Celyn Jones: 'Braint cael gwneud ffilmiau ar Ynys Môn'

- Cyhoeddwyd
Wedi ei eni a'i fagu yng Nghaergybi, mae Celyn Jones wedi gwneud enw iddo'i hun yn y byd ffilmiau, yn actio, cyfarwyddo ac ysgrifennu.
Yn ddiweddar, dychwelodd i fro ei febyd i gyfarwyddo ei ffilm ddiweddara', MadFabulous, sy'n adrodd stori Henry Cyril Paget, cymeriad lliwgar yn hanes yr ynys.
Mae'n angerddol am roi lle blaenllaw i Gymru yn y diwydiant ffilm, meddai, ac yn gwneud ei orau i wneud y llwybr yn haws i'r bobl sy'n dilyn ôl ei droed.
'Pam ddim Ynys Môn?'
"Yn 2023, ges i wahoddiad i agor Stiwdios Ffilm Aria yn Llangefni – oedd yn foment anhygoel – a dwi'n cofio dweud build it and they will come," cofiai Celyn.
"Mae cael uchelgais yn hanfodol. Ac ers hynny 'dan ni wedi cael Daniel Day-Lewis yna, Anthony Hopkins...
"A sut dwi'n ei weld o ydy, pam ddim? Pam ddim Ynys Môn?"

Celyn gyda'i wobr BAFTA Cymru am yr Actor Gorau, a enillodd am ei bortread o'r llofrudd Levi Bellfield yn y ddrama Manhunt. Mae hefyd wedi ei enwebu am BAFTA Cymru am ei waith ysgrifennu, a hynny ar gyfer y ffilm am Dylan Thomas, Set Fire to the Stars
Ond wrth gwrs, roedd pethau'n dra gwahanol i'r Celyn ifanc pan oedd yn tyfu i fyny yng Nghaergybi.
Gyda'i dad yn llongwr a'i fam yn bobydd, roedd ei deulu bron mor bell â phosib o fyd y sgrin fawr. Ond roedd gan Celyn gariad tuag at ffilm, ac roedd hynny yn ddigon i'w 'sbarduno 'mlaen.
"Yn yr ysgol 'nes i ddarganfod actio, oedd jest yn gwneud synnwyr i mi; 'nath o gryfhau fy nghyfathrebu a sianelu fy egni. Ac o'n i'n dda. Dyna beth yrrodd fi 'mlaen. Es i i'r Manchester Youth Theatre ac wedyn i'r coleg drama yn Rhydychen, a dechreuodd ddrysau agor i mi.
"Flynyddoedd wedyn, ddechreuais i ysgrifennu achos o'n i'n teimlo mod i eisiau creu rhannau i mi eu hactio. O'n i isho chwarae Dylan Thomas, felly 'nes i gyd-ysgrifennu'r sgript ar gyfer Set Fire to the Stars efo Andy Goddard, a dyna oedd dechrau'r cwmni cynhyrchu.
"Safodd neb yn fy ffordd i a dweud 'alli di ddim', ond hyd yn oed os fasa 'na, dwi o Gaergybi, doedd dim stop arna i, os dwi'n onest...!"

Elijah Wood fel John Malcolm Brinnin a Celyn Jones fel Dylan Thomas yn Set Fire to the Stars, a gafodd ei ysbrydoli gan y stori wir am ymgais yr Americanwr i edrych ar ôl y gŵr o Dalacharn ar ei ymweliad cyntaf ag America
Symud i ffwrdd o adref oedd rhaid i Celyn ei wneud er mwyn profi ei lwyddiant – mae wedi gweithio yn Llundain, Ffrainc, America, ac mae 'nawr yn byw ar y Wirral. Ond mae'n gweld newid yn y diwydiant, gyda mwy o gyfleoedd i Gymry allu aros yn eu mamwlad i weithio.
"Dwi'n caru adre, a dyna lle mae fy holl deulu i, ond 'nes i erioed ddychmygu y baswn i'n gallu gwneud fy swydd o adre.
"Ond rŵan, mae o'n bosib, ac mae'n gyffrous.
"Dwi 'di bod rhyw 26 mlynedd yn y diwydiant a do'n i erioed wedi gwneud job yn Ynys Môn.
"A rŵan dwi newydd 'neud tair ar ôl ei gilydd, a mae'n ffilm nesa' i'n cael ei wneud ar Ynys Môn hefyd, felly mae o wir yn teimlo fel dod adra i mi – mae'r lle yn fy ngalw i'n ôl."
Actio gydag Anthony Hopkins
Dydy'r llwybr i lwyddiant mewn maes hynod gystadleuol heb fod yn hawdd bob tro i Celyn. Ond mae'n credu'n gryf mewn "peidio rhoi fyny, neu ti byth am lwyddo".
Cafodd hyn ei amlygu iddo yn ddiweddar, pan wireddodd freuddwyd drwy ffilmio gyda'r seren Hollywood o Bort Talbot, Anthony Hopkins, ar gyfer A Visit to Grandpa's.
"O'n i yno efo fo a Catherine Zeta Jones yn Nolgellau mewn ffilm gan Dylan Thomas – sôn am peak Welsh!
Pam bod Syr Anthony Hopkins yn Nolgellau?
- Cyhoeddwyd16 Ebrill
"Ges i ambell i sgwrs efo fo, oedd yn brofiad anhygoel. Dyma ddyn 88 oed, sydd gan ddau Oscar, yn superstar bydeang, yn siarad am ei blentyndod a'r ysgol yng Nghymru.
"A dwi erioed wedi teimlo gymaint heb ego – doedd dim ots gen i os o'n i yn y ffilm o gwbl, o'dd hwnna jest yn foment hyfryd.
"Pan ges i le yn y coleg drama, dywedodd Mam 'Ti am fod fel Anthony Hopkins!'. Ac os oedd pobl byth y fy holi am fy hoff actor neu gyda phwy hoffen i weithio, fo oedd yr ateb bob tro. Felly roedd hyn yn enfawr i mi, a gall y pethau 'ma ond ddigwydd, ond i ti aros yn y gêm."
Dathlu ffilm o Gymru
Mae yna gryn edrych ymlaen wedi bod at ryddhau MadFabulous, a gafodd ei chyfarwyddo gan Celyn, a'i ffilmio'n gyfangwbl yng ngogledd Cymru, gyda rhan helaeth ar Ynys Môn.
Ynddi, mae Callum Scott Howells yn portreadu Henry Cyril Paget, pumed marcwis ecsentrig a lliwgar Ynys Môn o'r 1890au.
Mae'r syniad am ffilm amdano wedi bod yn ffrwtian ym meddwl Celyn ers iddo weld y llun eiconig ohono "yn edrych fel ei fod o fand roc o'r 70au", meddai.
"Ond yr her oedd sut oeddet ti'n cael y gynulleidfa i hoffi cymeriad oedd wedi achosi gymaint o straen a thrafferth ariannol.

Henry Cyril Paget - aeth yn fethdalwr ar ôl gwario ffortiwn y teulu ar ddillad a gemwaith drud a bywyd ysblennydd
"Drwy wneud ymchwil mewn i'r archifau, ddes i i weld ei fod o'n rhywun oedd eisiau cael ei garu, ac o'dd yn vulnerable. Ac roedd y gymuned leol yn ei garu ac isho edrych ar ei ôl ac yn derbyn ei holl fympwyon, ac o'n i wrth fy modd efo hynny.
"Ysgrifennodd Lisa Baker – sydd hefyd o Ynys Môn – ddrafft gynta'r sgript, ac o'n i'n gwybod mai dyna oedd yr ongl gywir."
Cafodd Celyn fodd i fyw yn ffilmio yn ôl adref, ac mae "mor falch" o beth gafodd i greu, eglurai.
"Mae'n gynnyrch tîm anhygoel ac angerddol ddaeth at ei gilydd. Cafodd y ffilm ei wneud gyda chariad a thalent, a dwi'n meddwl dy fod yn gallu teimlo hynny; mae i'w weld ar y sgrin.

Rhai o gast a chriw ffilm MadFabulous, a gafodd ei chreu yn gyfangwbl yng Nghymru
"Mae mor anhygoel i gael ffilm annibynnol yn mynd i gymaint o sinemâu ledled y wlad, gyda trailer cyn The Devil Wears Prada 2, ar billboards – mae o mor amlwg.
"Ac mae'n ffilm o Gymru; wedi ei wneud yn y gogledd a'i orffen yn y de, gyda chast a chriw bron gyfangwbl Gymreig. Mae angen dathlu hynny."
O Ynys Môn, am Ynys Môn
O actio i gyfarwyddo i ysgrifennu i gynhyrchu ffilmiau, mae digon o brosiectau ar y gweill i Celyn.
Mae newydd actio ei rôl Gymraeg gyntaf erioed, a hynny mewn ffilm fer gan ddau wneuthurwr ffilmiau ifanc. Dydy Celyn ond yn rhy ymwybodol pa mor anodd mae'r llwybr tuag at lwyddiant yn y diwydiant yn gallu bod, ac mae'n awyddus i helpu eraill gymaint â phosib.
"Dwi'n cofio pan o'n i'n tyfu i fyny yng Nghaergybi, roedden ni'n clywed am yr actor 'ma oedd yn byw ar y mynydd. Roedd o wedi bod yn henchman mewn film James Bond. Dyna oedd yr agosa' at Hollywood oedden ni'n gallu mynd.
"Ac roedd ganddon ni siop fideo. A dyna ni.

Celyn yn cyfarwyddo Callum Scott Howells ar set MadFabulous
"A rŵan, mae 'na stiwdios ffilm ar yr ynys, a ffilmiau yn cael eu gwneud yma, am fa'ma, am gymeriadau oedd yn dod oddi yma.
"Mae 'na bosteri am MadFabulous ar ochrau bysiau ac ar billboards, a dwi'n caru mai beth ydy o ydy Callum Scott Howells fel Henry Paget ym Mhlas Newydd ar lannau'r Fenai, sef yr union dŷ roedd Henry yn byw ynddo.
"Ella mai enw'r ffilm ydy MadFabulous, ond mae o wir yn real."
Mae MadFabulous yn cael ei ryddhau mewn sinemâu o 5 Mehefin
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd4 Medi 2024

- Cyhoeddwyd14 Mawrth

- Cyhoeddwyd11 Chwefror
