Gwahoddiad i gydweithio 'yn parhau', er i Lafur wrthod cyllideb atodol

Rhun ap Iowerth yn ystod y ddadl cyn y bleidlais ar y gyllideb atodolFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Rhun ap Iorwerth bod y gwaith i sicrhau cytundeb ar y gyllideb atodol yn parhau, er i'r llywodraeth Plaid Cymru fethu â'i phasio yn y Senedd nos Fawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru wedi mynegi siom bod aelodau Llafur yn Senedd Cymru wedi pleidleisio'n erbyn cyllideb atodol Llywodraeth Cymru, er cynnig i gynyddu'r arian ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Roedd ASau Llafur, ynghyd ag aelodau Reform a'r Ceidwadwyr, ymhlith y 49 a wrthododd y gyllideb mewn pleidlais yn y siambr ddydd Mawrth, gan drechu'r 44 pleidlais o'i phlaid.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth bod Llafur "wedi penderfynu chwalu" traddodiad sy'n nodweddiadol ers dechrau datganoli "lle mae pleidiau blaengar yn gorfod ffeindio ffyrdd o weithio efo'i gilydd, waeth bynnag yr anghytuno".

"Fe fydd yr olygfa honno o aelodau Reform yn curo ar eu byrddau yn cymeradwyo Llafur yn olygfa fydd yn aros yn hir yn y cof ac yn chwerw, dwi'n meddwl, i gefnogwyr Llafur," dywedodd ar raglen Dros Frecwast.

Ond fe fynnodd fod ymdrechion ei lywodraeth leiafrifol i geisio cael cytundeb gyda'r gwrthbleidiau yn parhau.

"Nid diwedd proses ydy ddoe, ond mae o yn ddrych i bleidiau eraill edrych yno fo hefyd a gofyn: 'Sut 'dan ni am gael ein gweld... fel pleidiau sy'n rhwystro ac yn creu cynghreiriau?' fydd yn gwenud i'w cefnogwyr nhw deimlo'n anghyffyrddus."

Yn ô arweinydd parhaol newydd Llafur Cymru, Ken Skates mae'r blaid wedi methu â chynnig y math o arian y mae undebau llafur, athrawon a rhieni yn galw amdano ar gyfer y sector ADY.

Roedd Mr Skates wedi rhybuddio dros y penwythnos na fyddai ASau Llafur yn cefnogi'r gyllideb atodol oni bai bod gofynion y blaid o ran ariannu ADY yn cael eu bodloni.

Ar raglen Politics Wales ddydd Sul, fe feirniadodd cynnig y llywodraeth o £80m dros ddwy flynedd ar gyfer y sector, gan ddweud mai isafswm o £100m oedd y "fargen deg" yr oedd Llafur yn ei mynnu.

Erbyn nos Lun roedd "cynnig terfynol" o £120m ar y bwrdd ond doedd hynny ddim yn ddigon i berswadio Llafur, sy'n dadlau bod angen gwario £100m ar y maes yn syth.

Fel llywodraeth leiafrifol, roedd yn rhaid i Blaid Cymru sicrhau cefnogaeth o leiaf chwe AS o'r pleidiau eraill, er mwyn pasio'r gyllideb atodol.

Cafodd Cymru arian ychwanegol yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i dalu dyledion cynghorau Lloegr o ran y maes ADY ac roedd y gwrthbleidiau eisiau'r i'r un swm fynd i'r sector yng Nghymru, er bod hawl gan Lywodraeth Cymru i'w wario fel y mynnan nhw.

Mae'r gyllideb atodol hefyd yn cynnwys cynlluniau i wario £145 miliwn ychwanegol ar y GIG, £55 miliwn ar ofal plant, a £15 miliwn ar brydau ysgol am ddim.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fore Mercher bod y gwrthbleidiau, trwy wrthod y gyllideb atodol, wedi gwrthod "arian sylweddol" ar gyfer y cynlluniau hyn, ynghyd â'r pecyn ADY ychwanegol.

'Rhaid gwario'n arian yn ofalus iawn'

Gan gyfeirio at faniffesto Llafur cyn etholiad mis Mai, dywedodd y prif weinidog mai "£9m oedd Llafur yn mynd i wario ar anghenion dysgu" a bod dim arwydd eu bod "am roi dime" o'r arian ychwanegol i'r maes yn sgil costau hanesyddol ADY Lloegr.

"Mi ddoethon ni i le lle oedd 'na gynnig cynhwysfawr ar y bwrdd," dywedodd.

"Llafur sy'n gorfod egluro pam eu bod nhw wedi gwrthod hynny, ond 'dan ni'n symud ymlaen rŵan efo'n rhaglen ni ar gyfer llywodraeth.

"Mae Llafur wedi parcio eu hunain ar bwynt lle maen nhw eisio chwarae gwleidyddiaeth efo hyn - dyna ddigwyddodd ddoe.

"Dan ni'n gorfod symud ymlaen mewn ffordd gyfrifol tra yn gwahodd Llafur i gario 'mlaen i weithio efo ni ar hyn.

"Dyna sy'n gorfod digwydd mewn gwleidyddiaeth leiafrifol, fel 'dan ni wastad wedi cael yng Nghymru."

Dywedodd bod yna "drafod dwys iawn wedi mynd ymlaen efo Llafur tan y funud ola', a ninna'n egluro, yn trio bod mor dryloyw â phosib ynglŷn â be' oedd y cyfyngiadau [ac] un o'r cyfyngiadau mawr ydi'r gorwariant o fewn y flwyddyn yma 'dan ni wedi etifeddu gan Lafur".

"Be' oedd Llafur yn ei ddweud mewn difri oedd 'O, peidiwch â phoeni am hynny, poenwch am hynny eto, rhowch arian ar gyfer rhywbeth arall'.

"Wel, bosib bod hynny'n egluro pam bod 'na gymaint o lanast o fewn yr NHS os ydy'r math yma o agwedd wedi bod yn digwydd o flwyddyn i flwyddyn. Mae'n rhaid bod yn ofalus iawn ynglŷn â sut 'dan ni'n gwario'n arian."

Ken SkatesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ken Skates bod Llafur wedi dadlau'r o'r dechrau bod angen rhoi mwy o arian ar gyfer y maes anghenion dysgu ychwanegol

Mewn cyfweliad ar BBC Radio Wales Breakfast cyn y cadarnhad mai ef yw arweinydd parhaol newydd Llafur Cymru, dywedodd Ken Skates: "Roedden ni'n glir iawn yn ystod y broses o gyflwyno cyllideb atadol y dylai canran sylweddol o'r arian yna fynd at anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru.

"Ar ddechrau'r broses, yn ystod trafodaethau, doedd Plaid ddim yn credu bod angen trafodaethau - mae'r gyllideb ond yn cael ei phasio.

"Roedden ni'n glir iawn ein bod eisiau i arian fynd at ADY ac roedden nhw'n cynnig dim byd.

"Nawr, dros gyfnod o ryw wythnos, mae nhw wedi codi'r cynnig fymryn ond doedd o dal ddim yn ddigon, ac nid ni fel plaid sy'n dweud hynny.

"Mae pob cyngor yng Nghymru yn ei ddweud o, yr undebau llafur sydd nawr mewn anghydfod gyda Llywodraeth Cymru, athrawon, rhieni - yn wir, pan yn wrthblaid, roedd ASau Plaid yn galw am fuddsoddi arian mawr mewn ADY.

"Maen nhw wedi cael yr arian yna [yn sgil costau hanesyddol Lloegr], maen nhw wedi penderfynu peidio â'i rhoi.

"Fy nghwestiwn i Plaid nawr yw beth maen nhw'n bwriadu gwneud gyda chwarter biliwn o bunnau sydd heb ei ddyrannu?"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.