Google Translate yn cyfieithu triliwn o eiriau y mis - rhaid i gyfieithwyr 'addasu'

Mae yna le i ddeallusrwydd artiffisial, medd Prif Swyddog Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Teleri Haf - ond mae angen i bobl profiadol wirio testun sydd wedi cael ei gyfieithu i'r Gymraeg trwy wasanaethau ar-lein
- Cyhoeddwyd
Mae'r defnydd ehangach o Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) yn "bryder ofnadwy" i nifer o fewn y diwydiant cyfieithu, yn ôl prif swyddog unig gymdeithas broffesiynol y sector yng Nghymru.
Dywed Teleri Haf bod Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru'n paratoi i ryddhau canllawiau ar ddefnyddio peiriannau cyfieithu a deallusrwydd artiffisial yn benodol ar gyfer aelodau a chleientiaid.
Mae hi'n rhybuddio pobl am yr angen i wirio testun gyda rhywun profiadol, ond yn cydnabod bod rhai cyfieithwyr yn "symud ymlaen efo'r oes" ac yn defnyddio technoleg er mwyn helpu "efo terfynau amser" ac i "sicrhau cysondeb".
Daw ei sylwadau ychydig fisoedd ar ôl i'r cwmni technoleg Google ddatgan bod dros driliwn o eiriau'n cael eu cyfieithu bob mis erbyn hyn trwy wasanaeth Google Translate.
Dyw hynny ddim yn cymryd i ystyriaeth y cyfieithu sy'n digwydd trwy wasanaethau eraill fel DeepL, Microsoft, Claude, ChatCGT a Gemini.
Cymru 'wastad gam yn ôl' gyda'r defnydd o dechnoleg i hybu'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd11 Medi
Technoleg a'r Gymraeg: Angen 'lleisiau o wahanol ardaloedd a chefndiroedd'
- Cyhoeddwyd12 Medi 2025
Cyfieithu AI yn peryglu 'rhan o gyfoeth ein hiaith'
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2025
Mewn sgwrs ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Teleri Haf bod y dechnoleg AI yn "bodoli ers llawer o flynyddoedd" o fewn y sector cyfeithu ac yn "gwella".
"Mae'n gallu cyfieithu'n eitha' taclus ar adegau, ond mae'r safon wrth gwrs yn anghyson," meddai.
"Mae o'n bwysig, bwysig, bwysig pan mae pobl yn defnyddio teclyn fel hyn bod yna rywun cymwys, profiadol yn bwrw golwg dros y gwaith er mwyn sicrhau ansawdd."
'Dod i arfer ag ymadroddion annaturiol'
Dywed Teleri ei bod yn dod ar draws cyfieithu gwallus oherwydd teclynnau fel Google Translate yn aml.
Megis un enghraifft yw arwydd a welodd yn ddiweddar yng Nghaernarfon yn nodi bod lifft mewn adeilad "allan o drefn yn lle out of order".
"Mae o bach yn frawychus weithia' achos mae pobol yn dod i arfer efo'r ymadroddion annaturiol 'ma, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cadw safonau," meddai.
Mae yna bryder hefyd, meddai, ynghylch effaith defnyddio gwasanaethau cyfieithu ar-lein ar sgiliau Cymraeg disgyblion ysgol.
"Mae 'na waith ymchwil yn dangos bod lefelau iaith plant Cymru'n is na gwledydd eraill," meddai. "Mae hynny'n rhywbeth mae'n rhaid edrych i mewn iddo."

Mae dros driliwn o eiriau'n cael eu cyfieithu bob mis erbyn hyn trwy wasanaeth Google Translate
Mae'n rhaid i aelodau sefyll arholiad sylfaenol heb ddefnyddio'r we er mwyn ymaelodi â Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Ond mae 'na arholiad cyflawn erbyn hyn ble mae modd i ymgeiswyr ddefnyddio'r we.
Mae hwnnw'n cynnwys darn prawfddarllen wedi ei gyfieithu'n barod trwy AI, sy'n adlewyrchu'r ffaith bod angen "sgil hollol wahanol" ar gyfieithwyr erbyn hyn, sef golygu testun sydd wedi ei gyfieithu'n wallus.
Mae hyn, medd Teleri Haf, yn rhan o ymateb y Gymdeithas i'r sefyllfa sydd ohoni.
"Mae ein cyfieithwyr ni yn cael mwy a mwy o waith golygu a phrawfddarllen, felly mae'n bwysig ein bod ni'n darparu nhw efo'r sgiliau i wneud hynny.
"A 'dan ni ar fin cyhoeddi canllawiau i gyfieithwyr ac i gleientiaid ar ddefnyddio peiriannau cyfieithu a deallusrwydd artifisial yn benodol."
'Methu rhoi'r pen yn y tywod'
Er yn credu bod 'na le i AI yn y byd cyfieithu, mae hi'n rhybuddio rhag dibynnu arno'n llwyr.
"Mae'n bwysig, bwysig bwysig pan mae rhywun yn defnyddio teclyn fel hyn, bod 'na rhywun cymwys, profiadol yn bwrw golwg dros y gwaith i sicrhau ansawdd.
"Dydy deallusrwydd artiffisial ddim yn mynd i ddiflannu. 'Dan ni'm yn gallu rhoi'n pen yn y tywod am hyn...
"Mae'n rhaid i ni wynebu fo ac addasu... er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn ei siwt ora' ar y we a bod yr ansawdd yn uchel."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref

- Cyhoeddwyd23 Medi
