Plaid Cymru a Llafur yn dod i gytundeb ar gyllideb atodol

plantFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd buddsoddiad ychwanegol o £60m ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol y flwyddyn ariannol hon

GanAlun Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Plaid Cymru a Llafur wedi dod i gytundeb ynghylch cyllideb atodol ar gyfer 2026-27.

Ym mis Gorffennaf, collodd llywodraeth Plaid Cymru bleidlais yn y Senedd ar eu cynlluniau gwariant ar ôl methu â dod i gytundeb â Llafur.

Dywedodd gweinidogion fod Llywodraeth Cymru wedi dod i gytundeb gyda'r wrthblaid ar fuddsoddiad ychwanegol o £60m ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol.

Roedd arweinydd Llafur Cymru, Ken Skates, wedi galw am £100m eleni pan drafodwyd y gyllideb atodol ddiwethaf.

Dywedodd y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth: "Mae'r cytundeb hwn yn dangos yr hyn sy'n bosibl ei gyflawni pan fydd pleidiau ar draws y Senedd yn gweithio gyda'i gilydd."

Dywedodd Ken Skates: "Mae hwn yn gam cyntaf i'w groesawu tuag at gyllido ysgolion yn well a sicrhau'r fargen orau bosibl i blant a phobl ifanc ledled Cymru."

Bydd dadl yn cael ei chynnal ar y gyllideb atodol yn y Senedd ar 3 Tachwedd.

Mae Plaid Cymru yn rhedeg Llywodraeth Cymru heb fwyafrif o seddi yn y Senedd, sy'n golygu bod yn rhaid gwneud cytundebau â phleidiau gwleidyddol eraill er mwyn pasio cyllidebau neu ddeddfau newydd.

Dywedodd Helen Jenner, arweinydd Reform yng Nghymru, y "gallai'r cytundeb hwn fod yn dda i sefydliad aflwyddiannus Plaid a Llafur, ond nid yw'n cyflawni ar gyfer Cymru".

Ymatebodd Darren Millar, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, i'r cytundeb: "Er ein bod yn croesawu unrhyw gyllid ychwanegol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, nid yw'r cytundeb hwn ond yn parhau â'r un dull cyllidebol aflwyddiannus gan ddeuopoli Llafur a Phlaid Cymru – dull sydd wedi siomi pobl Cymru ers degawdau".

Esboniodd Anna Brychan, y gweinidog cabinet dros addysg a'r Gymraeg yn llywodraeth Plaid Cymru, y bydd y £60m ychwanegol yn cael ei rannu yn y ffyrdd canlynol:

  • £56m i'r Diwygio Addysg (grant addysg awdurdodau lleol) i'w rannu 80/20 (£44.8m/11.2m) yn uniongyrchol i ysgolion/awdurdodau lleol;

  • £1.5m i gefnogi'r gwaith o ddatblygu cynllun cynaliadwyedd hirdymor; a

  • £2.5m i Medr ar gyfer y sector Addysg Bellach.

Ychwanegodd Anna Brychan y bydd dyraniadau cyllid ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol ar gyfer "blynyddoedd i ddod yn cael eu hystyried fel rhan o'n paratoadau ar gyfer y gyllideb ddrafft ar gyfer 2027-28, yng nghyd-destun yr angen i gyrraedd cefnogaeth drawsbleidiol".

Mae'r gyllideb atodol yn nodi rhagor o fanylion ynghylch y pecyn o fuddsoddiad a gyhoeddwyd ym mis Mehefin, gyda'r £60 miliwn ychwanegol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon.

Roedd y gweinidog cyllid Elin Jones wedi cyhoeddi £294m mewn gwariant newydd yn ei chyllideb atodol ym mis Mehefin, gyda £40m i fynd ar atgyweirio ysgolion, £55m ar ofal plant, a £100m ar gyfer lleihau amseroedd aros yn y gwasanaeth iechyd.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ddydd Mawrth bod y cytundeb "yn parhau â'n buddsoddiad yn y gwasanaeth iechyd, ac mewn gofal plant a phrydau ysgol am ddim."

Dywedodd Ken Skates AS: "Rydym yn falch o fod wedi sicrhau £60 miliwn ychwanegol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol eleni.

"Bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ysgolion a cholegau ledled Cymru, ac mae'n bwysig ei fod nawr yn cyflawni rhywbeth dros y plant a'r bobl ifanc sydd wirioneddol ei angen."

Ym mis Gorffennaf, fe feirniadodd Skates gynnig y llywodraeth o £80m dros ddwy flynedd ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, gan ddweud mai isafswm o £100m oedd y "fargen deg" yr oedd Llafur yn ei mynnu.

Mae trafodaethau ynghylch cytundeb i basio cyllideb flynyddol y flwyddyn nesaf yn parhau, gyda'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn cymryd rhan yn y trafodaethau hynny.

Elin Jones a Huw Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, Elin Jones AS a Huw Thomas AS Llafur

Mae'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid, Elin Jones, yn dweud y bydd "hi'n mater o drafod parhaus, a dyna beth yw'r realiti y Senedd yma".

"O ran deddfwriaeth, o ran cyllidebau, o ran penderfyniadau, fe fydd yn rhaid creu consensws er mwyn cyrraedd y mwyafrif hynny."

Wrth siarad ar raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru fe ddywedodd mai "para i drafod yw'r wers bwysicaf yn hyn - peidio â jest gadael i ddigwyddiad ag un bleidlais i osgoi cyrraedd consensws yn y tymor hirach".

Dywedodd bod y trafodaethau wedi parhau "gyda phartneriaid mewn undebau ac ysgolion yn ogystal â gyda grŵp Llafur".

"Mae arithmetig y Senedd yn golygu bod angen i fwy nag un blaid i fod yn cytuno â'r ffordd o greu cyllideb, neu bydd arian ddim yn cyrraedd ein hysgolion na'n hysbytai ni ac felly mae cyfrifoldeb arno ni fel llywodraeth i hyrwyddo hynny ond mae cyfrifoldeb yn gorwedd ar bob un o'r pleidiau eraill sydd wedi'u hethol i'r Senedd yma i gynnal y trafodaethau hynny."

Ond mae aelod Llafur Cymru dros Gaerdydd Penarth, Huw Thomas yn dweud y byddai'n "parhau i ddadlau bod £100m llawer agosach i'r ffigwr sy'n angenrheidiol i gael mewn i ysgolion".

"Ond ry'n ni'n blaid gyfrifol sydd ishe cael arian i lifo yn syth ac yn gyflym i fewn i'n hysgolion ni. Pan ddechreuodd y broses yma doedd dim ceiniog ar y bwrdd i ysgolion a cholegau ar gyfer addysg ychwanegol.

"Ry'n ni wedi sicrhau £60m, sydd 50% yn fwy na beth oedd Rhun ap Iorwerth yn cynnig bythefnos yn ôl," meddai.

Pan ofynnwyd iddo a fyddai'r grŵp Llafur yn pleidleisio o blaid y gyllideb fe ddywedodd Mr Thomas bod hynny'n "rhywbeth byddwn ni'n dal i drafod yn fewnol, ond yn sicr y byddwn ni'n galluogi i'r gyllideb yma i basio".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.