Cyn-chwaraewr rygbi Cymru'n dal ei galon yn ei ddwylo ar ôl trawsblaniad

Fe ddeffrodd Rhys Thomas o'i drawsblaniad calon i weld ei blant wrth ochr ei wely yn Ne Affrica
- Cyhoeddwyd
Mae'r erthygl hon yn cynnwys llun y gall peri gofid i rai
Mae cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, Rhys Thomas, wedi disgrifio'r foment "arbennig iawn" pan ddaliodd ei galon ei hun yn ei ddwylo ar ôl cael trawsblaniad a achubodd ei fywyd yn Ne Affrica.
Bu'r cyn-brop 43 oed yn byw gyda phroblemau ar ei galon ers dioddef trawiad bach ar ôl chwarae i glwb rygbi'r Dreigiau yn 2006.
Arweiniodd ail ymosodiad, mwy difrifol yn 2012, ato'n cael dyfais gynorthwyo sy'n cael ei bweru gan fatri (LVAD).
Ar ôl bron i ddegawd ar restr trawsblaniadau'r DU, symudodd yn ôl i'w dref enedigol, Cape Town, yn 2024 wrth i'w iechyd waethygu.
Ym mis Ebrill eleni cafodd galon newydd, gyda meddygon yn dweud wrtho wedyn y gallai fod ond wedi cael pythefnos i fyw heb y llawdriniaeth.

Daeth gyrfa rygbi Rhys Thomas i ben ar ôl iddo ddioddef trawiad difrifol ar y galon yn 2012
Dywedodd Rhys Thomas ei fod wedi "gwneud heddwch gyda marwolaeth" yn ystod y misoedd cyn y llawdriniaeth wrth iddo aros am alwad "nad oedd yn dod".
"Roeddwn i'n llawn ofn, ar adegau - ofn marw, yr hyn roeddwn i'n mynd i'w adael ar ôl, fy mhlant, fy mhartner, fy ffrindiau a fy nheulu.
"Felly mae'n fendith llwyr, a dweud y gwir, fy mod i dal yma - rwy'n teimlo'n ffodus iawn, iawn.
"Alla i ddim esbonio sut beth yw cael trawsblaniad, i fod yn cerdded o gwmpas heb fy mheiriant ac i fod yn fyw... mae'n arbennig iawn."
Dywedodd Rhys Thomas fod y trawiad ar y galon difrifol a gafodd wrth chwarae i'r Scarlets yn 2012 wedi "newid popeth", gan ddod â'i yrfa rygbi i ben.
Wedi hynny cafodd lawdriniaeth ddargyfeiriol pedwarplyg (quadruple bypass surgery), a dywedodd ei fod yn "lwcus iawn i oroesi".
"Roedd fy iechyd yn wael iawn.
"Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gallu cerdded 40 metr heb stopio bedair neu bum gwaith, felly roedd yn llawer i'w gymryd."
'Roedd yn heriol iawn'
Erbyn 2014, roedd wedi cael LVAD, dyfais fecanyddol sy'n pwmpio gwaed o amgylch y corff pan fydd y galon yn rhy wan i wneud hynny ei hun.
Mae'r system yn cynnwys cebl yn dod allan drwy'r abdomen ac sy'n cysylltu pwmp mewnol â rheolydd allanol a batris, y mae'n rhaid eu gwisgo y tu allan i'r corff, gyda'r safle'n cael ei gadw'n lân ac yn sych er mwyn lleihau'r risg o haint.
"Yn yr amser hwnnw, trwy'r 12 mlynedd, es i drwy broses enfawr o drawsnewid, trwy lawer iawn o ddioddefaint, yn feddyliol, yn emosiynol, yn gorfforol," meddai.
"Roedd yn heriol iawn. Roeddwn i hefyd yn ceisio dygymod â'r newid o chwarae rygbi, felly roedd gen i lawer o gwestiynau ynghylch fy hunaniaeth, fy mhwrpas, ac roeddwn i'n ei chael hi'n anodd."

Bu Rhys Thomas yn byw am flynyddoedd gyda dyfais fecanyddol oedd yn helpu ei galon i bwmpio gwaed o amgylch ei gorff
Ym mis Tachwedd 2024 symudodd Rhys Thomas i Cape Town ar ôl cael gwybod nad oedd yn cael ei ystyried yn "ddigon sâl" i gael trawsblaniad calon yn y DU oni bai bod ei gyflwr yn gwaethygu'n sylweddol - penderfyniad nad oedd yn cytuno ag ef.
Yn ôl adran Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG, mae calonnau gan roddwyr yn y DU yn cael eu dyrannu'n seiliedig ar a yw'n fater o frys, math y gwaed, pa mor gydnaws ydy'r rhoddwr a'r derbynnydd, daearyddiaeth ac amser aros.
Mae cleifion yn cael eu rhoi mewn system tair lefel - mater brys iawn, brys neu arferol - ac roedd Rhys Thomas yn y categori arferol.
Dywedodd hefyd fod ei ddyfais gymorth yn nesáu at 11 mlynedd o ddefnydd, ac mai ef oedd wedi byw hiraf gydag un o'r modelau hynny, gan godi ofnau y gallai ei iechyd ddirywio'n sydyn pebai'r peiriant yn methu.
"Roedd yn symudiad mawr, yn benderfyniad mawr, dewr [i adael y DU]," meddai. "Ond dyna oedd yr hyn roeddwn i'n credu oedd yn iawn i mi."

Dywedodd Rhys Thomas ei fod yn edrych ymlaen at ddod yn dad am y pumed tro gyda'i bartner Kez
Symudodd Rhys Thomas gyda'i bartner, gan adael ei bedwar o blant sy'n oedolion yng Nghymru.
Ar ôl ymuno â'r rhestr drawsblaniadau yn Cape Town, dirywiodd ei iechyd yn gyflym.
Yna, wrth eistedd mewn traffig, fe gafodd alwad i ddweud bod tair calon addas wedi dod ar gael ar yr un diwrnod.
"Roedd e'n wallgof," meddai.
Galwodd Thomas ei deulu ar unwaith, a hedfanodd ei blant allan i Dde Affrica cyn y llawdriniaeth.
"Roeddwn i wedi dod i ddygymod â'r ddwy ffordd, boed i mi farw neu oroesi. Ond pe bawn i'n goroesi, roeddwn wir am weld fy mhlant ar ôl deffro."
Dywedodd ei fod yn "barod" erbyn cyrraedd yr ysbyty ac wedi treulio amser yn gweddïo a myfyrio gyda'i bartner ar y traeth.

Hedfanodd plant Rhys Thomas o Gasnewydd allan i Dde Affrica cyn ei drawsblaniad
Yn ôl Rhys Thomas, roedd llawfeddygon yn ei chael hi'n anodd yn ystod y driniaeth chwe awr wrth orfod gweithio drwy feinwe craith o'i lawdriniaethau blaenorol.
Ond dywedodd fod ei galon newydd wedi dechrau curo yn syth wedi iddi gael ei mewnblannu.
Ar ôl dau ddiwrnod o fod yn anymwybodol, fe ddeffrodd yn yr ysbyty i weld ei blant wrth ochr ei wely.
Dywedodd meddygon wrtho wedyn fod ei galon wedi bod ymhlith y gwaethaf yr oedden nhw wedi'i weld mewn claf oedd yn dal yn fyw, a heb y llawdriniaeth, efallai mai dim ond pythefnos fyddai fod wedi bod ganddo ar ôl.

Disgrifiodd Rhys Thomas y foment y daliodd ei hen galon yn ei ddwylo fel un "arbennig iawn"
Yn ystod ei gyfnod yn yr ysbyty, cafodd gyfle i ddal ei hen galon yn ei ddwylo.
"Roedd hi'n foment arbennig iawn," meddai.
"Fe wnaeth hi fy nghario drwy fy mywyd am 43 mlynedd."
Dywedodd ei bod hi'n "wallgof" ei gweld mewn cyflwr mor wael, gyda'r pwmp a'r pwythau yn dal ynghlwm.
Y diwrnod canlynol, dywedodd na allai stopio crio.
"Doedd e ddim yn alar, diolchgarwch oedd e," meddai.
Mae Rhys Thomas bellach wedi dychwelyd adref ac yn canolbwyntio ar wella wedi'r llawdriniaeth, ac ymhen amser, mae'n gobeithio ysgrifennu at deulu ei roddwr i ddiolch iddyn nhw.
Dywedodd hefyd ei fod yn edrych ymlaen at ddod yn dad am y pumed tro, gyda'i bartner Kez yn disgwyl babi ym mis Awst.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth

- Cyhoeddwyd15 Mai

- Cyhoeddwyd24 Awst 2025
