Arwyddion Cymraeg wedi'u gosod mewn Lidl yn Nottingham

Arwydd Lidl
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r arwyddion dwyieithog bellach wedi'u newid

GanHarri Evans
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae'r cwmni Lidl wedi newid arwyddion maes parcio eu harchfarchnad yn Nottingham ar ôl gosod rhai Cymraeg mewn camgymeriad.

Cafodd yr arwyddion, a oedd yn cynnwys testun yn y Gymraeg yn ogystal â Saesneg, eu gosod ym maes parcio'r archfarchnad ar Carlton Road wedi gwaith cynnal a chadw diweddar.

Maen nhw bellach wedi cael eu newid am rhai Saesneg yn unig.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni Almaeneg eu bod yn "ymfalchïo yn ein cefnogaeth o'r iaith Gymraeg... ond mae'n ymddangos bod ein brwdfrydedd dros yr iaith wedi croesi'r ffin am gyfnod byr, wrth i arwyddion Cymraeg gael eu gosod ar gam yn ein siop ar Carlton Road yn ystod gwaith cynnal a chadw".

Yng Nghymru, mae gofyniad cyfreithiol ar fusnesau a sefydliadau yn y sector cyhoeddus i gael arwyddion dwyieithog yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae busnesau preifat yn cael eu hannog i wneud yr un peth.

Daeth Lidl yn archfarchnad fawr gyntaf i ennill gwobr 'Cynnig Cymraeg' yn 2023, sef cydnabyddiaeth o ymdrechion cwmni i roi blaenoriaeth i'r iaith Gymraeg yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, does dim data swyddogol ar niferoedd siaradwyr Cymraeg y tu allan i Gymru, ond mae Nottingham yn gartref i'r gymdeithas Gymraeg hynaf sy'n weithredol yn nwyrain canolbarth Lloegr.

Yn ôl eu gwefan, mae Cymdeithas Cymry Nottingham wedi bod yn weithgar yn y ddinas ers 1904.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig