Meddygon yn hyderus y bydd Bonnie Tyler yn 'gwella'n llwyr' wedi salwch

Bonnie TylerFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae meddygon yn hyderus y bydd y gantores Bonnie Tyler yn "gwella'n llwyr" ar ôl cael ei rhoi mewn coma ar ôl llawdriniaeth frys.

Yn ôl datganiad ar ei gwefan, mae'r gantores o Gastell-nedd yn parhau'n "ddifrifol wael ond yn sefydlog" mewn ysbyty yn Faro, Portiwgal.

Ychwanegodd y datganiad bod meddygon yn "bositif" ynghylch ei hiechyd yn y tymor hir.

Ond fe wnaeth ei theulu fynegi siom ynghylch "sïon pryfoclyd a di-sail" sy'n cylchredeg yn y cyfryngau ers iddi gael ei chludo i'r ysbyty.

Cafodd Tyler, sy'n 74 oed, ei rhuthro i'r ysbyty am lawdriniaeth ar ei choluddyn yr wythnos diwethaf.

Mae'r datganiad newydd yn galw ar y cyfryngau i roi'r gorau i ddyfalu a pharhau i barchu preifatrwydd y teulu, gan ddweud bod y sïon yn achosi gofid i deulu, ffrindiau a chefnogwyr.

Yn ôl y datganiad, bydd diweddariad pellach yn cael ei gyhoeddi "pan fydd unrhyw newyddion pellach am gyflwr Bonnie", gan ofyn am "breifatrwydd a pharch yn yr amser anodd hwn."

Cafodd Bonnie Tyler, Gaynor Hopkins yw ei henw go iawn, enwogrwydd rhyngwladol yn y 1980au gyda'i chân Total Eclipse of the Heart, aeth i frig y siartiau yn y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau.

Mae ganddi nifer o ganeuon poblogaidd eraill, gan gynnwys Holding Out for a Hero ac It's a Heartache.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol