Cyngor Sir Gâr yn bwrw ymlaen â chynlluniau i gau pedair ysgol gynradd

Mae gan Ysgol Pontiets 16 o ddisgyblion, er bod lle i 83 yn yr ysgol, ac mae ganddi ddiffyg ariannol o £80,469
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Gâr yn bwrw ymlaen â chynlluniau i ymgynghori ar gau pedair ysgol gynradd yn y sir.
Cytunodd Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg y cyngor i argymell symud ymlaen â'r broses ar gyfer Ysgol Blaenau, Ysgol Pontiets, Ysgol Carwe ac Ysgol Bancffosfelen.
Daw'r argymhelliad yng nghanol pryderon am niferoedd isel o ddisgyblion, diffygion ariannol a chyflwr adeiladau rhai o'r ysgolion.
Os bydd y cyngor yn penderfynu cau un neu fwy o'r ysgolion ar ôl ymgynghori, byddai'r disgyblion yn symud i ysgolion eraill erbyn Rhagfyr 2027.
Galw am oedi a 'chynllunio strategol' cyn cau ysgolion bach yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Aelodau cabinet yn cymeradwyo cau dwy ysgol yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd5 Hydref
Cyngor Sir Gâr i ystyried cynlluniau posib i gau rhagor o ysgolion
- Cyhoeddwyd9 Hydref
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies fod dyled ysgolion Sir Gâr oddeutu £9m, gyda'r rhagolygon yn awgrymu y gallai hynny gyrraedd £16m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol nesaf.
Dywedodd fod yn "rhaid sicrhau bod y ddarpariaeth addysg yn gynaliadwy yn ariannol".
Yn ôl cadeirydd y pwyllgor craffu, y Cynghorydd Peter H Griffiths, mae ysgolion y sir wedi gwario £500,000 yn fwy nag y dylen nhw.
Disgrifiodd y sefyllfa fel "problem ddifrifol", gan ychwanegu bod angen lleihau'r ddyled.

Dim ond pedwar disgybl sy'n byw yn nalgylch Ysgol Blaenau
Mae gan Ysgol Blaenau 70 o lefydd gwag, ac mae ei diffyg ariannol yn £362,566.
Dim ond pedwar disgybl sy'n byw yn nalgylch yr ysgol, tra bod 41 yn dod o ddalgylchoedd eraill.
Yn Ysgol Pontiets, mae 16 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol, sydd â chapasiti o 83, ac mae ganddi ddiffyg ariannol o £80,469.
Mae rhai rhieni eisoes wedi gwneud cais i'w plant fynd i ysgolion eraill.
Un o'r heriau sy'n wynebu'r sir yw bod ysgolion yn cael eu hariannu ar sail nifer y disgyblion, ond bod nifer y staff yn gallu aros yn uchel wrth i niferoedd y plant ostwng.
Dywedodd swyddogion fod nifer y disgyblion yn ysgolion y sir wedi gostwng ers y pandemig, gyda thua 1,500 yn llai o blant yn y system.

Mae adeilad Ysgol Carwe wedi bod ar gau ers Medi 2025
Mae 58 o blant yn mynychu Ysgol Carwe, ond nododd adroddiad y pwyllgor fod 120 o blant sy'n byw yn nalgylch yr ysgol yn mynychu ysgolion eraill.
Mae adeilad Ysgol Carwe wedi bod ar gau ers Medi 2025 oherwydd problemau iechyd a diogelwch, ac mae'r disgyblion wedi bod yn mynychu Ysgol Gwynfryn ym Mhontiets.
Cododd un cynghorydd bryderon am gyflwr adeilad Ysgol Gwynfryn, sydd yng nghategori C, sy'n golygu bod angen gwaith atgyweirio mawr yn y tymor byr i'r tymor canolig.
Dywedodd swyddogion y cyngor y byddai cost gwella adeilad Ysgol Gwynfryn yn llawer is na chost gwneud adeilad Ysgol Carwe yn ddiogel.
Mae sefyllfa debyg yn Ysgol Bancffosfelen, sydd â 48 o ddisgyblion ond capasiti ar gyfer 98 o blant.
Bu protest dros gadw'r ysgol y tu allan i'r Cyngor Sir bore dydd Mawrth, a thua 70 yn bresennol.
Yn ôl adroddiad i'r pwyllgor, mae rhai o adeiladau'r ysgol wedi'u condemnio, a gallai cost eu dymchwel gyrraedd £700,000.

Mae 48 o ddisgyblion yn Ysgol Bancffosfelen, sydd â chapasiti ar gyfer 98 o blant, ac mae pryderon am gyflwr rhai o adeiladau'r ysgol
Disgrifiodd y Cynghorydd Glynog Davies sefyllfa ariannol yr ysgol fel un "pryderus", gan ddweud mai'r disgwyl oedd y byddai'r diffyg ariannol yn codi i £107,000 eleni.
Fodd bynnag, dywedodd yr aelod lleol, y Cynghorydd Liam Bowen, ei fod yn "anghyfforddus yn derbyn papur sydd yn cynnwys camgymeriadau ffeithiol".
Dywedodd fod yr arian i ddymchwel yr adeilad peryglus eisoes wedi'i glustnodi, gan godi cwestiynau am y ffigurau ariannol a gyflwynwyd.
Ychwanegodd y byddai cyflwr adeiladau eraill yr ysgol, heb gynnwys yr adeilad sydd wedi'i gondemnio, yn perthyn i gategori B, sy'n dynodi adeiladau gweithredol a diogel gyda mân ddirywiad yn unig.
Daeth cwestiynau hefyd am gapasiti Ysgol Pontyberem i dderbyn disgyblion Bancffosfelen pe bai'r ysgol yn cau, ond cadarnhaodd y cyngor fod cynlluniau i ymestyn Ysgol Pontyberem a chreu dau ddosbarth newydd.
Argymhelliad y pwyllgor oedd i fwrw ymlaen ag ymgynghoriad ar gau Ysgol Bancffosfelen, ar yr amod bod newidiadau'n cael eu gwneud i'r adroddiad cyn iddo gael ei gyflwyno i'r cabinet.
Bydd penderfyniad ar ddyfodol y pedair ysgol yn cael ei ystyried gan gabinet y cyngor, gyda disgwyl i ymgynghoriad gael ei gynnal dros y misoedd nesaf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.