'Falch o'r wisg las ond y fraint fwyaf yw helpu pobl Wcráin'

Jenny Jenkins yn ystod ei thaith ddiweddaraf i Wcráin
- Cyhoeddwyd
Mae Jennifer Jenkins o Benparcau ger Aberystwyth yn un o'r rhai a fydd yn cael eu hurddo i'r Orsedd eleni, ond yn ystod ei hymweliad presennol ag Wcráin dywed mai'r fraint fwyaf yw helpu pobl yno.
Mae Jennifer, neu Jenny i'r rhai sy'n ei hadnabod, yn gyn-blismones, ac mae wedi cludo cymorth hanfodol i'r wlad ddegau o weithiau ers dechrau'r rhyfel yn 2022.
Yn siarad o Wcráin ar raglen Bwrw Golwg yn ystod ei thaith ddiweddaraf yno yr wythnos hon, dywedodd ei bod hi'n hynod o falch cael cludo nwyddau ac offer meddygol i "bobl sydd wirioneddol ei angen".
Ddechrau Mai, yn ystod diwrnod a oedd yn cofnodi buddugoliaeth yn yr Ail Ryfel Byd yn 1945, roedd awgrym gan Arlywydd Rwsia Vladimir Putin bod y rhyfel yn Wcráin ar fin dod i ben, ond ers hynny mae'r ddwy ochr wedi ymosod a nifer wedi'u lladd.

Mae gweld mynwentydd yn tyfu yn "gwbl dorcalonnus" meddai Jenny
Y tro hwn aeth Jenny a chriw â phum car a sawl lori yn llawn cymorth i Wcráin.
"Be' ni wedi ffindio yw bod deunydd meddygol fel Calpol a phethe i'r mamau pan maen nhw'n disgwyl yn ddefnyddiol iawn.
"Beth sy ' wedi bod yn digwydd yw bod ymosodiadau ar ysbytai ac yna mae'n rhaid i'r cleifion symud - ac felly mae blancedi a thyweli, er enghraifft, yn hynod o ddefnyddiol.
"I gartrefi hen bobl ry'n wedi bod yn mynd â phethe fel incontinence pads.
"Mae'n hynod bwysig bod y bobl 'ma yn gwybod bo' ni yng Nghymru ar gael i'w helpu nhw.
"Dwi wedi bod yma nawr 45 gwaith - be' sy' wedi taro fi y tro hwn yw'r tywyllwch - does 'na ddim golau i ni ddadlwytho'r nwyddau."
Anrhydeddau'r Orsedd 2026: Y canolbarth a'r gorllewin
- Cyhoeddwyd7 Mai
Anrhydeddau'r Orsedd 2026: Gweddill Cymru
- Cyhoeddwyd7 Mai
Wrth i'r ymladd barhau ac i bobl o'r ddwy ochr gael eu lladd, dywed Jenny Jenkins mai'r hyn sy'n ei tharo o hyd yw gweld y mynwentydd yn ehangu.
"Mae gweld y mynwentydd yn tyfu yn gwbl dorcalonnus.
"Mae'r rhyfel 'ma yn cael effaith ar bawb - nid just dynion ond merched, plant a babis hefyd.
"'Na i gyd ni mo'yn yw gweld nhw yn byw yn dawel ac yn hapus."

Bydd Jenny Jenkins yn cael ei hurddo i'r wisg las yn Eisteddfod y Garreg Las
Ychwanegodd bod ei gyrfa flaenorol fel plismones wedi'i hysbrydoli i helpu ac annog eraill i roi cymorth hefyd.
"Roeddwn yn hynod falch o gael fy enwebu i'r Orsedd - bod 'na eraill yn gwerthfawrogi be' dwi ac eraill yn ei wneud.
"Mae'n fraint cael gwneud y gwaith a byddai'n parhau i'w wneud tra gallaf."
Ychwanegodd ei bod yn edrych ymlaen at Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn Llantwd ddechrau Awst.
"Dwi ddim yn berson eisteddfodol, cofiwch, a does gen i ddim syniad be' i ddisgwyl ond mae'r teulu yn edrych ymlaen a fe 'nawn ni joio'r diwrnod."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.