Y ffilm Madfabulous yn arwain enwebiadau BAFTA Cymru 2026

Yr actor Callum Scott Howells mewn het a chôt binc yn portreadu pumed Marcwis Ynys Môn, Henry Cyril Paget yn y ffilm MadfabulousFfynhonnell y llun, Simon Ridgway/Mad As Birds
Disgrifiad o’r llun,

Yr actor Callum Scott Howells yn portreadu pumed Marcwis Ynys Môn, Henry Cyril Paget yn y ffilm Madfabulous

  • Cyhoeddwyd

Madfabulous, y ffilm am bumed Marcwis Ynys Môn, sydd wedi derbyn y nifer fwyaf o enwebiadau eleni yng ngwobrau seremoni flynyddol BAFTA Cymru.

Fe fydd yr actor sy'n portreadu un o gymeriadau mwyaf lliwgar yr ynys, Callum Scott Howells, yn cystadlu yn erbyn dau o fawrion y maes, Matthew Rhys a Jonathan Pryce, yng nghategori'r actor gorau.

Mae Buddug Povey wedi ei chynnwys am y tro cyntaf yng nghategori'r actores orau am bortreadu Kay yn y gyfres ddrama boblogaidd Rownd a Rownd - rhan y mae wedi ei chwarae ers 1999.

Yn y categori hwnnw hefyd mae'r ddwy a chwaraeodd ran prif gymeriadau'r gyfres ddrama The Guest, Eve Myles - sy'n derbyn ei 10fed enwebiad - a Gabrielle Creevey, a Sian Reese-Williams am ei rhan yn y ddrama ddadleuol Power: The Downfall of Huw Edwards.

Mae yna enwebiadau hefyd i'r gyfres Stori'r Iaith, y cyflwynydd Mari Grug, y ffilm Y Crwydryn, y rhaglen ddogfen Fy Ffrind ar Death Row a'r cyfresi drama Bariau ac Under Salt Marsh.

Fe fydd y seremoni'n cael ei chynnal yng Nghanolfan Gynadledda Rhyngwladol Cymru yng Nghasnewydd nos Sul 4 Hydref ac yn cael ei chyflwyno unwaith yn rhagor eleni gan Owain Wyn Evans.

Ar raglen Dros Frecwast, dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at y seremoni wobrwyo gan ei bod yn "noson mor arbennig" sy'n cwmpasu pob math o raglen a ffilm.

"Mae jyst mor bwysig i weld y categorie yna yn gymysg o dalent... Cymry Cymra'g, yr iaith Gymra'g wrth ochor rhai o'i ffilmie mwya' adnabyddus," dywedodd.

"Mae jyst yn neis i ddathlu hwnna."

Gan longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, dywedodd cadeirydd BAFTA Cymru Lee Walters fod pob enwebiad "yn dyst i greadigrwydd, sgiliau ac ymroddiad y bobl sy'n gweithio ar draws diwydiannau sgrin Cymru, o flaen y camerâu a thu ôl iddyn nhw".

Ychwanegodd: "Mae ystod ac ansawdd yr enwebiadau eleni yn adlewyrchu sector sy'n parhau i dyfu o ran hyder, sy'n adrodd straeon nodedig sy'n cysylltu â chynulleidfaoedd yma yng Nghymru a ledled y byd.

"Mae Gwobrau BAFTA Cymru yn gyfle i ddathlu'r rhagoriaeth yna, cydnabod y doniau anhygoel yn ein diwydiant, ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o storïwyr o Gymru.

"Mae Gwobrau BAFTA Cymru yn gyfle i ddathlu'r rhagoriaeth yna, cydnabod y talent aruthrol o fewn ein diwydiant ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o adroddwyr stori Cymreig."

Yr enwebiadau'n llawn

Actor

  • Callum Scott Howells - Madfabulous

  • Jonathan Pryce - Under Salt Marsh

  • Matthew Rhys - The Beast In Me

  • Tom Cullen - Trespasses

Actores

  • Buddug Povey - Rownd a Rownd

  • Eve Myles - The Guest

  • Gabrielle Creavey - The Guest

  • Sian Reese-Williams - Power: The Downfall of Huw Edwards

Cymeriad Eve Myles yn coluro gwefus cymeriad Gabrielle Creevey yn y gyfres ddrama The GuestFfynhonnell y llun, BBC/Quay Street Productions
Disgrifiad o’r llun,

Eve Myles a Gabrielle Creevey yn The Guest - mae'r gyfres wedi cael pum enwebiad

Cyfarwyddwr: Ffeithiol

  • James Hale - Cannabis Cove: Operation Seal Bay

  • Andy Pritchard - Fy Ffrind ar Death Row

  • Stori'r Iaith - Siôn Pierce Lewis

  • Y Crwydryn - Rhys Edwards

Cyfarwyddwr: Ffuglen

  • Gruff Rowland - Bariau

  • Gareth Bryn - Karen Pirie

  • Lee Haven Jones - The Lady

  • Euros Lyn - Wayward

Golygu

  • Kevin Jones - Madfabulous

  • Jules Cornell - Richard Burton: Wild Genius

  • Leusa Gwenllian - Stori'r Iaith

  • Mali Evans - Y Golau: Dŵr

Adloniant

  • Amour a Mynydd

  • Other Voices: Cardigan 2025 with Huw Stephens

  • Stiwdio 24/7

  • Y Llais

Carrie Sauce - enillydd cyfres Y Llais 2026Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Carrie Sauce oedd enillydd cyfres Y Llais 2026

Cyfres Ffeithiol

  • Flaming Feasts

  • SOS: Extreme Rescues

  • Stori'r Iaith

  • Vanished Wales

Ffilm

  • Madfabulous

  • Mr Burton

  • Tanau'r Lloer

  • The Man In My Basement

Rhaglen Newyddion / Materion Cyfoes

  • Cymru ar Gyffuriau

  • Foden: O Brifathro i Bedoffeil

  • Maxine Hughes - Canser: Ar Ba Gost

  • The Hospice - Caring To The End

Rhes o wobrau BAFTA CymruFfynhonnell y llun, BAFTA Cymru

Ffotograffiaeth a goleuo Ffuglen

  • Havoc

  • Madfabulous

  • The Guest

  • Under Salt Marsh

Cyflwynydd

  • Sian Eleri - Keeping The World Away: Finding Gwen John

  • Mari Grug - Mari Grug: Un Dydd Ar Y Tro

  • Huw Stephens - Other Voices Cardigan 2025 With Huw Stephens

Mari Grug mewn crys Ymchwil Canser Cymru ger tractor pinc ar gae yn yr awyr agoredFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhaglen Mari Grug: Un Dydd Ar y Tro yn dilyn y cyflwynydd a'i theulu yn y cyfnod wedi iddi gael gwybod ei bod â chanser am yr eildro

Ffilm Fer

  • Barcud

  • Flock

  • Gofod Ymennydd - Brain Space

  • Love Me, Hold Me, Always

Dogfen Unigol

  • Boom Town: How Merthyr Made The World

  • Keep The World Away - Finding Gwen John

  • Richard Burton - Wild Genius

  • Y Crwydryn

Sain

  • Tîm sain - Havoc

  • Deian Humphreys - The Man In My Basement

  • Tîm sain - Madfabulous

Drama deledu

  • Stad

  • The Guest

  • Y Golau: Dŵr

Awdur

  • Ciron Gruffydd - Bariau

  • Lisa Baker - Madfabulous

  • Matthew Barry - The Guest

  • Claire Oakley - Under Salt Marsh

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig