Arweinydd Llafur Cymru'n trafod ei brofiad o orbryder ac iselder

Ken Skates mewn crys polo gwyn yn sefyll o flaen ffenestr fawr ac yn gwenu wrth edrych tua'r camera
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ken Skates ei holi ar safle hen waith dur Shotton yn Sir Y Fflint

  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd newydd Llafur Cymru wedi disgrifio'i frwydr gyda gorbryder ac iselder ers ei blentyndod, gan ddweud iddo ddioddef waethaf tra yn y brifysgol yn sgil teimlad nad oedd yn perthyn yna.

Dywedodd Ken Skates wrth bodlediad Walescast BBC Cymru ei fod wedi gofyn am help tra'n astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt, a chael diagnosis.

Disgrifiodd y teimlad o ddatgysylltu â'i hun, fel pe tai'n "gwylio" ei fywyd o'r tu allan a bod "dim byd yn teimlo'n real".

Dywed ei fod yn dal yn 'nabod arwyddion y gorbryder ond ei fod wedi dysgu i'w reoli trwy driniaeth a therapïau siarad.

Yn enedigol o Wrecsam ac wedi ei fagu ger Yr Wyddgrug, daeth Aelod o'r Senedd Y Fflint Wrecsam yn arweinydd Llafur Cymru fis diwethaf.

Roedd hynny wedi colled drom y blaid yn etholiad Senedd Cymru ym mis Mai, gan arwain at lywodraeth Plaid Cymru newydd gyda phlaid Reform yn wrthblaid.

Hyd hynny, roedd Llafur Cymru wedi llywio pob llywodraeth ers dechrau datganoli yn 1999, ond naw sedd yn unig sydd gan Lafur bellach o'r 96 posib yn y Senedd newydd.

Dri mis yn ddiweddarach, fe siaradodd Skates â Walescast fel rhan o gyfres o gyfweliadau dros yr haf gyda gwleidyddion Cymreig blaenllaw.

Mae'n cofio bod yn blentyn llawn pryder oedd "wastad yn awyddus i blesio" ac osgoi gwrthdaro - nodweddion y mae'n dal i'w gweld ynddo'i hun hyd heddiw.

Ken Skates mewn siwt dywyll, crys streipiog gwyn a thei coch yn gwenu wrth edrych i fan tua'r chwith heibio'r cameraFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ken Skates ei ethol yn ddiwrthwynebiad yn arweinydd Llafur Cymru ym mis Gorffennaf, gan olynu'r cyn-Brif Weinidog, Eluned Morgan

Skates oedd yr aelod cyntaf o'i deulu i fynd i'r brifysgol.

Roedd ei fam a'i dad wedi gweithio yng ngwaith dur Shotton ac mae'n dweud bod dirywiad y diwydiant hwnnw yn dilyn miloedd o ddiswyddiadau wedi siapio'i blentyndod.

Mae wedi dweud yn y gorffennol bod y profiadau hynny wedi creu synnwyr cryf ynddo o anghyfiawnder - a helpu i'w ddenu i wleidyddiaeth.

Fe ddaeth ei drafferthion iechyd meddwl i'r fei "mewn ffordd amlwg" wedi iddo fynd i Gaergrawnt.

"Ges i drafferth mynd trwy'r brifysgol, mae'n rhaid dweud, ac mae hynny'n bwysig," meddai.

"Mae'n ymwneud â hunaniaeth, cenedligrwydd, teimlo'n gyfforddus yn y lle rydych chi ond wnes i wir stryglo yn y brifysgol.

'Pam ydw i yma? Beth ydw i'n dda yma?'

"Roedd y lle es i yn anghyfarwydd i mi. Roedd fel nunlle o'n i wedi bod o'r blaen, ac roedd yna arferion ac ymddygiad oedd yn hollol ddieithr i mi.

"Do'n i erioed wedi gwisgo siaced o'r blaen, na blazer, heb sôn am wisgo gŵn.

"Gorfod gwneud hynny yn y dyddiau cyntaf, yng nghanol digwyddiad blasu gwin, oedd y man cychwyn, dwi'n meddwl, a gwneud i mi holi: 'Pam ydw i yma? Beth ydw i'n dda yma? Dyw hyn ddim yn fi. Dwi wir yn poeni am y lle yma.'

"Aeth o'n waeth ac yn waeth, y teimlad nad o'n i wir yn perthyn yna."

Arwydd 20mya ar stryd gyda thai ac awyr las yn y cefndirFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wasanaethodd Ken Skates fel Gweinidog yr Economi tra bod Llafur yn llywodraethu Cymru - ac roedd hefyd yn gyfrifol am y portffolio trafnidiaeth am gyfnodau, gan gynnwys y polisi 20mya dadleuol

Dywed Skates iddo ddechrau datgysylltu - symptom sy'n gysylltiedig â gorbryder ac iselder.

"Mae'n teimlo fel eich bod yn breuddwydio pob diwrnod ymaith," dywedodd.

Ar ôl methu â chael help yn y lle cyntaf, cafodd ddiagnosis o anhwylder pryder cyffredinol ac iselder, a chael meddyginiaeth gwrthiselder.

Ond mae'n dweud nad problem newydd mohono.

"Wrth dyfu i fyny, ro'n i'n ofnadwy o bryderus, yn wirioneddol bryderus," meddai.

"Ro'n i wastad yn awyddus i blesio... ac ro'n i angen osgoi gwrthdaro."

Mewn ymateb i gwestiwn a yw'r fath deimladau'n parhau, atebodd: "Yn bendant, ond dwi'n ymwybodol ohono."

Dywedodd bod therapïau siarad wedi ei helpu i ddeall y cyflwr a datblygu ffyrdd o'i reoli.

"Newidiodd hynny'r gêm," meddai.

I glywed y cyfweliad yn llawn, gwrandewch ar Walescast ar BBC Sounds.

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.