Cyn-gyfarwyddwr yn honni iddi gael ei bwlio, ei bychanu a'i sarhau yn S4C

Amanda Rees yw'r trydydd cyn-uwch-reolwr S4C i ddwyn achos uchel lys yn erbyn y darlledwr
- Cyhoeddwyd
Mae un o gyn-reolwyr S4C yn dweud iddi ddioddef methiant ar ei chalon oherwydd straen wedi i'r cyn-brif weithredwr "godi cywilydd" arni a'i "beirniadu", yn ôl dogfennau llys.
Mae cyn-gyfarwyddwr platfformau'r darlledwr, Amanda Rees, yn dwyn achos uchel lys yn erbyn y sianel, gan ddweud i S4C fod yn "esgeulus" ac wedi "torri dyletswydd statudol" i'w hamddiffyn hi a staff eraill.
Mae S4C yn dweud eu bod "wedi cyflwyno amddiffyniad cadarn yn erbyn yr honiadau a wnaed", gan nodi yn eu hamddiffyniad na rannodd Amanda Rees ei phryderon iechyd gyda nhw na defnyddio'r gwasanaethau cymorth oedd ar gael iddi fel gweithiwr S4C.
Rees yw'r trydydd cyn-uwch-reolwr S4C - sydd yn cael ei ariannu yn bennaf drwy'r ffi drwydded - i ddwyn achos uchel lys yn erbyn ei chyn-gyflogwr.

Cafodd Siân Doyle ei diswyddo ar ôl i ymchwiliad gan gwmni cyfreithiol allanol ddweud iddi ymddwyn mewn modd "unbenaethol"
Setlodd y cyn-brif weithredwr Siân Doyle, a'r cyn-brif swyddog cynnwys Llinos Griffin-Williams, ddadleuon cyfreithiol y tu allan i'r llys yn ddiweddar.
Yn ôl adroddiadau, derbyniodd y ddwy setliadau swmpus gwerth cannoedd o filoedd o bunnoedd i ddod â'u hawliadau cyfreithiol i ben.
Yn ôl ffynonellau yn S4C, ni chafodd unrhyw arian cyhoeddus ei wario ar y setliadau eu hunain.
Er hynny, mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth gan Newyddion S4C, mae'r darlledwr wedi datgelu am y tro cyntaf iddyn nhw wario £110,358 ar ffioedd cyfreithiol wrth ymladd hawliadau Siân Doyle a Llinos Griffin-Williams.
Dywedodd S4C i'r arian ddod o gronfeydd wrth gefn ac na chafodd cyllidebau creu na datblygu cynnwys eu heffeithio.
Roedd Siân Doyle a Llinos Griffin-Williams wedi cael eu diswyddo cyn dod ag achosion yn erbyn S4C.
Cafodd Siân Doyle ei diswyddo o'i swydd fel prif weithredwr wedi i ymchwiliad hir gan gwmni cyfreithiol allanol ddweud iddi ymddwyn mewn modd "unbenaethol" a'i bod yn gyfrifol am greu "diwylliant o ofn" yn ystod ei chyfnod wrth y llyw yn S4C.
Ar y pryd, dywedodd Ms Doyle nad oedd hi'n "adnabod na chydnabod" yr honiadau.
Cafodd Ms Griffin-Williams ei diswyddo ym mis Hydref 2023 wedi honiadau iddi sarhau cyn-fewnwr Cymru Mike Phillips yn eiriol tra'n feddw wedi gêm Cwpan Rygbi'r Byd.

Cafodd Llinos Griffin-Williams ei diswyddo ym mis Hydref 2023
Gadawodd Amanda Rees ei swydd fel cyfarwyddwr platfformau S4C yn Hydref 2023.
Roedd hi wedi bod i ffwrdd o'i gwaith oherwydd salwch ers mis Chwefror y flwyddyn honno.
Mewn dogfen a anfonwyd at yr Uchel Lys, ac sydd wedi ei rannu â rhaglen Newyddion S4C, mae hi'n amlinellu cyfres o gwynion yn erbyn y darlledwr, gan ddweud i S4C fethu yn eu dyletswydd i'w hamddiffyn hi rhag niwed.
Dywed y ddogfen i Ms Doyle ddefnyddio dull rheoli oedd yn "ddigyfaddawd, anhyblyg" oedd yn "achosi rhwygiadau", ac iddi "fwlio" Ms Rees drwy ei "bychanu a sarhau".
Mae cyfreithwyr ar ran Amanda Rees yn honni y byddai Ms Doyle yn aml yn defnyddio'r ymadrodd "saethwch un a bydd mil yn crynu" ac iddi ddweud wrth Ms Rees "dwyt ti ddim angen ymddiriedaeth i greu newid, mae angen creu pryder i gael newid".
Yn ôl y ddogfen, roedd Ms Doyle yn "anghwrtais" ac yn "gas" am weithwyr S4C, gan ddefnyddio iaith "fychanol, garw, a sarhaus amdanyn nhw".

Mae amddiffyniad S4C i'r llys yn gwadu nifer o honiadau Amanda Rees
Dywed Ms Rees iddi gael ei thanseilio gan Ms Doyle, gyda nifer o'i dyletswyddau gwaith wedi eu cynnig i eraill.
Mae'n dweud iddi godi pryderon am ymddygiad Ms Doyle gydag uwch-reolwyr a'r adran adnoddau dynol, cyn i undeb Bectu hefyd godi pryderon a arweiniodd at ymchwiliad annibynnol cwmni cyfreithiol Capital Law.
Mewn datganiad i raglen Newyddion S4C, dywedodd Siân Doyle y byddai'n "gwrthbrofi'r holl honiadau" yn ei herbyn, gan ddweud eu bod nhw'n "ffeithiol anghywir a/neu wedi eu cymryd o'u cyd-destun yn llwyr".
Mae Llinos Griffin-Williams hefyd yn cael ei beirniadu yn yr hawliad, gyda honiad iddi "fabwysiadu dull arwain tebyg i Siân Doyle" arweiniodd at "greu diwylliant corfforaethol gwenwynig dros ben", lle roedd "bygythiadau a rhaniadau... wedi eu meithrin yn fwriadol gan Siân Doyle a Ms Griffin-Williams".
Fel uwch-reolwr, mae honiad i aelodau staff ymddiried yn Amanda Rees - "rhai yn eu dagrau wrth ddisgrifio eu hofnau a'u rhwystredigaeth".
Mae honiad i un aelod staff ddioddef "argyfwng iechyd meddwl difrifol" wedi sgwrs gyda hi am eu pryderon.
Mae Llinos Griffin-Williams hefyd yn gwadu'r honiadau yn ei herbyn, gan ddweud mewn datganiad i Newyddion S4C: "Dangosais garedigrwydd, parch a phroffesiynoldeb i Amanda Rees ar bob adeg.
"Dyw'r achos hwn ddim yn hawliad yn fy erbyn i."
Trydydd cyn-uwch reolwr S4C yn dwyn achos yn erbyn y sianel
- Cyhoeddwyd24 Mawrth
Mae dau ddigwyddiad mewn dyddiau 'away days' i reolwyr yn cael eu crybwyll yn amlinelliad achos Ms Rees.
Honnir i Ms Doyle ddefnyddio iaith gref i ddweud yr hoffai hi roi'r holl dîm comisiynu ar y clwt gan eu bod yn "lletchwith a gelyniaethus".
Yn ôl dogfennau'r llys, y diwrnod canlynol dioddefodd Ms Rees fethiant ar ei chalon oherwydd straen, yn dilyn sgwrs "fywiog" arall gyda Siân Doyle am allu gweithwyr S4C i gwblhau eu gwaith.
Dywed Ms Rees yn y ddogfen bod y "gofid hirhoedlog gweithio i S4C" wedi "tanseilio ei hyder proffesiynol ac erydu ei gwytnwch emosiynol a seicolegol".
Yn ei datganiad, dywedodd Siân Doyle iddi gael ei "phenodi i arwain S4C ar adeg dyngedfennol i drawsnewid darlledwr oedd yn tanberfformio, a mynd i'r afael â diwylliant oedd wedi ei hen sefydlu".
Gan bwysleisio mai yn erbyn S4C - nid yn ei herbyn hi - mae'r hawliad, dywedodd y byddai'n croesawu "yn llwyr" cael ei galw fel tyst ac y byddai'r "holl wirionedd, wedi ei gyflwyno ynghyd â thystiolaeth fanwl... yn siarad dros ei hun".
Mae amddiffyniad S4C i'r llys yn gwadu nifer o honiadau Amanda Rees.
Mae'r darlledwr yn awgrymu na wnaeth Ms Rees "ar unrhyw adeg roi gwybod [i S4C] ei bod mewn perygl o niwed o achos straen a/neu ymddygiad eraill", i'w chytundeb gwaith gael ei ymestyn ddwywaith, ac iddi gael chwe mis o dâl tra i ffwrdd o'r gwaith yn wael, cyn i'w chyfnod fel cyfarwyddwr platfformau ddod i ben.
O ran y digwyddiad ar y diwrnod i uwch-reolwyr, dywed S4C nad oedd "unrhyw beth anaddas" am yr hyn fynegodd Siân Doyle ac na chafodd "unrhyw beth ei gyfeirio" at Amanda Rees yn bersonol.
Mae'r darlledwr hefyd yn cyfeirio at bryderon iechyd blaenorol yng nghofnodion Ms Rees, gan gynnwys cyflyrau ar ei chalon, gan honni na chafodd y rheiny eu rhannu â nhw fel cyflogwyr.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd10 Ebrill
