Ken Skates i arwain Llafur Cymru yn barhaol

Roedd Ken Skates wedi bod yn arweinydd dros dro y Blaid Lafur yng Nghymru ers yr etholiad ym mis Mai
- Cyhoeddwyd
Ken Skates yw arweinydd Llafur Cymru ar ôl iddo sicrhau enwebiad gan bob un o naw aelod y grŵp yn Senedd Cymru.
Daw ei benodiad ar ôl i'r blaid gyflymu'r broses i ddod o hyd i olynydd i Eluned Morgan.
Roedd y blaid wedi dweud y byddai enwebiadau'n agor ym mis Medi, ond cyhoeddodd yr wythnos ddiwethaf fod gan eu naw Aelod o'r Senedd tan 16 Gorffennaf i ddweud pwy maen nhw'n ei gefnogi.
Yn ôl y disgwyl, ni wnaeth unrhyw un arall sefyll.
Dywedodd Ken Skates: "Mae'n anrhydedd fawr i mi gael cefnogaeth unfrydol fy nghydweithwyr yn y Senedd."
Roedd yr amserlen yn fras yn unol â'r broses i ddod o hyd i olynydd i Syr Keir Starmer, gydag Andy Burnham i ddod yn arweinydd Llafur y DU ddydd Gwener a phrif weinidog newydd y DU ddydd Llun.
Llafur Cymru i gael arweinydd newydd erbyn mis Tachwedd
- Cyhoeddwyd11 Mehefin
Llafur Cymru'n wynebu 'argyfwng dirfodol', yn ôl cyn-Weinidog
- Cyhoeddwyd31 Mai
Eluned Morgan: Y prif weinidog na allai atal y llanw
- Cyhoeddwyd8 Mai
Dim ond naw AS sydd gan Lafur ers etholiad y Senedd ym mis Mai.
Roedd y blaid wedi rhedeg Llywodraeth Cymru am 27 mlynedd cyn hynny - Plaid Cymru sydd bellach mewn grym.
Collodd y cyn-arweinydd Eluned Morgan ei sedd yn y bleidlais honno.
Mae Ken Skates, AS Fflint Wrecsam, wedi bod â diddordeb mewn sefyll am yr arweinyddiaeth yn y gorffennol ond ni wnaeth erioed ymgeisio am y swydd.
Roedd yn gyd-gadeirydd ymgyrch arweinyddiaeth Vaughan Gething yn 2023, ac roedd yn y rhes flaen ar gyfer araith Andy Burnham ar ddatganoli ym Manceinion yn gynharach y mis hwn.
Credir ei fod yng nghanol y blaid, o'i gymharu er enghraifft â safbwynt mwy asgell chwith cyn-brif weinidog Cymru, Mark Drakeford.
Gwasanaethodd Skates fel gweinidog trafnidiaeth yn y llywodraeth Lafur ddiwethaf.
'Tegwch, cyfiawnder, diogelwch a rhyddid'
Dywedodd Ken Skates AS: "Ymunais â'r blaid yn blentyn 14 oed, ac mae fy nghred yn dal i sefyll na ddylai dyfodol unrhyw blentyn gael ei bennu gan ei gefndir.
"Ni ddylid barnu unrhyw berson ifanc ar unrhyw beth heblaw am yr ymdrechion a wnânt a'r parch a ddangosant i eraill.
"I mi, mudiad dros degwch, cyfiawnder, diogelwch a rhyddid yw'r mudiad Llafur.
"Mae'n fudiad sy'n ceisio grymuso pobl a chymunedau, i ymladd yn erbyn anghyfiawnder, anoddefgarwch, neigaredd a chreulondeb."
Dywedodd dirprwy arweinydd Llafur Cymru, Carolyn Harris AS: "Rwy'n cynnig fy llongyfarchiadau cynnes i Ken.
"Mae ganddo fy nghefnogaeth lawn wrth iddo ymgymryd â'r dasg fawr sydd o'i flaen - gwrando, dysgu, ailadeiladu a gwneud y gwaith hanfodol hwnnw o ddwyn Plaid Cymru, a Reform UK, i gyfrif yn y Senedd.
"Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod ganddo'r egni, y meddylgarwch a'r optimistiaeth i'n symud ymlaen ac rwy'n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr ag ef."
Dywedodd y blaid ym mis Mehefin y bydden nhw yn datgelu eu harweinydd newydd yng nghynhadledd y blaid ym mis Tachwedd, gyda'r enwebiadau'n agor ym mis Medi.
Penderfynodd pwyllgor gweithredol Cymru symud yr amserlen ymlaen.
Dywedwyd wrth BBC Cymru mai rhan o'r cymhelliant oedd dod â rhan gyntaf y gystadleuaeth yn unol ag arweinyddiaeth y DU, ac y gallai hynny helpu'r blaid i osgoi treulio'r haf yn dyfalu am y dyfodol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.