Cyhuddo dyn o Fôn wedi digwyddiad mewn gêm bêl-droed ym Mhorthmadog

Y Traeth, PorthmadogFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyhuddiad yn ymwneud â digwyddiad mewn gêm rhwng Bae Trearddur a Phorthmadog ar 17 Ionawr

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-chwaraewr pêl-droed i Fae Trearddur wedi cael ei gyhuddo o ymosod yn dilyn honiad ei fod wedi ymddwyn yn dreisgar mewn gêm yn erbyn Porthmadog.

Mae Thomas Taylor, sy'n 36 ac o Landdona, wedi'i gyhuddo o achosi niwed corfforol.

Fe gafodd ymchwiliad ei gynnal i ddigwyddiad mewn gêm yn nhrydedd haen y pyramid Cymreig - yr Ardal North West ar 17 Ionawr.

Wedi'r gêm cafodd fideo o'r hyn ddigwyddodd ei rannu'n helaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.

Bydd Mr Taylor yn mynd ger bron llys yng Nghaernarfon ar 11 Mai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.