Mari Grug: Cyngor ar sut i drafod canser gyda phlant

- Cyhoeddwyd
Mae'r cyflwynydd a'r ymgyrchydd Mari Grug wedi rhannu'r cyngor gafodd hi ar sut i dorri'r newyddion i'w phlant bod ganddi ganser.
Dywedodd bod angen bod yn onest ond bod y ffordd mae rhywun yn rhannu'r newyddion cyn bwysiced â'r wybodaeth sy'n cael ei rhoi.
Fe benderfynodd hi a'i gŵr beidio dweud wrth eu tri o blant am y diagnosis tan ddechrau'r driniaeth rai wythnosau yn ddiweddarach.
Wrth fynd i'w nôl hi ar ddiwrnod cyntaf ei thriniaeth cemotherapi fe wnaeth ei gŵr, Gareth, dorri'r newyddion.
'Dweud y gwir-ish'
Mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru dywedodd Mari: "[Wnaeth e] ddim gweud gormod, 'mae Mam wedi ffeindio lwmpyn', ond wnaeth yr hynna Steffan ddweud 'ife canser yw e?'
"Oedd e'n blentyn wyth, naw mlynedd oed [ar y pryd], ond roedd e wedi clywed ei ffrind bach yn yr ysgol oedd wedi colli Dad-cu i ganser blwyddyn cyn hynny ac felly wedi clywed y gair."
Dywedodd Mari, gafodd ddiagnosis yn 2023, ei bod hi'n anodd i rieni wybod faint o wybodaeth i'w roi i'w plant a sut i gyfleu'r wybodaeth.
Meddai: "Ni'n trio bod yn agored gyda nhw, ond fi'n cofio cyngor da ges i oedd mae'r ffordd ti'n dweud rhywbeth wrth blant yn fwy pwysig na beth ti'n dweud.
"A ni wedi trio dweud y gwir-ish. Chi'n ffili dweud celwydd.
"Dyna'r cyngor arall ges i, ond mae'n anodd weithiau, pan maen nhw'n gofyn cwestiynau, i fod yn onest. Achos dw i ddim yn gwybod beth yw'r ateb."

Fe fydd cyfweliad llawn Mari Grug gyda Beti George i'w glywed ar BBC Radio Cymru am 18:00, dydd Sul, 18 Tachwedd, ac ar BBC Sounds
Fe wnaeth Mari ei hun fynd drwy brofiad tebyg pan oedd hi'n ferch ifanc 14 oed, yn cael ei magu yn Sir Benfro.
Mae hi'n cofio bod gartref yn gwylio'r teledu pan ddaeth ei mam i mewn a dweud wrthi fod ganddi ganser y fron.
Er ei bod hi'n "ypset... doedd dim panig o gwbl".
Ychwanegodd ei bod hi'n cofio'n iawn clywed ei mam yn trafod ei gwaeledd mewn sgwrs ffôn gyda ffrind.
"Fi'n cofio clywed hi ar y ffôn gyda hi, a gweud 'dwi ddim eisiau marw', a fi'n cofio clustfeinio a chlywed y sgwrs yna a dwi'n dal yn cofio hwnna hyd heddi," meddai.
"Felly mae eisiau bod yn ofalus be' mae'r plant yn clywed ac yn y blaen. Ond mae eu byd nhw - mae'r byd yn llai erbyn heddi - mae'r ffonau symudol [gyda nhw] ac maen nhw'n gallu ymchwilio i bethau."
Llysgennad a rhannu profiadau
Mae Mari wedi bod trafod ei chanser yn agored ers datgelu ym mis Gorffennaf 2023, pan oedd hi'n 38 oed, ei bod hi'n derbyn triniaeth ar gyfer canser y fron metastatig.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae hi wedi rhannu ei phrofiad personol o fyw gyda'r cyflwr ar ei phodlediad 1 mewn 2.
Fe ddaeth y gyfres i'r brig yng Ngwobrau Podlediadau Cymraeg 2026 ac ennill categori y Podlediad Cymraeg Gorau yn y British Podcast Awards yn 2025.

Mari Grug gyda'i Bafta Cymru 2026 am y cyflwynydd gorau
Mis Hydref eleni fe enillodd wobr BAFTA Cymru am gyflwynydd gorau'r flwyddyn am Mari Grug: Un Dydd Ar y Tro.
Mae'r rhaglen yn olrhain y cyfnod wedi iddi gael gwybod bod y canser wedi dychwelyd. Yn ystod y ffilmio fe gafodd Mari hefyd wybod bod ei chwaer fach, Lisa, wedi cael diagnosis o ganser y fron.
Mae'r cyflwynydd, sydd hefyd yn gweithio ar Heno a Prynhawn Da, bellach yn llysgennad Ymchwil Canser Cymru.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref

- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2024

