Mark Drakeford yn dweud y dylai Keir Starmer ymddiswyddo

Mark Drakeford a Keir Starmer yng nghynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno yn 2023
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-brif weinidog Cymru Mark Drakeford wedi galw ar Brif Weinidog y DU Keir Starmer i osod amserlen ar gyfer ei ymadawiad.
Mr Drakeford yw'r arweinydd Llafur Cymru diwethaf i ennill etholiad Senedd, a dywedodd ei fod yn cefnogi Andy Burnham i fod yn arweinydd nesaf y Blaid Lafur a Phrif Weinidog y DU.
Wrth siarad â Channel 4 News, dywedodd fod Syr Keir yn "ddyn hoffus" ond bod "cyfuniad o amgylchiadau a gallu" yn golygu nad oedd ei arweinyddiaeth wedi gweithio.
Dywedodd y gallai Mr Burnham siarad "yn ddilys dros y Deyrnas Unedig ehangach".
Prif Weinidog Cymru wedi trafod annibyniaeth gyda Starmer
- Cyhoeddwyd3 awr yn ôl
Cyn-AS: Colli cefnogaeth Cymry Cymraeg yn argyfwng i Lafur
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Gweinidog Llafur o Gymru yn ymddiswyddo ac yn galw ar Keir Starmer i 'wrando'
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
Mae Mr Burnham, maer Manceinion, yn sefyll yn isetholiad Makerfield mewn ymgais i ailymuno â Thŷ'r Cyffredin.
Pan ofynnwyd iddo a ddylai Syr Keir fynd, dywedodd Mr Drakeford: "Ydw, rwy'n credu y dylai, ond rwy'n credu y dylai wneud hynny mewn ffordd sydd wedi'i gynllunio, mewn ffordd urddasol sy'n caniatáu trosglwyddiad llyfn.
"Rwy'n credu nad oes modd ei adfer - ei safle personol ei hun a'i allu i arwain llywodraeth effeithiol.
"Rwy'n credu, yn eithaf annheg, fod rhywfaint o elyniaeth tuag at y prif weinidog, nad wyf yn credu y gellir ei hadfer."

Dywedodd Mr Drakeford fod Andy Burnham yn gefnogol iawn o ddatganoli
Dywedodd ei bod yn "bwysig iawn i'r Blaid Lafur gael arweinydd nad yw wedi'i leoli yn Llundain".
"Rydym wedi cael cyfres o arweinwyr sydd â'u gwreiddiau yn ne-ddwyrain y Deyrnas Unedig.
"Mae angen rhywun arnom sy'n siarad yn ddilys dros y Deyrnas Unedig ehangach - rhanbarthau Lloegr, cenhedloedd y Deyrnas Unedig.
"Rwy'n credu mai Andy yw'r gorau i wneud hynny, a dyna pam y bydd ganddo fy nghefnogaeth gref."
Dywedodd Drakeford fod y strategaeth a ddilynwyd gan Lafur yng Nghymru yn yr etholiad diwethaf "yn un anghywir".
"Treulion ni ein hamser yn ceisio dod o hyd i ffyrdd y byddem ni'n atal pleidleisiau rhag gadael i Reform, ond ni wnaeth pleidleisiau ein gadael ni i Reform.
"Gadawodd pleidleisiau i bleidiau blaengar eraill."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.