Galw am oedi a 'chynllunio strategol' cyn cau ysgolion bach yn Sir Gâr

Mae Ysgol Pontiets yn un o bedair ysgol yn Sir Gaerfyrddin sy'n wynebu ymgynghoriad posib ar eu dyfodol
- Cyhoeddwyd
Mae yna alw ar Gyngor Sir Caerfyrddin i oedi a chyflwyno moratoriwm ar gau ysgolion bach tan eu bod yn cymryd "golwg strategol" ar sefyllfa'r ysgolion a chydweithio gyda Llywodraeth Cymru.
Fe fydd pwyllgor craffu addysg y sir yn cyfarfod ddydd Mawrth i ystyried a ddylid cynnal ymgynghoriad ar ddyfodol ysgolion Carwe, Bancffosfelen, Blaenau a Phontiets.
Gallai ymgynghoriad gael ei gynnal ym mis Tachwedd a Rhagfyr os bydd aelodau'r pwyllgor yn cefnogi argymhellion swyddogion.
Yn ôl papurau'r cyfarfod, yr opsiwn sy'n cael ei ffafrio gan swyddogion yw cau'r pedair ysgol a symud y disgyblion i ysgolion eraill ar ddiwedd Rhagfyr 2027.
Mae disgwyl i'r Cyngor Sir llawn hefyd drafod y penderfyniad terfynol ar ddyfodol Ysgol Meidrim ac Ysgol y Fro, Llangyndeyrn, ddydd Mercher.
Aelodau cabinet yn cymeradwyo cau dwy ysgol yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd5 Hydref
Cyngor Sir Gâr i ystyried cynlluniau posib i gau rhagor o ysgolion
- Cyhoeddwyd9 Hydref
Gallai pedair ysgol gynradd yn Sir Gâr orfod cau yn 2026
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2025
Dywedodd Dr Huw Williams, llywodraethwr ym Mhontiets, ei fod yn teimlo bod ardal Cwm Gwendraeth yn cael ei "thargedu" gan y cyngor sir, a bod yna "gwestiynau am strategaeth y sir" a "chynaliadwyedd tymor hir ein cymunedau".
"Beth ni'n gofyn amdano yw golwg strategol ar hyn oll," meddai.
"Y ffordd mae'n teimlo ar hyn o bryd yw bod nhw'n mynd wrthi jyst yn meddwl bod eisiau cael yr ysgolion yma wedi'u cau mor fuan â phosib.
"Ble ewn ni? Wel mae honno yn darged meddal draw fan'na yng Nghwm Gwendraeth, ewn ni amdani.
"Beth ni'n ofyn yw bod y cyngor yn pwyllo, mynd ati i gynllunio'n strategol a chydweithio gyda llywodraeth ganolog."

Mae Dr Huw Williams yn galw ar yr awdurdodau i ystyried yr effaith tymor hir ar y cymunedau
Ychwanegodd Dr Williams ei bod hi'n ymddangos fel nad yw'r llywodraeth ganolog a'r llywodraeth leol yn cyd-weithio ar y mater.
"Mae'r llywodraeth wedi ymrwymo mewn egwyddor i egwyddorion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Wel, beth sy'n digwydd yn y cyd-destun yna?
"...Baswn i'n hoffi galw am foratoriwm ar gau ysgolion bach a gwledig tra bod y llywodraeth ganolog yn mynd i wireddu'r egwyddorion sydd ynghlwm â'r Comisiwn.
"Mae angen edrych ar y tymor hir a beth sy'n mynd i gynnal cymunedau fel y rhai hynny."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac i gefnogi'r Gymraeg fel iaith gymunedol sy'n ffynnu.
"Mater i awdurdodau lleol yw cynllunio lleoedd mewn ysgolion. Rhaid ystyried yn ofalus unrhyw gynigion sy'n effeithio ar ysgolion gwledig, gan roi sylw llawn i'w heffaith addysgol, ieithyddol a chymunedol," meddai llefarydd.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael cais am ymateb i'r feirniadaeth.

Mae Julian Jones yn rhybuddio yn erbyn "rhuthro" i gau ysgolion
Mae'r alwad am oedi wedi'i chefnogi gan y cyn-bennaeth, Julian Jones sydd bellach yn llywodraethwr ym Mancffosfelen.
"Ni'n rhuthro mewn i hyn oherwydd ffigyrau. Ac mae mwy i addysg na ffigyrau.
"Ymateb y' ni. 'Dan ni ddim yn gweithio gyda neb i gael ffordd ymlaen. Dyna i gyd mae llywodraethwyr yn medru gwneud yw ymateb i'r hyn sy'n dod o'r cabinet a'r cyrff addysg yn y sir.
"Mae amddiffyn beth sydd gyda ni yn hollbwysig.
"Os nad ydym ni'n pwyllo, yna mae'r canlyniad yn mynd i fod yn echrydus o ran cymunedau Cymru."
Mae 3,500 o lefydd gwag yn ysgolion Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd, ac mae'n bosib y bydd diffyg ariannol ysgolion y sir yn cyrraedd £16.4m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Mae hefyd tua 1,000 yn llai o ddisgyblion cynradd yn y sir yn 2026 nag oedd yn 2021.

Dywedodd Gareth Beer fod ysgolion gwledig yn "ganolfannau i'r cymunedau" ac nid yn ysgolion yn unig
Un arall sy'n feirniadol o'r argymhellion posib yw Gareth Beer, aelod Reform dros etholaeth Caerfyrddin, sydd wedi cwestiynu blaenoriaethau'r cyngor.
"Mae'n ofnadwy i'r cymunedau lleol. Mae'r rhain yn ganolfannau i'r cymunedau, nid ysgolion yn unig.
"Ni'n darganfod arian ar gyfer pethau fel Pentre Awel ac adnewyddu Debenhams. Mae angen darganfod arian i gadw'r llefydd yma ar agor."
Pan gafodd ei herio ynghylch y gostyngiad yn nifer y disgyblion, dywedodd Mr Beer y gallai'r sefyllfa newid yn y dyfodol.
"Mae ystadau tai yn cael eu codi mewn cymunedau lleol. Mae ysgol Mynyddygarreg yn llawn. Dyna allai fod y dyfodol i'r ysgolion hyn ac fe fyddwn ni'n crafu ein pennau yn gofyn beth ni'n mynd i'w wneud."
Mae aelodau Senedd Plaid Cymru dros Gaerfyrddin, Nerys Evans, Cefin Campbell ac Adam Price, hefyd wedi cael cais i ymateb drwy'r blaid.
Plaid Cymru a'r grŵp annibynnol sy'n arwain Cyngor Sir Caerfyrddin ar hyn o bryd. Mae gan Blaid Cymru 38 o'r 74 sedd ar y cyngor.
'Chwarae efo tân'
Gydag etholiadau lleol i ddod ym mis Mai, dywedodd Dr Huw Williams na fyddai'n synnu pe bai Plaid Cymru yn colli cefnogaeth yn lleol oherwydd y bygythiad posib i ysgolion lleol.
"Mae yna gwestiwn fan hyn ynglŷn â ble maen nhw'n meddwl mae'r targedau meddal.
"Lle falle mae'r lleiaf o wrthwynebiad i Blaid Cymru ac efallai bod nhw'n meddwl fod Cwm Gwendraeth yn gadarnle i'r blaid, gallwn ni wneud beth ni moyn i'r cymunedau 'na achos gewn ni ddim gwrthwynebiad. Wel chwarae efo tân maen nhw'n gwneud.
"Bydd cymunedau eraill yn gweld beth sy'n digwydd ac yn gofyn y cwestiwn 'ni wedi pleidleisio Plaid dros ein cymunedau a dros ein hiaith a dyma maen nhw'n gwneud pan maen nhw mewn grym, nid dim ond yn y cyngor sir ond mewn grym lawr ym Mae Caerdydd?'
"Mae'n naturiol bod pobl yn gofyn cwestiynau."
Mae Newyddion S4C wedi gwneud sawl cais am gyfweliad gydag arweinydd y cyngor, Linda Evans, neu ddeilydd portffolio addysg y cyngor, Glynog Davies, drwy swyddfa wasg y cyngor.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.