Efa Gruffudd Jones yn ymddiswyddo o'i rôl fel Comisiynydd y Gymraeg

Efa Gruffudd jones
GanLlion HighamaTomos BluntBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Efa Gruffudd Jones yn ymddiswyddo o'i rôl fel Comisiynydd y Gymraeg am "resymau personol" yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mewn datganiad dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, ei fod wedi derbyn ei hymddiswyddiad ac yn "diolch iddi am ei holl waith".

Cafodd ei phenodi ddiwedd 2022, gan ddechrau ar y swydd yn Ionawr 2023 fel olynydd i'r diweddar Aled Roberts.

Ar y pryd dywedodd ei bod yn "fraint" cael y swydd, ac mai ei dymuniad oedd "gweld Cymru lle mae pobl yn gallu mwynhau defnyddio'r Gymraeg bob dydd".

Yn wreiddiol o Dreforys, roedd Jones yn brif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac Urdd Gobaith Cymru cyn cael swydd y comisiynydd.

Yn y datganiad gan Lywodraeth Cymru dywedodd Mr ap Iorwerth y "bydd proses benodi gyhoeddus lawn yn awr yn cael ei chynnal ar gyfer penodi Comisiynydd newydd".

Penodi dirprwy Gomisiynydd newydd

Daeth cadarnhad hefyd fod Lowri Williams wedi ei phenodi yn Ddirprwy Gomisiynydd y Gymraeg.

Dywedodd llefarydd ar ran swyddfa Comisiynydd y Gymraeg mewn datganiad: "Yn sgil ymddiswyddiad Efa Gruffudd Jones, mae Lowri Williams wedi ei phenodi fel Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg er mwyn sicrhau parhad gwaith y Comisiynydd hyd nes y penodir Comisiynydd newydd.

"Mae Osian Llywelyn yn parhau'n gyflogedig gan Gomisiynydd y Gymraeg fel Cyfarwyddwr Rheoleiddio."

Daeth swydd y comisiynydd i fodolaeth drwy Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Nod y swydd yw "hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg" yn ôl eu gwefan, sy'n nodi uchelgais bod Cymru'n "wlad lle gall pobl fyw eu bywydau yn Gymraeg".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.