Aberfan: Atgofion y gweinidog a'r disgybl ysgol fu yno

Disgrifiad,

Aberfan: Atgofion y Parchedig D Ben Rees a Bodfan Jenkins - y naill yn weinidog yn yr ardal yn 1966 a'r llall yn ddisgybl chweched dosbarth

GanGwen Aeron
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

"Y domen, gweddillion yr ysgol, dyw e byth yn mynd i adael rhywun."

Wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg ar BBC Radio Cymru, mae Bodfan Jenkins a'r Parchedig D Ben Rees yn cofio'r golygfeydd na fyddan nhw fyth yn eu hanghofio bron i 60 mlynedd ar ôl trychineb Aberfan.

Bu farw 144 o bobl, gan gynnwys 116 o blant, pan lithrodd tomen lo i lawr y mynydd a tharo Ysgol Gynradd Pantglas ar 21 Hydref 1966.

Roedd Bodfan Jenkins o Dreharris yn ddisgybl yn y chweched dosbarth pan aeth i helpu'r ymdrechion achub.

Bu'r Parchedig D Ben Rees yn helpu i groesawu teuluoedd oedd wedi colli eu plant i Gapel Bethania.

AberfanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Golygfa o Aberfan ar ôl y drychineb ym 1966, pan fu farw 144 o bobl, gan gynnwys 116 o blant

"Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedden ni'n ei wneud," meddai'r Parchedig Ben Rees, wrth gofio cyrraedd Aberfan a chael rhaw gan löwr i helpu i chwilio drwy'r rwbel gwlyb.

"O fewn ryw awr ges i fy ngalw i fynd i Gapel Bethania i groesawu teuluoedd a chyfeillion y rhai oedd wedi colli bywydau rhieni - yno hefyd yr athrawon.

"Roedd e wedi troi Bethania fel tŷ galar go iawn.

"Yno weles i sefyllfa na weles i erioed o'r blaen, a dwi'm yn meddwl welai e byth eto, gweld yr holl deuluoedd yn dod a wedyn yn dweud, 'Dyma mhlentyn i a dyma'm mhlentyn i'."

Disgrifiodd y profiad fel "bedydd tân mewn gwirionedd, bedydd sydd wedi aros gyda fi ar hyd fy oes".

'Distawrwydd llwyr'

Roedd Bodfan Jenkins yn yr ysgol pan sylweddolodd fod rhywbeth difrifol wedi digwydd.

"Oedd rywbeth wedi digwydd, dim gwasanaeth, dim dosbarthiadau, clywed seirenau yn mynd heibio dro ar ôl tro, ac yn y pen draw deall bod rywbeth gwir ddifrifol wedi digwydd," meddai.

Ar ôl cael caniatâd y prifathro, aeth i Ysgol Pantglas i helpu'r gweithwyr oedd yn clirio'r rwbel yn y gobaith o ddod o hyd i oroeswyr.

"Wi'n cofio chwiban yn cael ei chwythu ac roedd yna ddistawrwydd llwyr.

"Tra bod rheini oedd yn gweithio yn yr ysgol yn gwrando i glywed os oedden nhw wedi dod o hyd i rywun yn fyw, ac yn anffodus yn ofer bob tro."

Roedd y gwaith yn ailgychwyn ar ôl pob chwiban, gyda dynion yn pasio bwcedi o rwbel o law i law.

"Roedd e'n erchyll o sefyllfa, rhaid dweud," meddai.

AberfanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bwcedi o rwbel yn cael eu pasio o law i law yn yr ymdrech i glirio safle Ysgol Pantglas

Bu Bodfan Jenkins, ei frawd a'u cyfaill yn helpu am dridiau, gan fynd adref i gysgu cyn dychwelyd.

"Erbyn y dydd Sul, doedd dim gobaith o ddod o hyd i unrhyw un yn fyw. Roedd gweithwyr proffesiynol yn gweithio yna erbyn hynny, roedd peiriannau'n gallu dod i mewn, ac ar ôl hynny fe beidion ni yna."

Ond roedd y perygl yn parhau, meddai, wrth i bobl weithio ar y mynydd i ddelio â'r dŵr oedd wedi cyfrannu at y drychineb.

"Y cyfarwyddyd oedd: 'Os chi'n clywed y sŵn yma, rhedwch', oherwydd gallai'r cyfan droi eto."

'Gwarth o beth'

Mae Bodfan Jenkins, sy'n gyn-farnwr, yn feirniadol o'r modd yr ymdriniodd yr awdurdodau â chanlyniadau'r drychineb, yn enwedig y penderfyniad i ddefnyddio rhan o'r gronfa a godwyd i helpu'r teuluoedd i dalu am glirio'r tomenni.

"Roedd y Bwrdd Glo yn gwadu cyfrifoldeb ac yn parhau i wadu cyfrifoldeb am flynyddoedd," meddai.

"Ac yn waeth byth, yn fy marn i, agwedd y llywodraeth a mynnu bod peth o'r arian er mwyn clirio'r tomenni yn dod o'r gronfa oedd wedi casglu at ei gilydd ar gyfer plant a theuluoedd.

"Gwarth o beth, gwarth o beth."

Er hynny, dywedodd fod dewrder y teuluoedd wedi aros gydag ef.

"Be' sy'n taro fi wastad yw eu dewrder nhw, eu hurddas nhw, eu gras."

'Mae'n dod ag e syth yn ôl'

Dywed y Parchedig Ben Rees fod y profiad wedi newid ei agwedd at bobl sy'n wynebu sefyllfaoedd enbyd.

AberfanFfynhonnell y llun, Getty Images

"Mae'n gwneud i fi deimlo bod yna nerth i gael a bod yna obaith i gael, a bod yna bobl yn gwneud eu gorau glas i'ch helpu chi," meddai.

I Bodfan Jenkins, gall yr atgofion ddychwelyd yn sydyn wrth weld delweddau o drychinebau eraill.

"Os oes damwain fawr wedi digwydd yn agos, neu wrth weld lluniau ar y teledu o'r difrod mewn rhyfeloedd neu dirlithriadau neu rywbeth, mae'n dod ag e syth yn ôl i'r meddwl.

"Mae fel fflach yn dod nôl – y domen, gweddillion yr ysgol, dyw e byth yn mynd i adael rhywun, odi fe?"

Mae cyfweliadau llawn y Parchedig Dr D Ben Rees a Bodfan Jenkins i'w clywed yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg am 12:30 ddydd Sul, ac wedyn ar BBC Sounds

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig