Cefnogaeth ar TikTok wedi fy helpu i ddygymod â cholli fy ngwallt

- Cyhoeddwyd
Ar ôl cyfnod anodd yn ei bywyd, dechreuodd y cyflwynydd Lauren Moore golli ei gwallt. Ym mis Ebrill, penderfynodd fynd amdani a siafio ei phen.
Mae hi wedi rhannu ei phrofiadau yn agored ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae hyn wedi ei helpu i ddygymod â phopeth, fel yr eglurodd ar Dros Ginio ar BBC Radio Cymru.
"Tua diwedd mis Awst, daeth fy mherthynas i ddiwedd, tair wythnos cyn priodas ni. O'dd hwnna yn brofiad horrible a rili stressful.
"O'dd stress hwnna wedi cael impact eitha mawr ar fy nghorff i. Mae cyflwr autoimmune gyda fi yn barod, a phrif trigger hwnna yw stress, a phrif trigger alopecia yw stress.
"O'dd e tua diwedd Rhagfyr, dechrau Ionawr, nes i sylwi fod patshys bach [o wallt] yn cwympo mas, tua maint £1 i 50c. 'Nes i sôn wrth Mam, trio cadw llygad arno fe, trio stimulatio'r follicles i gael e i dyfu nôl. Ond o'dd gwallt fi'n mynd yn rili tenau.
'Dim yn gweithio'
"'Naeth e arafu lawr, ac o'dd y patshys wedi dechrau tyfu nôl – grêt!
"'Naeth hwnna bara tua mis, ac allan o nunlle, 'naeth e jest – ar raddfa o'n i heb weld o'r blaen – ddechrau dod mas a dod mas. Doedd 'na ddim byd o'n i'n gallu ei wneud i stopio fe.
"O'dd y patshys yn gwaethygu, o'dd fy hairline yn dechrau symud nôl, ac o'dd y gwallt oedd gen i ar ôl jest wedi marw; o'dd e fel gwellt, yn rili sych. O'n i'n rhoi olew a creams gwahanol, a doedd dim yn gweithio.

Mae Lauren, sy'n cyflwyno ar BBC Radio Cymru, wedi bod yn arbrofi gyda wigiau gwahanol ers i'w gwallt ddechrau syrthio allan
"'Nes i brynu wig, ac o'dd hwnna wedi rhoi llwyth o hyder i fi. Es i'n rili reliant ar y wig yn rili cloi, i'r pwynt fel os o'n i'n picio i ôl rhywbeth o'r car, o'n i'n rhoi'r wig ymlaen – do'n i ddim yn gadael y tŷ heb wig.
"'Nes i postio ar TikTok [mod i'n meddwl siafio fy mhen], a 'naeth rhywun adael sylwad: 'Beth sy'n waeth, codi pob bore gyda'r pryder bo' ti am ffeindio patsh arall? Neu godi pob bore gyda'r teimlad bo' ti ddim am ffeindio patsh arall?'
"A dyna pryd 'nes i sylweddoli, gwell gen i godi heb wallt, na chodi a gweld hwn bob dydd.

Mae Lauren yn ddiweddar wedi siafio ei phen am fod ei gwallt yn syrthio allan
Ymateb 'llawn cariad'
"Gyda'r byd mawr, mae'n anodd gwybod beth mae pobl yn meddwl. Fi'n meddwl mwy na thebyg y cwestiwn ym mhennau rhywun – ydy e'n steil neu ydyn nhw'n sâl? Ond i fi, o'n i'n edrych yn fwy sâl gyda gwallt nag ydw i heb.
"Ond mae'r ymateb wedi bod yn ffantasig, rili lyfli. Ar TikTok, mae gymaint o bobl yn hala negeseuon ac yn gadael sylwadau mor hael a llawn cariad – mae hwnna wedi bod yn anhygoel.
"Dwi'n meddwl os 'sen i ddim wedi cael yr ymateb yna, bydde fe wedi cymryd llawer yn hirach i fi gyrraedd y pwynt lle o'n i'n ddigon hyderus i gael gwared o'r gwallt.
Do'n i ddim yn gadael y tŷ heb wig
Lauren Moore yn rhannu ei phrofiad o golli ei gwallt - Dros Ginio ar BBC Radio Cymru
"Cyn cael gwared ohono fe, dyma ffrind yn dweud 'beth os mae e ddim yn tyfu nôl?'.
"O'dd e byth am dyfu i fod yn iach yn y cyflwr o'dd e cyn cael gwared arno fe. 'Nes i heddwch gyda'r ffaith fod 'na siawns bod e ddim yn mynd i dyfu nôl.
"A well gen i bod dim gwallt gyda fi na bod gwallt gyda fi oedd yn achosi gymaint o broblemau i fi.

Mae cefnogaeth ei theulu, ffrindiau a phobl ar y cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn amhrisiadwy i Lauren
"Rhywbeth nes i ddysgu yn y broses yma, yw os oes cyflwr autoimmune gyda ti, mae siawns uwch o ddatblygu alopecia hefyd, achos maen nhw'n mynd law-yn-llaw.
"Gan mod i mewn relapse ar hyn o bryd gyda'r cyflwr, wrth i fi dderbyn triniaeth, gobeithio fydd y corff yn trwsio'i hun, a bydd fy ngwallt yn tyfu nôl.
"Ond mae'n achos o aros a gobeithio – ac os dyw e ddim, dyw e ddim, a dwi'n eitha' hapus gyda hynna.
"Mae gymaint o opsiynau i'w cael nawr, o ran wigs, bydda i byth heb rhyw fath o wallt, felly s'dim ots 'da fi."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2024
