Ydi hi'n haws byw fel artist yn Iwerddon na Chymru?

Luned Rhys ParriFfynhonnell y llun, Luned Rhys Parri
GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

"'Di petha ddim wedi gwella yn yr amser dwi 'di byw yng Ngwynedd i artistiaid gweledol."

Dyna eiriau'r artist Luned Rhys Parri sydd newydd ddychwelyd o gyfnod preswyl yn yr Iwerddon ac yn edmygu'r cyfleoedd sydd yna i artistiaid yr Ynys Werdd i'w gymharu ag ardaloedd yng Nghymru.

Tra yn Connemara, roedd hi'n cyd-weithio â phum artist arall ac yn gweld sut yr oedden nhw yn mynd ati i weithio mewn ardal wledig.

Un peth oedd yn sefyll allan i Luned oedd y ffordd mae artistiaid yn cael eu hariannu yn Iwerddon i'w gymharu ag artistiaid yng Nghymru.

Mewn sgwrs ar raglen Llwyfan gyda Manon Steffan Ros ar BBC Radio Cymru, mae Luned yn disgrifio'r broses yng Nghymru fel un "flinedig" ac yn cwestiynu'n aml "ble mae'r geiniog nesaf am ddod".

Incwm i artistiaid

"Os ti'n artist yng Ngwynedd, yr unig ffordd o gael incwm ychwanegol ydy bod ni'n gwneud gweithdai. Mae'n waith reit flinedig.

"Lle maen nhw (yn Iwerddon) yn gallu meddwl 'wel, 'na fo, mae'r biliau wedi cael eu talu'. 'Dio'm yn gyflog mawr ond mae o'n ddigon iddyn nhw allu ymlacio a jest canolbwyntio ar eu celf a ma' hwnna'n rhywbeth 'da ni ddim o reidrwydd yn ei gael yng Nghymru," meddai.

Roedd Luned yn disgrifio'r broses o sut mae artistiaid yn Iwerddon yn gallu gwneud cais am gyflog cyson dros gyfnod o dair blynedd.

Wedyn, mae disgwyl iddyn nhw ddangos i'r awdurdodau'r gwaith y maen nhw wedi'i gyflawni yn ystod y cyfnod yna.

Un peth arall oedd yn sefyll allan i Luned tra ar ei thaith yno oedd bod adeiladau gwag yn aml yn cael eu defnyddio gan artistiaid am "rent rhesymol" i arddangos eu gwaith.

"Dwi'm yn gallu gweld fod 'na ddim byd tebyg yng Ngwynedd.

"Mae 'na ganolfannau celfyddydol wedi cael eu hadeiladu yng Nghaernarfon a Bangor a does 'na ddim artistiaid gweledol yn cael bod yn y gofodau.

"Dwi ddim yn gwybod be' sy'n bod efo ni. Dwi'n gwybod bod ni ddim eisiau paent gwlyb a phethau ond dwi jest yn meddwl fod hynny yn creu rhywbeth diddorol mewn adeilad.

"Os ydi o fod yn adeilad celfyddydol yna 'da chi fod efo artistiaid gweledol yna a dylen ni gael chydig fwy o barch," meddai.

Engraifft o waith celf Luned Rhys ParriFfynhonnell y llun, Luned Rhys Parri
Disgrifiad o’r llun,

Engraifft o waith celf Luned Rhys Parri

Mae'r syniad o agor swyddfeydd ac adeiladau gwag yn Iwerddon yn galluogi artistiaid i weithio'n gyhoeddus ac nid y tu ôl i ddrysau caeedig eu cartrefi.

Mae Luned yn pwysleisio fod llefydd tebyg i'w cael yng Nghaerdydd ond nad oes dim yn yr ardal y mae hi'n gweithio ynddi yng Ngwynedd.

"Mae stiwdios yng nghanol y ddinas yng Nghaerdydd lle mae pobl yn gallu rhentu gofod am £80 y mis, a dyna sydd eisiau arnon ni yng Ngwynedd.

"Mae cymaint o fyfyrwyr ifanc a llawer yn mynd i ffwrdd i astudio celf ac maen nhw'n dod yn ôl i Wynedd ac yn gweithio mewn caffis.

"Does 'na neb yn deud, dewch yn ôl i Wynedd, mae 'na ofodau, mae 'na ddigonedd o swyddfeydd gwag a lle i chi gyd-weithio," meddai.

O ran y dyfodol fe esboniodd Luned y byddai hi'n hoffi gweld y gwagleoedd mewn adeiladau yn cael eu defnyddio gan artistiaid.

Mae hi'n teimlo bod llawer o'r orielau sy'n bodoli'n barod wedi'u troi i siopau sy'n denu twristiaid.

"Rydan ni'n cael orielau yma fatha siop yn gwerthu sebon a chanhwyllau oglau da.

"Ma' hynna mor boring, dwi'n meddwl fod 'na ddigon o siopau bach twristiaid i wneud hynna. 'Da ni ddim isho hynna mewn oriel.

"Mae oriel i fod yn oriel a fysa fo'n well cael criw o artistiaid yna a chael eu gwaith celf nhw yno," meddai.

Gofynnodd BBC Cymru Fyw i Gyngor Gwynedd am ymateb, ond doedd y Cyngor ddim am wneud sylw.

Cyn hir bydd gwaith Luned i'w weld yn Oriel Glynyweddw.

I wrando ar sgwrs Luned yn llawn ar raglen Llwyfan, cliciwch yma.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.