'Daeth â hi nôl yn fyw': Portreadau o'r plant ddaeth â chymorth i deuluoedd Aberfan

Jeanette Keane a'i llun o'i chwaer Edwina, un o nifer o bortreadau o'r plant fu farw yn Aberfan
Disgrifiad o’r llun,

Jeanette Keane a'i llun o'i chwaer Edwina, un o nifer o bortreadau o'r plant fu farw yn Aberfan

GanHuw Thomas
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Ers 60 mlynedd bron mae nifer o'r plant a fu farw yn Aberfan wedi aros yn rhan o'r aelwyd mewn portreadau olew.

Roedd rhai o'r paentiadau yn seiliedig ar hen ffotograffau ysgol, ac eraill wedi'u llunio wrth glywed atgofion rhieni oedd yn galaru. Bu rhai yn anfon llythyrau yn disgrifio'u plant – lliw eu llygaid, eu hoff ddillad, ac agweddau unigryw o'u personoliaeth.

Cyrhaeddodd y portreadau yn ystod y blynyddoedd wedi'r trychineb gan artist o Landudno. Roedd dinistr Aberfan wedi'i gyffwrdd.

Mewn rhaglen ddogfen arbennig BBC Cymru, Unseen: The Aberfan Portraits, mae rhai teuluoedd wedi dewis sôn am y portreadau.

portreadFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Denise Morgan a'i chwaer fach Annette (a fu farw yn nhrychineb Aberfan) yn blant

Denise Morgan a portread o'i chwaer fach, Annette
Disgrifiad o’r llun,

Denise Morgan a phortread o'i chwaer fach, Annette

"Daeth â hi nôl yn fyw," meddai Denise Morgan am y portread o'i chwaer ieuengaf, Annette. Roedd hi ymhlith y rhai a fu farw yn nhrychineb Aberfan.

Ar 21 Hydref 1966 llithrodd tomen o wastraff glo uwchben y pentref.

Aeth y llif o fwd a rwbel drwy furiau Ysgol Gynradd Pantglas a'r cartrefi cyfagos gan ladd 144 o bobl. Yn eu plith roedd 116 o blant.

Bron i 60 mlynedd yn ddiweddarach mae'r trychineb yn parhau i fod yn rhan annatod o fywyd bob dydd yn Aberfan. Mae'n amlwg iawn yn yr ardd goffa, ac yn y fynwent.

Mae'r portreadau olew yn cynrychioli'r rhai a gollodd y cyfle i dyfu i fyny.

portread
Disgrifiad o’r llun,

Roedd chwaer Jeanette Keane, Edwina, yn un o'r pedwar o blant o'r stryd a fu farw

Jeannette ac EdwinaFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Jeanette Keane a'i chwaer fach, Edwina. Fel nifer o'r paentiadau, roedd portread Edwina yn seiliedig ar lun gan y teulu

Mae gan Jeanette Keane atgofion annwyl o'i chwaer, Edwina.

"Roedd ein plentyndod mor ddelfrydol, mewn gwirionedd," meddai. "Roedd Edwina yn dawel iawn ac yn dyner. Ond roedd ganddi ochr ddireidus hefyd."

Mae'r bore pan ddigwyddodd y trychineb yn parhau i fod yn fyw yn y cof, ac yn achosi poen mawr. Mae Jeanette yn cofio sut y dychwelodd Edwina adref yn frysiog cyn i'r diwrnod ysgol ddechrau.

"Rhedodd yn ôl a dywedodd: "Mam, anghofiais roi cusan i ti'," meddai Jeanette. "Felly rhoddodd fy mam gusan iddi.

"Dywedodd Mam ei bod wedi meddwl ei chadw hi gartref ar y pryd.

"A bu Mam yn difaru'r diwrnod hwnnw am weddill ei hoes.

"Roedd hi'n difaru peidio gwrando ar y teimlad greddfol oedd ganddi."

Cafodd tua 100 o bortreadau eu creu gan artist o Landudno, William Richardson
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd tua 100 o bortreadau eu creu gan artist o Landudno, William Richardson

Roedd Denise Morgan yn mynychu ysgol wahanol pan ddechreuodd y newyddion ledaenu bod rhywbeth ofnadwy wedi digwydd yn Aberfan - yno roedd ei chwaer fach, Annette.

"Wnaethon nhw ddim rhoi llawer o fanylion i ni," meddai.

"Wrth ruthro oddi ar y trên, roedd y dinistr yn amlwg. Pan edrychon ni tuag at Aberfan, y cyfan welon ni oedd y domen ddu honno."

Wrth i'r ymdrechion ddechrau i geisio achub pobl, roedd teuluoedd ledled y pentref yn aros am newyddion. Mae rhai o'r atgofion yn parhau i fod yn rhy boenus i feddwl amdanynt.

Daeth tad Jeanette o hyd i Edwina, oedd yn wyth oed, wedi'i dal o dan y rwbel.

"Roedd hi'n fyw," meddai Jeanette, ond roedd y sefyllfa'n dorcalonnus.

"Doedd e ddim yn gallu ei chael hi allan, oherwydd byddai'r to wedi cwympo i mewn."

Roedd Edwina wedi'i dal yn sownd, heb unrhyw ffordd o'i hachub.

"Dywedodd y dynion i gyd, 'Teddy, allwch chi ddim,' a gorweddodd fy nhad wrth ei hochr, daliodd ei llaw, a bu farw hi o ddiffyg anadl."

Parhaodd y trawma am flynyddoedd yn dilyn y trychineb.

Bu farw 144 o bobl, gan gynnwys 116 o blant, yn Aberfan ar 21 Hydref 1966Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw 144 o bobl, gan gynnwys 116 o blant, yn Aberfan ar 21 Hydref 1966

"Mae'r hyn ddigwyddodd yn egluro pam bo ni'n ei glywed [ei thad] yn cerdded yn ôl ac ymlaen yn y coridor gyda'r nos, gan daro ei ben yn erbyn y wal," meddai Jeanette.

"Doedd bywyd ddim yn hapus iawn ar ôl hynny. Newidiodd popeth."

I'r brodyr a'r chwiorydd a oroesodd, roedd y teimlad o golled yn aml yn dod i'r amlwg yn ystod eiliadau cwbl gyffredin.

"Roedden ni wastad yn cysgu gyda'n gilydd," meddai Jeanette. "Ac yn sydyn, roeddwn i ar fy mhen fy hun."

Mae Denise yn cofio'r yr un teimlad o absenoldeb.

"Roedden ni'n rhannu gwely... ac yna roedd hi wedi mynd."

Roedd maint y galar yn rhywbeth nad oedd modd dianc rhagddo.

"Yn ein stryd ni, collwyd pump o blant o blith 25 o dai," meddai Denise.

"Bu pedwar plentyn farw yn fy stryd i," meddai Jeanette.

Mewn cyfnod pan nad oedd pobl yn aml yn siarad yn agored am alar, roedd y rhai a oroesodd yn gorfod ymdopi â'r drasiedi ar eu pennau eu hunain.

William RichardsonFfynhonnell y llun, Mirrorpix
Disgrifiad o’r llun,

Ar y pier yn Llandudno roedd yr artist William Richardson yn ennill bywoliaeth cyn trychineb Aberfan

Ddegau o filltiroedd i ffwrdd yn Llandudno, roedd un dyn yn dilyn y digwyddiadau yn Aberfan ar y teledu ac yn y papurau newydd.

Doedd gan yr artist William Richardson ddim cysylltiad ag Aberfan. Byddai fel arfer yn gweithio ar y pier yn darlunio cartwnau o ymwelwyr a phobl enwog oedd yn perfformio yn y dref.

Cafodd ei effeithio'n ddwfn gan yr hyn a welodd yn Aberfan.

Yn ôl ei blant, Jean a Ken, teimlai fod yn rhaid iddo wneud rhywbeth dros y teuluoedd a oedd wedi colli eu meibion a'u merched.

"Gwelodd y digwyddiad ar y newyddion a chafodd ei gyffwrdd gymaint nes iddo benderfynu eu paentio," meddai Jean.

"Roedd e ond eisiau rhoi rhywbeth yn ôl, i ddangos ei fod yn teimlo drostynt," ychwanegodd Ken.

Plant William Richardson, Ken a Jean, sy'n cofio ymdrech eu tad i gwblhau'r paentiadau
Disgrifiad o’r llun,

Plant William Richardson, Ken a Jean, sy'n cofio ymdrech eu tad i gwblhau'r paentiadau

Ni cheisiodd Richardson erioed gael tâl na chydnabyddiaeth am ei waith.

Dechreuodd greu portreadau o'r plant a fu farw yn Aberfan drwy weithio o ffotograffau ysgol a disgrifiadau manwl ddaeth gan y rhieni.

"Byddai'r rhieni'n ysgrifennu ato ac yn dweud wrtho am y plant gan nodi lliw eu llygaid, eu gwallt, a beth roedden nhw'n gwisgo," meddai Jean.

"Roedden nhw hyd yn oed yn anfon darnau o ddillad er mwyn iddo allu cael y manylion yn gywir," ychwanegodd Ken.

Dywedodd Jean fod ei thad eisiau adlewyrchu mwy na'u hwynebau.

"Byddai'n gofyn am eu personoliaethau, er mwyn iddo allu ymgorffori hynny yn y paentiad."

Dros y blynyddoedd, y gred yw bod Richardson wedi creu oddeutu cant o bortreadau.

Wrth i'r casgliad dyfu, felly hefyd y tyfodd ei gysylltiad â theuluoedd yn Aberfan.

I'w blant, roedd y portreadau'n bresenoldeb cyson.

"Roedden ni wedi'n hamgylchynu ganddyn nhw am flynyddoedd," meddai Jean. "Yr holl wynebau yma."

"Mae fel edrych yn ôl ar hen ffrindiau nawr."

Fe gafodd Richardson wahoddiad i Swyddfa Cymru i rannu rhai o'i ddarluniau cyntaf o blant AberfanFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Richardson wahoddiad i Swyddfa Cymru i rannu rhai o'i ddarluniau cyntaf o blant Aberfan

Wynebau rhai o'r plant sydd dal ar waliau teuluoedd yn Aberfan a thu hwnt
Disgrifiad o’r llun,

Wynebau rhai o'r plant sydd dal ar waliau teuluoedd yn Aberfan a thu hwnt

I'r teuluoedd a dderbyniodd y paentiadau, roedd yr effaith yn ddofn.

"Allen ni ddim credu'r tebygrwydd," meddai Denise. "Hi oedd yn y llun.

"Daeth â hi yn ôl i fywyd."

Roedd Jeanette yn cofio'r effaith ar ei rhieni pan gyrhaeddodd y portread o Edwina.

"Rwy'n cofio fy nhad yn crio pan ddaeth y llun," meddai.

Yn fuan, daeth y portreadau'n rhan o fywyd bob dydd mewn cartrefi ledled y pentref.

"Roedd hi yno adeg y Nadolig, mewn partïon, bob amser yn yr ystafell," meddai Denise am y paentiad o Annette.

"Yn ein stryd ni, roedd gan bob tŷ un."

I oroeswyr fel Gaynor Madgwick, wnaeth ddianc o Ysgol Gynradd Pantglas, roedd y delweddau'n cynnig pwrpas arall.

"Maen nhw'n sbarduno sgyrsiau," meddai. "Mae pobl yn dechrau siarad am eu plant eto."

I deuluoedd a oedd wedi cael trafferth dod o hyd i eiriau, roedd y portreadau'n cynnig ffordd o gadw atgofion yn fyw.

"Roeddech chi'n cerdded i mewn ac roedd eu presenoldeb yno," meddai Gaynor.

Mae Jeanette yn cytuno.

"Roedd yn bwysig iawn, iawn i ni. Roedd yn teimlo fel pe bai hi gyda ni drwy'r amser tra oedd y portread yno."

Portread o Marylyn Minett a llun du a gwyn ohoni yn gwisgo dillad tebyg
Disgrifiad o’r llun,

Portread o Marylyn Minett a llun du a gwyn ohoni yn gwisgo dillad tebyg

Penderfynodd teulu Marylyn a Carl gladdu'r portreadau gyda'u mam
Disgrifiad o’r llun,

Penderfynodd teulu Marylyn a Carl gladdu'r portreadau gyda'u mam

Heddiw, wrth i'r genhedlaeth a gafodd eu heffeithio'n uniongyrchol gan Aberfan heneiddio mae rhai yn gofyn beth ddylai ddigwydd i'r portreadau.

Mae llawer yn parhau i fod yn eiddo annwyl i'r teulu. Mae eraill eisoes wedi mynd i ofal cenedlaethau iau, tra bod rhai wedi'u rhoi i amgueddfa leol.

Mae teuluoedd eraill wedi gwneud dewisiadau gwahanol.

Disgrifiodd Gaynor y penderfyniad torcalonnus yr oedd ei theulu'n ei wynebu ar ôl i'w mam farw.

"Wrth eu tynnu i lawr, nid paentiad rydych chi'n ei dynnu, chi'n eu tynnu'r [plant] i lawr," meddai.

Cafodd y portreadau eu claddu gyda'u mam.

"Fe wnaethon ni eu claddu gyda Mam mewn blwch gwyn, fel arch fach.

"Fe wnaethon ni eu gosod yn wynebu ei gilydd... Roedd yn teimlo fel ein bod yn eu claddu nhw eto."

I Jeanette, mae dyfodol portread Edwina yn achos pryder.

"Rwy'n poeni am yr hyn a fydd yn digwydd i'r paentiad," meddai. "Rwyf am i bobl ei gweld."

Mae Denise yn teimlo'r un tensiwn rhwng cadwraeth a pherchnogaeth.

"Mae'n drysor," meddai. "Ni allwn fyth cael ein gwahanu oddi wrthi."

Bron i chwe degawd ar ôl y trychineb, mae'r paentiadau'n parhau i fod yn wrthrychau rhyfeddol.

Fe gafon nhw eu creu gan ddyn nad oedd erioed wedi cyfarfod â'r plant, ond trwy ei garedigrwydd mae'r lluniau wedi'u trysori gan y teuluoedd.

Drwy ail-greu wynebau'r plant a gollwyd gyda gofal a manylrwydd mawr, rhoddodd William Richardson rywbeth gwerthfawr yn ôl i'r gymuned.

I lawer o deuluoedd, roedd y portreadau'n gwneud mwy na dal atgofion. Fe ddaethon nhw â'r plant adref.

Mae Unseen: The Aberfan Portraits ar gael ar BBC iPlayer ac ar BBC One Wales am 22:40 ddydd Llun, 19 Hydref

Os ydy cynnwys yr erthygl wedi cael effaith arnoch chi, mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.

Pynciau cysylltiedig