Gollyngiad cerosîn wedi lledu dros ddwy filltir ar hyd Afon Taf

Yn ôl trigolion lleol, mae yna arogl "fel gorsaf betrol" ger yr afon ers dydd Gwener
- Cyhoeddwyd
Mae pobl sy'n byw ger yr Afon Taf wedi cael cyngor i gadw drysau a ffenestri ar gau oherwydd gollyngiad cerosîn sydd wedi llygru'r afon.
Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fod y llygredd yn effeithio ar bron ddwy filltir a hanner o'r afon, gan gynnwys ardaloedd Nantgarw, Trefforest, Glan-y-Llyn, Ffynnon Taf, Gwaelod-y-garth a Thongwynlais.
Doedd CNC ddim am gadarnhau lleoliad tarddiad y gollyngiad hyd nes diwedd eu hymchwiliad, ond mae cwmni lleol, GE Aerospace wedi cadarnhau ei fod wedi digwydd yn ystod gwaith cynnal a chadw ar y safle.
Ychwangodd llefarydd y cwmni eu bod yn helpu CNC a swyddogion Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, sy'n rhoi cymorth gydag offer arbenigol i leihau maint y cerosîn sy'n cyrraedd yr afon.
Ers dod o hyd i darddiad y llygredd am 19:30 nos Wener, mae swyddogion CNC yn ceisio cadarnhau sut y cyrhaeddodd y system ddraenio.
Mae "camau wedi eu cymryd i leihau'n sylweddol maint y llygredd sy'n cyrraedd yr isafon, tra bod gwaith ymchwilio'n mynd yn ei flaen i geisio atal y llygredd yn llwyr".
Mae swyddogion hefyd yn cymryd samplau er mwyn cadarnhau "union effaith amgylcheddol y gollyngiad".
'Sglein i'r afon ac arogl fel gorsaf betrol'
Yn ôl adroddiadau cychwynnol fore Sadwrn, roedd y gollyngiad yn effeithio ar ardal o leiaf filltir o hyd.
Fe gadarnhaodd CNC wedi hynny ei fod wedi lledu wrth iddyn nhw barhau "i ymchwilio i darddiad y digwyddiad er mwyn deall sut y mae'n digwydd, atal y llygredd yn llwyr a chasglu tystiolaeth".
Dywedodd Eurig Thomas, sy'n byw yn Ffynnon Taf, bod ffrwd ger ei gartref sy'n llifo o ffatri GE Aerospace i Afon Taf.
"Roedd yn arogli fel gorsaf betrol," meddai. "Roedd yn eich taro gynted ag aethoch chi mas.
"Roedd yna sglein i'r afon... mae'r arogl wedi gwasgaru ond gallwch chi ei ogleuo o hyd y bore 'ma.
Dywedodd Sarah Llewelyn, sydd hefyd yn byw yn lleol: "Dydw i heb gysgu mewn tridiau.
"Amser cinio dydd Gwener, agorais y drws ac ro'n i'n gallu arogli fumes. Roedd yn llosgi fy llygaid."
Awgrymodd bod y sefyllfa'n "drychineb genedlaethol".
Ychwanegodd: "Mae CNC wedi dweud wrthym bod hyd at 25,000 o litrau o gerosîn wedi mynd i'r afon."

Mae deunyddiau wedi eu gosod yn yr afon i geisio amsugno'r cerosîn a rheoli'r gollyngiad
Yn ôl Gareth Llewelyn, cyn-swyddog gwarchod yr amgylchedd rhag deunyddiau peryglus gyda gwasanaeth tân y de, does "dim datrysiad sydyn" mewn sefyllfa o'r fath, ac y gallai gymryd "blynyddoedd yn hytrach na misoedd".
Dywedodd ei fod wedi gweld ffos "llawn cerosîn" dros y ffordd o safle GE Aerospace, yn Nantgarw.
"Dyw e ddim yn cymysgu 'da dŵr ac fe fydd yn parhau i lygru," meddai, gan ychwanegu bod y gollyngiad "wedi rhwygo'r galon o ein cymuned - Ffynnon Taf yw enw'r pentref, ar ôl y Taf".
Mae hefyd yn ofni bod "dim anifeiliaid, dim adar [a dim] pysgod yn sgil y gollyngiad.
'Diogelwch yn brif flaenoriaeth'
Mewn datganiad brynhawn Sul, dywedodd llefarydd ar ran cwmni GE Aerospace: "Diogelwch ein gweithwyr, cymdogion a'r amgylchedd yw ein prif flaenoriaeth.
"Rydym yn gweithio'n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i lanhau gollyngiad tanwydd a ddigwyddodd ar y safle tra bod gwaith cynnal a chadw yn cael ei gwneud."
Dywed CNC bod y tanwydd yn dod o system ddraenio dŵr wyneb tanddaearol ond bod maint y gollyngiad wedi lleihau'n sylweddol.
Mae staff, meddai llefarydd, wedi gweithio gyda'r gwasanaeth tân i osod offer i gasglu'r tanwydd, ac mae yna lai o arogl erbyn hyn.
Mae samplau dŵr wedi cael eu casglu i asesu maint unrhyw ddifrod yn sgil y llygru.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynghori pobl sy'n byw ger yr afon yn y mannau dan sylw i gadw drysau a ffenestri ar gau, osgoi dod i gysylltiad â'r dŵr ac i ffonio gwasanaeth 111 y GIG os maen nhw'n teimlo'n sâl.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.