun dywedodd Lloyd Macey: "Roedd e'n brofiad swreal i weld Simon [Cowell] eto ac i weld Alesha [Dixon] eto.
"Oedd e'n anhygoel, yn hollol wahanol yn amlwg [i'w brofiad ef yn 2017], yn sefyll yna yna teimlo balchder yn gweld yn holl fechgyn ar y llwyfan yna.
"Ond dwi mor falch bod Cymru, bod y byd, wedi llwyddo i weld nhw achos mae wedi bod yn anodd iawn i gadw'r gyfrinach am dros chwe mis."
Ychwanegodd mai'r hyn oedd yn "hyfryd" oedd bod y bechgyn yn "credu yn eu hunain, a nes i deimlo hynny, bo' nhw'n sefyll yna yn falch ac yn mwynhau'r canu".
Fe wnaeth y côr ganu'r gân Never Enough o ffilm The Greatest Showman, ond dywedodd Mr Macey, "os maen nhw'n llwyddiannus nawr a bod nhw'n mynd ymlaen i'r rownd gyn derfynol... cawn weld wedyn beth fydd y dewis, a Chymraeg neu Saesneg, cyfuno'r ddwy iaith".
Ychwanegodd fod y côr wedi "bod yn ymarfer rhag ofn, a'r wobr yw pizza ar ddiwedd [yr ymarfer]!".

Roedd Steffan, Ben a Rhodri yn siarad ar Dros Frecwast fore Llun
Dywedodd Ben, aelod o'r côr ei fod yn "deimlad anhygoel, byth wedi teimlo dim byd fel 'na.
"Yn amlwg ni wedi gwneud yr Eisteddfod, F1 shows a phethe fel 'na, ond i berfformio o flaen pobl fel 'na a'r standing ovation ar y diwedd, oedd e'n sbesial awn.
"I gael y pedwar 'ie', oedd e'n anhygoel - y bois i gyd yn browd iawn o'n gilydd."
Cyn eu perfformiad ar y rhaglen nos Sadwrn, roedd y bechgyn wedi cael eu gwahodd i berfformio mewn seremoni dadorchuddio cerflun o ffigwr dylanwadol yn y diwydiant cerddoriaeth.
Ond fel yr oedd y cerflun am gael ei ddadorchuddio, camodd Simon Cowell allan o dan y llen i ddweud y bydden nhw'n cael clyweliad ar ei raglen sioe adloniant.
Disgrifiodd aelod arall o'r côr, Steffan, sut y gwnaeth Mr Macey eu twyllo gan ddweud "bo' ni'n mynd i weld cerflun, ond wedyn oedd Simon Cowell wedi cerdded allan, a doedd dim geiriau 'da fi!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
