Colli £97,000 ar The Hunt ddim 'jyst yn gêm'

- Cyhoeddwyd
Bydd Ameer Davies-Rana yn adnabyddus i nifer fel ymgyrchydd dros gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.
Mae'r dyn o Rydaman yn weithgar yn y maes ers blynyddoedd ac wedi teithio Cymru benbaladr yn argyhoeddi pobl o'r buddion sy'n dod gyda siarad Cymraeg.
Ond fis Mai 2025 fe gymerodd egwyl fach o'i waith er mwyn teithio i Fwlgaria i gymryd rhan mewn rhaglen deledu realiti i Channel 4.
Mae The Hunt: Prey vs Predator wedi cael ei disgrifio fel cymysgedd o The Traitors a The Hunger Games ac newydd orffen cael ei darlledu.
Cafodd Cymru Fyw sgwrs gydag Ameer am ei amser yn cael ei hela yng nghoedwigoedd Bwlgaria.

Ameer, fel 'Prey', yn ei fest wyrddlas
"Cyrrhaeddais i'r final four." eglurodd, lle yr oedd ganddo ef a thri cystadleuydd arall - Shelley, Mhari a Marc – gyfle i ennill cyfanswm o £97,000 oedd wedi'i gasglu drwy gwblhau heriau yn ystod y gyfres.
"Aeth Shelley allan, aeth Mhari allan, a wedyn fi ar ôl gyda pwy o'n i'n meddwl oedd best friend fi [yn y gêm] sef Marc. Oedden ni'n dau yn meddwl 'Oh my gosh, ni newydd ennill...'"
Gyda'r neges ar faneg eu gwisg hela – y gauntlet – yn dweud eu bod nhw wedi ennill mae'r ddau yn dechrau dathlu.
"Ni'n dau yn dathlu, ni mor hapus a methu credu peth, ond wedyn mae'r tannoy oedd yn cyhoeddi yn dweud: 'Oh, you're not done yet... this is a game of trust and alliances and we're going to put that to a test.'
Mae'r ddau'n cael eu gwahanu gyda Marc yn cael ei anfon i'r goedwig ac Ameer yn cael ei anfon yn ôl i'r base i gwblhau'r her olaf.
Mewn ffeinal llawn tensiwn, mae Ameer yn sefyll yn wynebu tri gauntlet gyda'r rhifau 1, 2 a 3 arnynt. Mae pob rhif cynrychioli diweddglo gwahanol i'r gêm - Ameer yn ennill y cwbl, Marc yn ennill y cwbl neu rannu'r arian yn deg rhwng y ddau.
Posibilrwydd go iawn o rannu £97,000
Gan mai Marc oedd wedi casglu y mwyaf o arian yn yr heriau blaenorol, roedd ganddo faintais ac felly yn cael gwybod beth oedd bob rhif yn ei gynrychioli, ond roedd gan Ameer hawl dewis unrhyw rif ac anwybyddu cyngor Marc.
Oedd o'n mynd i ymddiried yn ei ffrind neu gymryd gambl i ennill y £97,000 i gyd iddo ei hun?
Gyda phum munud i drafod fe benderfynodd Marc ac Ameer ymddiried yn ei gilydd a rhannu'r wobr.
"I've got your back," meddai Marc wrth Ameer a'i gynghori i ddewis Gauntlet 2.
Ar ôl gwneud ei ddewis, mae Ameer yn ymlwybro'n ôl i'r goedwig at Marc lle fydd canlyniad y gêm yn cael ei ddatgelu.
Mae'r neges yn ymddangos ar y gauntlet: Marc takes all.
"Mae fe 'di dwyn y £97,000 i gyd o fi.
"Fi 'di cyrraedd y diwedd, wedi ennill, ond actually na mae e'n tynnu y mat o dan traed fi."
"Unwaith weles i Marc takes all ar y gauntlet ar braich fi, a edrych lan ato fe, oedd dim hyd yn oed geiriau gyda fi, honestly. O'n i just mor shocked, mor blindsided fel maen nhw'n dweud.
"Oedd e wedi twyllo fi yn gyfangwbl."

Cafodd Ameer y neges boenus ei fod wedi colli'r arian ar gauntlet ar ei fraich
Roedd bod mor agos i ennill yr arian a oedd Ameer wedi bwriadu'i ddefnyddio i roi blaendal ar dŷ yn dorcalonnus i'r dyn ifanc o Rydaman. Dywedodd fod y profiad wedi effeithio arno.
"Fi'n credu am dri mis solid ar ôl hwnna, oedd yr holl beth yn jyst yn cyrchdroi mewn pen fi.
"Mae fe 'di effeithio ar pen fi'n enfawr. Diolch byth bod psychiatrists gyda nhw ar y rhaglen."
"Mae lot o bobl wedi trio brwsio fe bant a dweud, 'oh, it's just a game, it's just a game.'
"Wel na, dyw e ddim. Dwi 'di 'neud y holl auditions, dwi 'di arwyddo cytundebau, fi di hedfan i wlad arall i wneud rhywbeth eitha' difrifol yn llygaid fi, achos, the classic line, there's a lot at stake."
"Mae'r arian yma'n gallu newid bywydau ni yn symud ymlaen. Roedd yr arian oeddwn i eisiau, neu yr arian o'n i'n meddwl o'n i wedi'i ennill, yn mynd i fynd tuag at tŷ cyntaf fi.
"Ti methu dweud bod e jyst yn gêm achos mae wedi cael effaith niweidiol ar fy mhen i, os mae hwnna'n gwneud synnwyr."

Cast The Hunt - Marc yw'r cyntaf ar y chwith
Gyda bron i flwyddyn wedi mynd heibio ers ffilmio'r gyfres mae Ameer yn dweud ei fod wedi cael amser i ddelio â'r golled.
"Fi'n really hapus nawr, heddiw, bo' fi ddim wedi bod y person i dwyllo a dwyn arian o rywun. Fydden i byth wedi gallu byw gyda fy hunan. Fi'n berson sydd yn gweithio'n y cyfryngau, gweithio yn ysgolion ac yn gwasgaru negeseuon pwysig am beth ry'n ni'n gwneud – cymeriad chi, bod yn onest, chwarae'n deg, dim jyst chwarae ond byw bywyd pob dydd gyda integrity."
Dywedodd fod gallu cynrychioli Cymry Cymraeg o gefndir mwslemaidd fel person sy'n gallu gwneud penderfyniadau da a meddwl am bobl eraill yn bwysig iddo.
"Mae 'na human element mae'n rhaid i fi wneud yn siŵr bod fi'n edrych ar ei ôl.
"Fi'n dala pen fi lan yn uchel gymaint â fi'n gallu. Fi yn licio'r cymeriad ohona' i sydd wedi cael ei oleuo ar y platfform yma hefyd. Felly mae hwnna, fi'n credu, i fi yn bersonol, er bod e wedi cymryd amser i ddod drosto, mae hwnna y canlyniad gorau i fi, fi'n credu."
Gallwch wylio The Hunt: Prey vs Predator ar Channel 4 ar alw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr

- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2025

- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2021
