Comisiynydd y Gymraeg yn 'bryderus' am doriadau BBC Cymru

Arwydd BBC Cymru ar dalcen pencadlys y gorfforaeth yng nghanol CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n ofynnol i BBC Cymru geisio arbed rhyw £9m sy'n golygu cael gwared ar 50 o swyddi

  • Cyhoeddwyd

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi codi pryderon am effeithiau toriadau'r BBC ar wasanaethau ieithoedd lleiafrifol.

Dywed Efa Gruffudd Jones bod angen "peidio seilio penderfyniadau ar werth am arian yn unig", er "yn derbyn yn llwyr fod yna heriau sylweddol yn wynebu'r BBC".

Fe wnaeth ei sylwadau mewn datganiad ar y cyd â Chomisiynydd yr Wyddeleg Gogledd Iwerddon, Pól Deeds.

Mae'r ddau'n pwysleisio "fod darlledu yn chwarae rhan hollbwysig wrth hyrwyddo ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol ar draws y byd ac mae hynny dan fygythiad yn sgil cyhoeddiadau diweddar y BBC".

Dywedodd BBC Cymru eu bod yn parhau "i sicrhau bod ein cynulleidfaoedd ieithyddol yn derbyn darpariaeth o ansawdd uchel" a'u "bod yn uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol gyda'r cyllid sydd ar gael".

"Mae darlledu Cymraeg yn eithriadol o bwysig o safbwynt y Gymraeg a'r cyfleoedd i bobl glywed a defnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd," dywedodd Efa Gruffudd Jones.

"Mae gwaith ymchwil a gyhoeddwyd gennym y llynedd yn dangos pwysigrwydd darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg o safbwynt amlygrwydd y Gymraeg a chyfleoedd i bobl glywed a defnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau beunyddiol.

"Mae'n rhoi llwyfan i ddiwylliant, chwaraeon, adloniant a newyddion sy'n adlewyrchu bywyd yn Nghymru, yn ogystal â denu siaradwyr newydd."

Efa Gruffudd JonesFfynhonnell y llun, Swyddfa Comisiynydd Y Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

Mae wnelo darlledu mewn iaith leiafrifol fwy "na darparu adloniant neu greu elw", medd Efa Gruffudd Jones

Ychwanegodd: "Mae darlledu Cymraeg ei iaith yn llwyr ddibynnol ar wasanaethau darlledu a ariennir gan y pwrs cyhoeddus.

"O dynnu'r ddarpariaeth hon, fydd yna ddim darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Nid yw'r un peth yn wir am yr iaith Saesneg. O ganlyniad i hyn mae'n hanfodol peidio ystyried gwerth darlledu cyfrwng Cymraeg ar sail 'gwerth am arian' yn unig.

"Mae darlledu mewn ieithoedd lleiafrifol yn ymwneud â llawer mwy na darparu adloniant neu greu elw, mae'n elfen gwbl greiddiol o'r ymdrechion i hyrwyddo a gwarchod iaith, diwylliant a hunaniaeth.

"Rwy'n derbyn yn llwyr fod yna heriau sylweddol yn wynebu'r BBC ac yn sylweddoli fod penderfyniadau anodd i'w gwneud, ond mae angen ystyried yr effaith hirdymor ar ddiwylliant a chost hynny i genedlaethau'r dyfodol."

'Ddim yr un fath â thorri rhaglen Saesneg'

Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn, dywedodd Efa Gruffudd Jones fod gwahaniaeth rhwng toriadau i wasanaethau Cymraeg a gwasanaethau Saesneg.

"Dyw e ddim yr un fath â thorri un rhaglen trwy gyfrwng y Saesneg," meddai.

"Mae 'na niferoedd o sianeli posib a gorsafoedd radio posib i chi ddewis ohonyn nhw a lliaws o raglenni gwleidyddol i chi eu dilyn, ond dyw hynny ddim yn wir yn Gymraeg oherwydd ein bod ni'n iaith sydd â nifer fechan o siaradwyr o gymharu â Saesneg yn y Deyrnas Unedig."

Dywedodd y byddai'n hoffi cael sicrwydd gan y BBC na fydd rhagor o doriadau i wasanaethau Cymraeg a bod gwasanaethau digidol, gan gynnwys Cymru Fyw, yn parhau i gael eu hariannu.

"Fy marn bendant i yw y dylai'r BBC flaenoriaethu gwarchod gwasanaethau mewn unrhyw iaith leiafrifol, ond yn arbennig o'n safbwynt i, trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Fe wnaethon ni gynnal gwaith ymchwil y llynedd oedd yn dangos fod pobl ifanc yn enwedig yn deisyfu mwy o wasanaethau digidol trwy gyfrwng y Gymraeg, felly mae angen sicrhau bod yr ariannu cywir ar gyfer Cymru Fyw ac apiau cyffelyb yn sicr yn parhau i'r dyfodol."

Pól Deeds ac Efa Gruffudd JonesFfynhonnell y llun, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

Pól Deeds ac Efa Gruffudd Jones mewn cynhadledd ddiweddar yng Nghaerdydd - dywed Comisiynydd y Wyddeleg yng Ngogledd Iwerddon bod yr Wyddeleg "eisoes yn wannach na ieithoedd brodorol eraill yn y DU o ran darpariaeth y BBC"

Tebyg yw'r pryderon yng Ngogledd Iwerddon, yn ôl Comisiynydd yr Wyddeleg yno, Pól Deeds.

"I iaith leiafrifol, mae cyfleoedd i glywed yr iaith drwy newyddion, materion cyfoes, chwaraeon ac adloniant yn arbennig o werthfawr," meddai.

"Maent yn helpu i greu gofod lle gall siaradwyr ymgysylltu â bywyd cyhoeddus drwy'r Wyddeleg, tra hefyd yn cyflwyno'r iaith, gan roi hyder i'r rhai sy'n ei defnyddio, a sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud wrth gefnogi Gwyddeleg fel iaith fyw."

Ychwanegodd bod "angen ystyried yn llawn anghenion penodol cynulleidfaoedd lleiafrifol, a'r canlyniadau hirdymor posibl i'r Wyddeleg, pan fydd penderfyniadau am wasanaethau yn cael eu gwneud".

'Cwbl ymrwymedig i gefnogi ieithoedd lleiafrifol'

Mewn ymateb i ddatganiad y Comisiynwyr Iaith dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru:

"Mae'r BBC yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gefnogi ieithoedd lleiafrifol y DU – sef y Gymraeg, Gaeleg yr Alban, Gwyddeleg, Albaneg-Ulster, Cernyweg a Manaweg – fel sydd i'w gweld yn ein darpariaeth a'n gwasanaethau.

"Rydym yn gwneud hyn yng nghyd-destun heriau a phwysau ariannol sylweddol - mae'r BBC wedi profi gostyngiad o oddeutu 30% mewn cyllid (mewn termau real) ers 2010.

"Rydym yn ymroddedig i sicrhau bod ein cynulleidfaoedd ieithyddol yn derbyn darpariaeth o ansawdd uchel, ac rydym yn parhau i fod yn uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol gyda'r cyllid sydd ar gael.

"Mae cwestiynau ynghylch cyllido yn y dyfodol a darparu'r gwasanaethau hyn yn ganolog i'r ddadl ar gyfer Siarter nesaf y BBC a sut y dylid ariannu'r Gorfforaeth yn y blynyddoedd sydd i ddod."

Radio Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl cyflwynydd, yn cynnwys John Hardy, Derek Brockway a Roy Noble, wedi datgan y mis hwn eu bod yn gadael y gorfforaeth

Y Comisiynwyr Iaith yw'r diweddaraf i ychwanegu eu lleisiau at bryderon o sawl cyfeiriad wedi i BBC Cymru gadarnhau manylion "pecyn o arbedion" fel rhan o'u cynlluniau i fynd i'r afael â phwysau ariannol.

Mae'r camau arbed arian yn cynnwys dod â'r rhaglenni Radio Cymru Dros Ginio ac Ar y Marc i ben.

Wrth gadarnhau'r toriadau yr wythnos diweddaf fe ddywedodd BBC Cymru eu bod "wedi ceisio lleihau'r effaith ar gynulleidfaoedd a chanolbwyntio'r buddsoddiad ar feysydd sy'n cynnig y gwerth a'r twf mwyaf i gynulleidfaoedd".

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod colli rhaglenni sy'n trin a thrafod materion cyfoes yn "ergyd drom" i'r Gymraeg.

Mae mudiad Dyfodol i'r Iaith yn galw am gael "cyfundrefn newydd i reoli a chyllido'r cyfryngau yng Nghymru", gan gyhuddo penaethiaid y BBC yng Nghymru "o anwybyddu anghenion cynulleidfa draddodiadol Radio Cymru".

"Pam mai'r rhaglenni sy'n trafod newyddion a chwaraeon y dydd sy'n diflannu?" gofynnodd Eifion Lloyd Jones ar ran y mudiad.

"Dyma graidd y gwasanaeth sy'n rhoi cyfle i'r gynulleidfa Gymraeg geisio deall beth sy'n digwydd ym mhob agwedd o fywyd Cymru a thu hwnt.

"Dyma hefyd sail gwasanaeth darlledu cyhoeddus a grëwyd gyda' r bwriad o hysbysu, addysgu a difyrru'r gynulleidfa.

"Mae dibrisio'r hysbysu ac addysgu wrth ddileu rhaglenni trafod newyddion a chwaraeon y dydd yn tanseilio holl fodolaeth y gorfforaeth a'r cyfiawnhad dros godi trwydded i gyflwyno gwasanaeth o'r fath.

"Gyda chyfran cynyddol uwch o'r oriau darlledu Cymraeg yn cael eu neilltuo i ddifyrru yn unig, mae'n anodd cyfiawnhau honiad y BBC o fod yn wasanaeth cenedlaethol llawn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.