Llywodraeth Cymru yn dal i chwilio am gytundeb ar gynllun i wario £300m

- Cyhoeddwyd
Mae llywodraeth Plaid Cymru yn dal i chwilio am gytundeb ar gynllun i wario £300m cyn pleidlais yn y Senedd ddydd Mawrth.
Mae angen cefnogaeth plaid arall er mwyn i'r Senedd basio cyllideb atodol Llywodraeth Cymru.
Mae Llafur wedi bygwth pleidleisio yn erbyn os nad ydy'r llywodraeth yn cytuno i'w galw i wario mwy ar addysg i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
Nos Lun fe wnaeth y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth "gynnig terfynol" i geisio ennill cefnogaeth Llafur.
Mae Reform UK a'r Ceidwadwyr yn dweud nad oes trafodaethau'n digwydd rhyngddyn nhw a'r llywodraeth ac mae disgwyl i'r ddwy blaid bleidleisio yn erbyn.

Cynigiodd Plaid Cymru wario £40m ychwanegol eleni ar anghenion dysgu ychwanegol, ond mae Llafur yn mynnu £100m
Y bleidlais ar y gyllideb atodol yw'r prawf gwleidyddol mawr cyntaf i Blaid Cymru ers etholiad y Senedd fis Mai.
Mae'n cynnwys £100m i leihau amseroedd aros yn y gwasanaeth iechyd a chyllid ar gyfer ehangu gofal plant.
Gyda llai na hanner y seddi yn y Senedd, does gan y llywodraeth leiafrifol ddim digon o aelodau i ennill y bleidlais heb gefnogaeth un o'r gwrthbleidiau.
Dyma wythnos olaf busnes ym Mae Caerdydd cyn y gwyliau haf.
Os yn colli'r bleidlais, gallai gweinidogion aros tan yr hydref neu ofyn i'r Llywydd alw'r Senedd yn ôl dros yr haf.
Llafur â 'dim dewis' ond pleidleisio yn erbyn y gyllideb atodol - Ken Skates
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Amheuon yn parhau a fydd y llywodraeth yn gallu pasio cyllideb
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Ceidwadwyr ddim am gydweithio â Phlaid ar gynlluniau gwariant
- Cyhoeddwyd30 Mehefin
Mae gwariant ychwanegol ar anghenion dysgu yn Lloegr wedi chwyddo coffrau llywodraeth Cymru.
Mae hawl gan y llywodraeth benderfynu sut mae'n cael ei wario yng Nghymru, ond mae'r gwrthbleidiau wedi galw iddo fynd tuag at yr un modd ac sy'n digwydd yn Lloegr.
Cynigiodd Plaid Cymru wario £40m ychwanegol eleni ar anghenion dysgu ychwanegol, ond mae Llafur yn mynnu £100m.
Ysgrifennodd Rhun ap Iorwerth at arweinydd dros dro Llafur Cymru, Ken Skates, ddydd Llun a chynnig £40m arall yn y ddwy flynedd ariannol nesaf.
Dywedodd y prif weinidog y byddai rhieni, disgyblion ac athrawon yn "disgwyl i bleidiau uno ar y mater hollbwysig hwn ac, yn yr ysbryd hwnnw, rwy'n edrych ymlaen at eich ymateb cynnar i'r cynnig terfynol hwn o £120m".
Dywedodd ffynonellau Llafur y byddai eu grŵp o Aelodau'r Senedd yn trafod y cynnig cyn cyhoeddi penderfyniad.
Y gyllideb dan bwysau
Ddydd Sul, dywedodd Skates na fyddai gan Lafur "unrhyw ddewis" ond pleidleisio yn erbyn y gyllideb oni bai bod y llywodraeth yn cytuno i'w gofynion.
"Rwy'n credu bod £40m eleni yn fargen wael i addysg, ac rwy'n credu y byddai £40m y flwyddyn nesaf yn fargen wael arall i addysg," meddai wrth BBC Cymru.
Pan wnaeth hi gyhoeddi'r gyllideb atodol ym mis Mehefin, fe wnaeth y Gweinidog Cyllid Elin Jones gadw £247m o wariant dyddiol i'r naill ochr, er mwyn ei wario yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Yn ei lythyr at Skates, dywedodd Mr ap Iorwerth fod y gyllideb dan bwysau, gyda'r gwasanaeth iechyd yn wynebu diffyg o £333m.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.