'Nes i ragweld fy ngefeilliaid tra'n byw bywyd arall mewn coma'

Dywed Keenan Acton iddo fyw "bywyd arall" tra'n anymwybodol - ond mae ambell atgof wedi dod yn wir
- Cyhoeddwyd
"Nid breuddwyd mohono. Ro'n i'n ei wylio'n digwydd... yn byw bywyd arall."
Treuliodd Keenan Acton, 26, dros bedair wythnos mewn coma ar ôl llewygu yn ystod cystadleuaeth ffitrwydd Hyrox ym mis Medi 2024.
Dros 18 mis yn ddiweddarach, mae'r tad i ddau yn dal yn ceisio deall y bywyd y mae'n dweud iddo fyw tra'n anymwybodol, gan gynnwys gweld ei wraig yn geni gefeilliaid.
Nawr, mewn tro annisgwyl, mae ei wraig Olivia yn feichiog gydag efeilliaid.

Cafodd Keenan ei roi mewn coma meddygol am dros bedair wythnos
Prin yw atgofion Keenan - perchennog campfa o'r Orsedd, ger Wrecsam - o'r diwrnod y llewygodd.
Pobl eraill sydd wedi llenwi'r bylchau yn ei gof.
"Roedd fy ngwraig yn ein gwylio ac aros i ni ddarfod ac mi syrthiais a chael seizure," dywedodd.
Cafodd ei gludo i ysbyty yn Birmingham, ble cafodd Olivia wybod bod ymennydd ei gŵr wedi chwyddo, a sawl organ yn methu. Cafodd ei roi mewn coma meddygol.
Roedd â chyflwr sy'n gallu peryglu bywyd, rhabdomyolysis - gwaeledd sy'n gallu codi yn sgil gorhyfforddi.
Cafodd ei dynnu o'r coma wedi tair wythnos, ond pedwar diwrnod wedi hynny cafodd ataliad ar y galon.
Fe gafodd ei adfywio a'i roi yn ôl mewn coma am wyth diwrnod ymhellach. Yn y cyfnod hwnnw dywedodd meddygon wrth Olivia fod perygl iddo farw.
"Y peth anoddaf yw'r hyn bu'n rhaid i bawb arall fynd trwyddo..." dywedodd Keenan.
"Ar un achlysur, cafodd [Olivia] wybod mai ond 24 awr oedd gen i."

Mae Keenan a'i wraig Olivia eisoes â dau fab - Roman, sy'n bump oed, a River, sy'n bedair
Pan ddaeth allan o'r ail goma, roedd Keenan yn credu bod yr hyn a welodd tra'n anymwybodol wedi digwydd go iawn.
"Un o'r petha' cynta' 'nes i dd'eud i wrth Liv ar ôl deffro oedd 'sut mae'r babis?'"
Fe ddrysodd hynny ei wraig, a ofynnodd a oedd yn cyfeirio at eu meibion ifanc, Roman a River.
"Ro'n i'n dechra' gwylltio... ro'n i'n credu bod ni wedi dweud wrth bawb ar y cyfryngau cymdeithasol."
Cafodd ei lethu o gael gwybod nad oedd yn dad i efeilliaid.
"Ro'n i'n teimlo fel bod rhan ohona i ar goll."

Mae Keenan (ar y dde) wedi cymryd rhan mewn nifer o heriau corfforol dros y blynyddoedd
Wrth ddisgrifio'i brofiadau tra mewn coma, mae Keenan yn pwysleisio nad yw'n teimlo fel breuddwyd.
"Roedd o'n real. Ro'n i'n ei wylio'n digwydd, yn ei wneud o, yn byw y peth."
Mae ganddo atgof o enedigaeth yr efeilliaid tra ar wyliau, a dychwelyd adref "i dŷ mawr hyfryd â blaen gwydr ar bwys dŵr, ac roedd gyda ni bedwar o blant".
"Ro'n i wrth fy modd."

Dywed Keenan bod ei waeledd a'r profiad o fod mewn coma wedi newid ei agwedd at fywyd
Mae ganddo atgofion "tywyll a chas" hefyd, gan gynnwys "cael fy ngorfodi i wneud pethau annymunol".
Un esiampl oedd cael ei "symud i ganol nunlle a fy rhoi mewn caban" ble bu'n rhaid defnyddio peiriant hyfforddi'n ddi-stop i aros yn fyw.
Yn yr atgof roedd oriawr ar ei arddwrn "yn cyfri' i lawr o wyth diwrnod".
Ar ôl deffro a rhannu'r atgof gyda chyfaill, dywedodd yntau: "Dyna hyd dy ail goma."
'Ein meddyliau wastad yn creu naratif'
Dan goma meddygol, mae cyffuriau llonyddol yn cael eu defnyddio i wneud claf yn anymwybodol - cam i warchod yr ymennydd rhag niwed trawmatig.
Mae sawl claf gofal dwys yn dweud eu bod wedi cael breuddwydion bywiog tra mewn coma, ac mae astudiaethau yng ngwlad Groeg ac Awstralia wedi ymchwilio i'r ffenomenon.
Roedd Keenan eisiau deall mwy am ei atgofion tra mewn coma, felly trefnodd y BBC iddo gwrdd â seicolegydd clinigol ymgynghorol, Pieter du Toit - cyfarwyddwr clinigol elusen Brainkind.
"Pan roeddet ti yn y coma meddygol, ni chafodd dy ymennydd ei gau i lawr," eglurodd.
"Doedd e ddim yn achos o ddiffodd switsh. Roedd cryn dipyn yn mynd ymlaen."

Keenan gyda'i feibion ifanc, Roman a River
Holodd Keenan pam y cafodd atgofion o gael gefeilliaid a symud tŷ.
"Ein breuddwydion ac ein profiadau mewn coma, neu'r rhai rydyn ni'n eu cofio, yw'r pethau sy'n bwysig i ni," dywedodd Pieter du Toit.
"Mae ein meddyliau wastad yn creu naratif, stori, cyfanwaith."
Yn ei farn ef, mae atgof Keenan o'r caban yn dangos sut mae'r ymennydd "yn fetaffor ac yn beiriant creu ystyr".
Mae'n debygol, ychwanegodd, bod ymennydd Keenan wedi ymateb i'r profiad o fod yn yr ysbyty a chreu golygfa yn gysylltiedig â bod yn ynysig, ymladd i oroesi a'r posibilrwydd o farw.

Mae disgwyl i efeilliaid Keenan ac Olivia gyrraedd ddiwedd Mehefin
Ym mis Rhagfyr 2024 cafodd Keenan adael yr ysbyty, gan ddefnyddio ffrâm gerdded. Wythnosau'n ddiweddarach roedd yn ôl yn y gampfa.
Wyth mis ar ôl gadael yr ysbyty, fe briododd ag Olivia, sydd nawr yn feichiog. Mae disgwyl iddi roi genedigaeth ym mis Mehefin.
Roedd darganfod yn ystod sgan bod yna ddau fabi ar y ffordd, nid un, "yn cyfateb i'r hyn weles i yn y coma", medd Keenan.

Fe briododd Olivia a Keenan wyth mis wedi iddo adael yr ysbyty
Dywed Keenan bod dim hanes teuluol o efeilliaid a bod y beichiogrwydd yn un naturiol.
"Mae'n ormod o gyd-ddigwyddiad i fi beidio meddwl bod fy nghoma yn gip i'r dyfodol," meddai.
"Rhaid i chi brofi hynny i'w gredu."
Dywedodd Pieter du Toit y byddai "gwyddoniaeth yn awgrymu mai cyd-ddigwyddiad ydy o, fwyaf tebyg", ond ychwanegodd na all gwyddoniaeth esbonio popeth.
"Mae yna gyfyngiadau... mae'n ymwneud â'r hyn sy'n gwneud synnwyr i'r person, yr hyn sy'n helpu, yn hytrach na'n hyn sy'n gywir."
'Bywyd yn well nag o'r blaen'
Ers ei waeledd, mae Keenan wedi gwerthu rhan o'i fusnes ac mae'n blaenoriaethu bod gyda'i deulu.
"Mae bywyd i mi, a'r teulu, yn well nag o'r blaen," meddai.
"Dwi ddim yn rhuthro'n wyllt, yn llawn straen. Dwi'n gweld fy mhlant yn cael brecwast, mae Dad adref i ddarllen llyfr amser gwely ac amser bath.
"Dydw i ddim am alw'r hyn ddigwyddodd yn fendith gudd achos doedd o ddim yn fendith i neb, ac aeth pawb trwy uffern.
"Yn gorfforol, fedra i ddim gwneud beth o'n i'n arfer gwneud, ond dwi wedi sylweddoli bod rhai pethau mewn bywyd yn bwysicach."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2025

- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
