Gweinidog yn bwriadu siarad Cymraeg yn unig yng nghyfarfod y cabinet

CabinetFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfarfod cyntaf y cabinet newydd yn cael ei gynnal ddydd Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae un o weinidogion newydd Llywodraeth Cymru'n gobeithio siarad Cymraeg yng nghyfarfodydd y cabinet gan annog eraill i roi cynnig arni.

Daw'r sylwadau gan y Gweinidog dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad, Dafydd Trystan Davies cyn i gyfarfod cyntaf y cabinet newydd gael ei gynnal brynhawn Llun.

Chadarnhaodd e ddim a fyddai'r cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn Gymraeg ond gyda phob aelod o'r cabinet yn siaradwyr Cymraeg "does gen i ddim bwriad cadarn i gyfrannu i'r cabinet mewn unrhyw iaith ac eithrio'r Gymraeg," meddai.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth cyn y cyfarfod fod y llywodraeth "weithredol, yn llywodraeth i bawb ac yn llywodraeth sy'n dod â syniadau newydd".

"Mae'r gwaith caled bellach wedi dechrau.

"Ein pwyslais yw ar y materion sydd bwysicaf i bobl ym mhob rhan o Gymru - torri rhestrau aros, cefnogi teuluoedd gyda chostau byw, creu swyddi da, codi safonau mewn addysg a mynd i'r afael â thlodi plant."

Dafydd Trystan DaviesFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Trystan Davies ydy'r gweinidog cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad

Wrth i Dafydd Trystan Davies gael ei holi ar raglen Dros Frecwast dywedodd "nad oes trafodaeth benodol wedi bod" ynghylch cynnal cyfarfodydd y cabinet yn Gymraeg.

Ond dywedodd "fel yr ydych chi'n gwybod yn iawn Kate - Cymraeg yw'n iaith gynta' i, does gen i ddim bwriad cadarn i gyfrannu i'r cabinet mewn unrhyw iaith ac eithrio'r Gymraeg.

"Dwi hefyd yn edrych ymlaen - mae yna rywbeth hyfryd eisoes o gael sgyrsiau gyda phobl sy'n siaradwyr newydd ac yn ddysgwyr yn y llywodraeth sy'n dymuno ymarfer.

"Fy neges iddyn nhw yw trio fe mas wrth ymarfer ac os ydw i'n gallu eu cefnogi nhw i ymarfer ar eu taith nhw i ddod yn fwy rhugl - yna da hynny ynde."

Dywedodd hefyd fod y llywodraeth yn gobeithio "cynyddu'r pwerau sydd gyda ni yng Nghymru i wella bywydau pobl".

"Fe fydd yna ganolbwyntio ar hynny a cheisio cydweithio gyda Llywodraeth Prydain i weld be allen ni 'neud i ddatganoli mwy o rymoedd, ond hefyd i adeiladu bywydau gwell i bobl yng Nghymru."

Wrth gael ei holi sut a fyddai'r llywodraeth yma'n cael ei ddal i gyfrif, dywedodd Mr Davies y byddai etholwyr yn eu beirniadu'n hallt os nad ydyn nhw'n llwyddo i gyflwyno'r polisi gofal plant o fewn pedair blynedd.

"Mae bod yn lywodraeth agored, gonest, cydweithredol, diwyd ac effeithiol gobeithio, yn mynd i symud ni yn ein blaenau."

'Un tîm'

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth cyn y cyfarfod ei fod "yn benderfynol o roi diwedd ar weithio ar wahân a dileu dyblygu diangen ar draws y llywodraeth".

"Bydd y cabinet hwn yn gweithio fel un tîm, gyda gweinidogion yn gweithio gyda'i gilydd er budd pobl Cymru.

"Byddwn yn arwain gyda didwylledd a phwrpas, gan feithrin ymddiriedaeth drwy gamau ymarferol a chanlyniadau gweladwy.

"Mae pobl Cymru yn disgwyl llywodraeth sy'n gwrando, sy'n sefyll dros Gymru ac sy'n gweithio gyda'i gilydd i sicrhau canlyniadau.

"Dyna'n union y mae'r Cabinet hwn yn benderfynol o'i wneud," meddai'r prif weinidog.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.