Dedfrydu dyn o Fôn wedi digwyddiad mewn gêm bêl-droed ym Mhorthmadog

Disgrifiad,

Cafodd fideo o'r digwyddiad ei rannu yn helaeth ar y cyfryngau cymdeithasol (Fideo: Harvey Barnett)

GanGareth Wyn Williams
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae pêl-droediwr o Ynys Môn wedi cael dedfryd o garchar wedi ei ohirio am achosi niwed corfforol drwy daro chwaraewr arall gyda'i benelin yn ystod gêm.

Roedd Thomas Taylor, 36 oed o Landdona, wedi ymosod ar Daniel Brookwell yn ystod gêm gynghrair rhwng Porthmadog a Bae Trearddur ar 17 Ionawr.

Ddydd Llun clywodd Llys Ynadon Caernarfon fod Brookwell wedi ei daro'n anymwybodol o ganlyniad i'r ymosodiad, a'i fod wedi dioddef anafiadau i'w wyneb a'i geg.

Cafodd fideo o'r hyn ddigwyddodd - oedd eisoes wedi ei rannu'n helaeth ar y cyfryngau cymdeithasol - ei ddangos i'r ynadon.

Roedd clwb Taylor, Bae Trearddur, eisoes wedi ei ryddhau o'i gytundeb ac roedd hefyd wedi ei atal rhag unrhyw weithgaredd sy'n gysylltiedig â phêl-droed gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Thomas Taylor
Disgrifiad o’r llun,

Thomas Taylor yn cyrraedd y llys yng Nghaernarfon ddydd Llun

Dywedodd Diane Williams, ar ran yr erlyniad, bod Taylor wedi taro Brookwell â'i benelin tra roedd y ddau dîm yn paratoi ar gyfer cic o'r smotyn i Borthmadog.

Clywodd y llys nad oedd Brookwell wedi sylweddoli beth oedd wedi digwydd tan iddo weld fideo o'r ymosodiad ar ôl y gêm.

Clywodd y llys bod y ddau wedi adnabod ei gilydd "ers blynyddoedd", ond fod yr ymosodiad wedi cael effaith ar fwynhad a hyder Brookwell ar y maes chwarae, a'i fod yn cael trafferth cysgu ers y digwyddiad.

Yn amddiffyn Taylor, roedd Glyn Roberts yn honni fod Brookwell "wedi bygwth torri coesau" Taylor yn ystod y gêm.

Ers y digwyddiad, gyda'r fideo wedi mynd "yn feiral", ychwanegodd fod Taylor wedi derbyn negeseuon bygythiol.

Y Traeth
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ystod gêm yn stadiwm Y Traeth ym Mhorthmadog

Er hynny, roedd Taylor yn derbyn bod yr hyn a wnaeth yn "anfaddeuol" ac "nad oedd unrhyw bryfocio yn cyfiawnhau yr hyn ddigwyddodd".

Ychwanegodd ei fargyfreithiwr fod Taylor yn "edifar am yr hyn y gwnaeth o", a bod ei ble yn dangos ei fod "am ymddiheuro".

Cafodd Taylor ddedfryd o 24 wythnos o garchar, wedi ei ohirio am 12 mis.

Cafodd hefyd ddirwy o £439, gan gynnwys iawndal o £200 i Daniel Brookwell.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.