Pwy yw hoff athro Maths Carol Vorderman sy'n genedlaetholwr 'tanbaid'?

Mr R Palmer Parry, gyda'i ddiweddar wraig - Rhiannon, a'i gyn ddisgybl - Carol Voderman yn derbyn gwobr BAFTA Cymru
- Cyhoeddwyd
"Oedd Carol yn hogan hollol eithriadol. O'n i ddim yn gwybod digon o fathemateg i roi cyfle da iddi o gwbl. Mae hi'n rhy garedig o lawer."
Mae cyn-athro mathemateg Carol Vorderman a chyn ymgyrchydd Cymdeithas yr Iaith, Mr R Palmer Parry, wedi ymateb i'r deyrnged a dalodd y cyflwynydd teledu iddo'n ei haraith wrth dderbyn BAFTA Cymru am Gyfraniad Arbennig.
Fe ddywedodd Carol Vorderman, a gafodd ei magu ym Mhrestatyn, bod yn rhaid iddi sôn am ei hathro mathemateg yn Ysgol Uwchradd Gatholig Blessed Edward Jones yn Y Rhyl wrth dderbyn un o anrhydeddau uchaf Bafta Cymru ar 4 Hydref.
Ar ôl diolch i'w "hathro maths gorau erioed yn Y Rhyl," fe esboniodd Carol nad oedd Mr Parry ymhob un o'i gwersi mathemateg.
Eglurodd: "Roedd Mr Parry yn 'Welsh nat', roedd o'n genedlaetholwr Cymraeg, roedd ganddo'r tanbeidrwydd yna.
"Yn achlysurol byddai Mr Parry yn absennol o fy ngwersi maths. Pam?
"Oherwydd byddai Mr Parry o flaen ei well yn ei lys ynadon lleol ar ôl iddo fo a Mrs Parry gael eu dal am beintio arwyddion ffyrdd yn wyrdd dros nos."
Ychwanegodd Carol Vorderman: "Fe ddysgodd i mi beth oedd ymgyrchu, mae'n rhaid dweud."
Dylanwad
Felly, pwy yw'r 'Mr Parry' sydd wedi ysbrydoli Carol yn ei gyrfa fel mathemategydd, cyflwynydd teledu ac fel ymgyrchydd gwleidyddol?
Mae R Palmer Parry yn byw ym Mhen-y-groes yn Nyffryn Nantlle erbyn hyn ac yn 87 mlwydd oed.
Pan oedd Carol Vorderman yn tyfu i fyny, roedd Mr Parry a'i ddiweddar wraig Rhiannon, yn byw yn Y Rhyl ac yna'n Llansannan.

Mr R Palmer Parry gyda'i ddiweddar wraig, Rhiannon
Ar ôl araith Carol Vorderman mae lle i gredu bod Mr Parry wedi bod yn ddylanwad ar ysbryd wrthryfelgar Carol Vorderman.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae Carol wedi dod yn fwy amlwg fel ymgyrchydd gwleidyddol.
Yn 2023, fe adawodd ei sioe wythnosol ar Radio Wales ar ôl torri canllawiau'r BBC drwy ymosod ar Lywodraeth y DU ar y cyfryngau cymdeithasol.
Fe ddywedodd ym mis Mawrth 2026 ar raglen Good Morning Britain ar ITV na fyddai hi'n dweud "na" petai rhywun yn gofyn wrthi i sefyll fel aelod seneddol annibynnol.

Mr Parry (canol) mewn protest i Gymreigio swyddfeydd post yn Llangefni ar 18 Chwefror 1967
Sut mae Mr Parry yn ymateb i sylwadau Carol Vorderman amdano yntau fel ymgyrchydd a chenedlaetholwr Cymreig?
"Oeddan ni gyd yn cefnogi Cymdeithas yr Iaith yn y cyfnod yna, ond oedd yna lot o bobl pwysicach na fi.
"Oedd Dafydd Iwan yn jêl, ac aeth ffrindiau i mi i'r carchar dros yr iaith, oedd yna ralis byth a beunydd a phawb yn mynd allan i beintio dros yr arwyddion Saesneg.
"Mi wnaeth wahaniaeth yn y diwedd ond ddim digon o wahaniaeth."
Atgofion Mr Parry o'i gyn-ddisgybl disglair
Daeth dawn Carol Vorderman fel mathemategydd i amlygrwydd pan ddechreuodd hi gyflwyno Countdown yn 1982, ar y cyd gyda'r diweddar Richard Whiteley.
Beth yw atgofion Mr Parry o'i gyn-ddisgybl disglair?
"Dyla' hi wedi cael gwell athro maths na fi.
"Aeth hi i ryw goleg posh yng Nghaergrawnt, mae'r teips sy'n mynd i fan'no wedi cael rhyw fathemategwyr gwych yn eu dysgu nhw drwy'r ysgol, ac oedd Carol druan yn gorfod dibynnu arna i."
Diymhongar iawn yw ymateb Mr Parry i lwyddiant Carol, aeth yn ei blaen i astudio peirianneg yng Ngholeg Sidney Sussex yng Nhaergrawnt, cyn dod yn gyflwynydd.

Carol Vorderman yn derbyn Gwobr Siân Phillips am Gyfraniad Arbennig yn seremoni wobrwyo BAFTA Cymru. Dywedodd BAFTA Cymru fod y wobr yn anrhydeddu ei gyrfa arloesol a'i chyfraniad at dorri tir newydd i fenywod ar y sgrin
Er cyfraniad Carol i'r byd darlledu - o gyflwyno Countdown, i sefydlu gwobrau Pride of Britain, i gyflwyno ei rhaglen radio ei hun ar Radio Wales, mae Mr Parry'n ymfalchïo yn ei chyfraniad yn nes at adref hefyd.
Eglurodd: "Ar ôl gadael Caergrawnt aeth hi'n beiriannydd i Orsaf Bŵer Dinoriwg, roedd hi'n rhan o gynllunio'r system hwnnw cyn mynd ar Countdown a rhyw betha'."
Yn 2025 fe rannodd Carol ei hatgofion yn gweitho i Orsaf Bŵer Dinorwig yn 1980, sef system ynni hydro arloesol, a'r mwyaf o'i fath yn Ewrop, sydd â'i gorsaf wedi ei hadeiladu o dan hen chwarel Dinorwig, ar lethrau Elidir Fawr.

Fe ddechreuodd Carol ei gyrfa fel peiriannydd i bwerdy hydro Dinorwig cyn mentro ar yrfa teledu
Dywedodd Carol ar ei chyfrif Instagram yn 2025:
"Wnes i raddio mewn peirianneg o brifysgol Caergrawnt - nid mewn maths - ond roedd angen gwneud llwyth o faths er mwyn pasio.
"Yna fe es i weithio i Dinorwig - lle mae batri cynaliadwy mwyaf yn y byd.
"Pan es i weithio yno yn 1980, fi oedd yr unig ferch i weithio dan ddaear ynghanol 2,000 o ddynion."
A hithau wedi gorfod profi ei gwerth fel peiriannydd benywaidd mewn maes oedd yn drwm â dynion ar y pryd, mae'n deg dweud bod un cyn-athro wedi cael dylanwad mawr arni.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd5 Hydref
