Plaid Cymru wedi 'dysgu gwersi' ar ôl methu â phasio cyllideb atodol

Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd uchelgais Plaid Cymru "yn cael ei bylu gan heriau ariannol," meddai Rhun ap Iorwerth

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi "dysgu gwersi" ar ôl methu â phasio eu cyllideb atodol yn yr haf, yn ôl y prif weinidog.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod trafodaethau ar waith i geisio osgoi sefyllfa debyg pan fydd y gyllideb nesaf yn cael ei thrafod y flwyddyn nesaf.

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi addo "gwella'r ffordd 'da ni'n cydweithio ag eraill" ar ôl i Lafur wrthod cefnogi'r cynllun gwariant yn dilyn anghydfod am wario mwy ar addysg i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

Dywedodd ffynhonnell o fewn Llywodraeth Cymru fod trafodaethau "unai yn digwydd, neu'n mynd i ddigwydd" gyda phob un o'r gwrthbleidiau.

Am nad oes gan Blaid Cymru fwyafrif yn y Senedd, roedd yn rhaid iddyn nhw gael cefnogaeth plaid arall er mwyn gallu pasio'r cynllun gwariant gwerth £300m.

Ond colli'r bleidlais ar 14 Gorffennaf wnaeth y llywodraeth, gyda'r un blaid arall yn ochri gyda'r cynlluniau.

Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mercher fe rybuddiodd Mr ap Iorwerth fod sefyllfa ariannol heriol ar y gorwel a bod ei lywodraeth yn delio gyda "phwysau cyllidol sylweddol eleni, yn enwedig o fewn y gwasanaeth iechyd".

"Fe fyddai hi'n anghyfrifol i beidio â chydnabod y diffyg hyblygrwydd o fewn y gyllideb ar hyn o bryd, a'r sefyllfa heriol sy'n ein hwynebu wrth symud i'r flwyddyn nesaf," meddai.

Dywedodd na fyddai uchelgais ei lywodraeth "yn cael ei bylu gan heriau ariannol".

Fe fydd y gyllideb, meddai, yn "sicrhau bod adnoddau yn cael eu rhoi i'r meysydd ble fydd y gwahaniaeth mwyaf yn cael ei wneud i fywydau pobl".

Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhun ap Iorwerth yn dweud nad yw'n difaru cynnal y bleidlais ym mis Gorffennaf

Yn ôl y prif weinidog, mae'r broses o gynnal trafodaethau gyda'r gwrthbleidiau "i geisio dod o hyd i dir cyffredin ble mae modd i ni gydweithio" wedi dechrau dros yr haf.

Ar ôl cael ei holi a oedd wedi dysgu gwersi wedi'r bleidlais ar y gyllideb atodol, dywedodd: "Ydyn ni wedi dysgu gwersi? Yn bendant.

"Bydden ni wedi gallu peidio cynnal y bleidlais, ond dwi'n meddwl ei bod hi'n fwy defnyddiol, o ran y darlun mawr, i fod yn agored.

"Mae pawb yn gwybod bod rhaid i ni ddod â hynny'n ôl.

"Mae'n rhaid i fi weithio'n galetach, a dangos drwy brosesau sy'n cael eu tynhau ar hyn o bryd, i wella'r ffordd rydyn ni'n cydweithio ag eraill.

"Dwi'n ymwybodol iawn nad ydy dweud ein bod ni am gydweithio yn ddigon, ac mai dangos hynny sy'n cyfri'."

Ychwanegodd fod y broses wedi bod yn gyfle i'r gwrthbleidiau ddysgu gwersi hefyd.

"Dwi'n gwybod ein bod ni wedi rhoi cynnig da gerbron Llafur yn yr achos yna, ac er bod ganddyn nhw bob hawl i'w wrthod, maen nhw hefyd wedi gorfod ystyried sut mae hynny'n adlewyrchu arnyn nhw."

'Wedi gwneud llanast'

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar ei fod yn "falch o weld y math yma o ostyngeiddrwydd" gan Rhun ap Iorwerth.

"Mae'n gwbl glir eu bod nhw wedi gwneud llanast o'r bleidlais ar y gyllideb atodol cyn toriad yr haf," meddai.

"Ry'n ni am weld toriadau treth, cefnogaeth ar gyfer busnesau a ffermwyr ac ry'n ni eisiau gweld buddsoddiad mewn pethau diangen fel swyddfeydd dramor a chynlluniau plannu coed yn Uganda yn dod i ben.

"Os ydyn ni am weld cynnydd ar faterion fel hyn, yna fyddwn ni'n barod i gynnal trafodaethau ystyrlon gyda Llywodraeth Cymru."

Ychwanegodd nad oedd unrhyw drafodaethau ffurfiol wedi digwydd hyd yn hyn, a bod "dim byd yn y dyddiadur".

Dywedodd arweinydd Reform yn y Senedd, Dan Thomas bod "ymddygiad Plaid ynghylch y gyllideb atodol yn enghraifft wych o sut i beidio negodi mewn gwleidyddiaeth".

"Rydyn ni wastad yn barod i gael trafodaethau ac adeiladu consensws, ond byddwn ni wastad yn rhoi llais y cymunedau sy'n cael eu methu yng Nghymru yn unrhyw drafodaethau."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.