'Rhywbeth wedi mynd yn fy mhen' - bachgen ar ôl trywanu athrawes

Ysgol Gyfun AberdaugleddauFfynhonnell y llun, Pembrokeshire Herald
GanElen Davies
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Dywedodd bachgen 16 oed a drywanodd athrawes mewn ysgol yn Sir Benfro bod "rhywbeth wedi mynd" yn ei ben, yn ôl ei fam-gu.

Cafodd gwasanaethau brys eu galw i Ysgol Gyfun Aberdaugleddau ar 5 Chwefror yn dilyn adroddiadau bod "disgybl oedd ag arf yn ei feddiant wedi ymosod ar athrawes".

Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd yr athrawes, Vicki Williams, wrth y llys fod y bachgen, a oedd yn 15 oed ar y pryd, wedi ei dilyn i mewn i'w hystafell ddosbarth gan ofyn am help gyda'i waith hanes, cyn "hyrddio" ati gyda chyllell gegin fawr.

Mae'r bachgen, na ellir ei enwi oherwydd ei oed, yn gwadu ceisio llofruddio, anafu'n fwriadol ac anafu'n anghyfreithlon.

Map Aberdaugleddau

Yn ystod pedwerydd diwrnod yr achos yn Llys y Goron Abertawe, clywodd y rheithgor ddatganiad ysgrifenedig gan fam-gu'r bachgen.

Dywedodd ei fod yn "fachgen tawel" a fyddai'n dod i'w chartref pan oedd ei merch, sef mam y bachgen, yn gweithio.

Dywedodd mai ar 3 Chwefror yr oedd wedi ei weld ddiwethaf cyn y digwyddiad.

Ar 5 Chwefror, dywedodd y fam-gu iddi dderbyn galwad gan ei merch am 15:30.

"Roedd yn swnio'n ofnadwy," meddai, "mor upset."

"Gofynnodd i mi a oeddwn i wedi ei weld a dywedodd fod 'rhywbeth wedi digwydd yn yr ysgol'."

Dywedodd y fam-gu fod y bachgen wedi cyrraedd ei chartref o fewn pum munud i'w merch ffonio.

"Fe gerddodd yn syth i eistedd ar y grisiau."

Dywedodd iddi ei alw i mewn i'r gegin, ond iddo barhau i eistedd ar y grisiau.

Wrth iddi fynd i siarad ag ef, dywedodd wrthi: "Fe aeth rhywbeth yn fy mhen, Mam-gu."

"Roedd yn llefain," meddai. "Roedd ei ben yn ei ddwylo.

"Ddeng munud yn ddiweddarach, daeth yr heddlu i fy nghartref a'i arestio."

Fe wnaeth Dr Rouse, patholegydd fforensig, hefyd roi tystiolaeth yn y llys ddydd Iau.

Disgrifiodd yr anafiadau i ddwylo Mrs Williams fel rhai "amddiffynnol" oedd yn "nodweddiadol" o anafiadau cyllell.

Dywedodd wrth y llys fod gan Mrs Williams glwyf wedi'i dorri'n llinol ar dop ei phen.

"A yw hynny'n golygu ei fod wedi ei achosi gyda llafn siarp?" gofynnodd bargyfreithiwr yr erlyniad, Christopher Rees KC.

"Ydy," meddai.

"Nid anaf heb fin, fel pe byddech yn cael eich taro ag ochr y ddolen?" gofynnodd.

"Na," atebodd. "Clwyf toriad yw hwn."

Disgrifiodd hefyd grafiad tua 3cm ar ran isaf chwith cefn Mrs Williams, ynghyd â marc 7cm ar ran isaf dde ei chefn, a oedd yn "dilyn un cyfeiriad".

"Marc crafu sy'n mynd ar draws mewn llinell syth ydyw," eglurodd y patholegydd. "Mae'n barhad o'r un marc."

Mae'r achos yn parhau.