'Rhoi grym yn nwylo'r bobl yw cam nesaf datganoli' - Ken Skates

Ken Skates yn annerch cynhadledd Llafur yn Lerpwl brynhawn Sul - o'i flaen ar y darllenfwrdd mae'r slogan 'Hope Again'Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ken Skates yn traddodi ei araith gyntaf fel arweinydd Llafur Cymru yng nghynhadledd y blaid yn Lerpwl brynhawn Sul

GanCemlyn Davies
Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Os oedd wnelo cymal cyntaf datganoli â throsglwyddo grym i Gymru, yna mae wnelo'r cymal nesaf â rhoi'r grym hwnnw i'r bobl - dyna neges arweinydd newydd Llafur yng Nghymru i gynhadledd y blaid yn Lerpwl.

Dyna fydd "dadl fawr nesaf gwleidyddiaeth Cymru", yn ôl Ken Skates, a olynodd Eluned Morgan wedi i Lafur ond sicrhau naw sedd yn Senedd Cymru wrth ddod yn drydedd yn etholiad mis Mai.

Ar drothwy ei araith gyntaf fel arweinydd i gynhadledd y Blaid Brydeinig, dywedodd fod rhesymau i fod yn "optimistaidd" wrth edrych ymlaen at etholiadau lleol y flwyddyn nesaf.

Ond fe rybuddiodd hefyd y bydd y dasg o ailadeiladu Llafur Cymru ar ôl siom mis Mai yn "farathon nid yn ras wib",

Mae rhai o fewn y blaid yn cydnabod yn breifat y gallai gymryd "blynyddoedd" i adennill y gefnogaeth a gollodd y blaid yn etholiad Senedd Cymru.

Llafur CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond naw Aelod o'r Senedd sydd gan Lafur Cymru bellach (nid yw Sarah Murphy yn y llun)

Gan ddadlau dros ddatganoli grymoedd yng Nghymru yn ei araith, dywedodd Skates bod hynny'n golygu "ymddiried yn ein cynghorau, cyrff rhanbarthol a chymunedau lleol gyda gwir gyfrifoldeb.

"Wnaethon ni ddim creu datganoli er mwyn ailgreu San Steffan Gymreig.

"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn ddigon cryf i arwain ac ailddosbarthu.

"Mae'r egwyddor yn syml: pŵer o San Steffan i Gymru, pŵer o Gaerdydd i'n cymunedau, pŵer i mewn i ddwylo pobl eu hunain."

Mewn ymateb i'w sylwadau, dywedodd yr AS Plaid Cymru Liz Saville Roberts "bod hawl gan bobl ofyn pam arhosodd Llafur tan colli grym cyn darganfod rhinweddau datganoli".

"Gall Llafur barhau i feirniadu dewisiadau etholwyr ym mis Mai, ond ni fydd hynny'n adfer ffydd," ychwanegodd.

"Yr her i Lafur yw deall pam roedd gymaint o bobl angen newid. Yr her i Blaid Cymru yw sicrhau newid, a dyna yn union rydym yn canolbwyntio arno."

Ken SkatesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ken Skates ei ethol yn arweinydd Llafur Cymru ym mis Gorffennaf

Ers dros ganrif roedd Llafur wedi dod i'r brig yng Nghymru ym mhob etholiad i San Steffan neu i Fae Caerdydd.

Ond llithrodd y blaid y tu ôl i Blaid Cymru a Reform ym mis Mai, gan ennill dim ond naw o'r 96 sedd yn y Senedd.

Yn sgil y canlyniadau, fe ymddiswyddodd Eluned Morgan fel arweinydd y blaid ar ôl iddi hithau golli ei sedd ei hun.

Ar ôl cael ei benodi'n arweinydd dros dro yn dilyn yr etholiad, cafodd Skates ei gadarnhau fel arweinydd parhaol Llafur Cymru ym mis Gorffennaf.

Mewn cyfweliad â rhaglen Politics Wales cyn cynhadledd Llafur yn Lerpwl, dywedodd Skates y byddai ailadeiladu'r blaid "yn farathon, nid yn ras wib".

"Dwi'n rhedwr fy hun ac yn caru marathonau, felly dwi'n barod ar ei gyfer ac yn awyddus i fwrw 'mlaen gyda'r gwaith o adeiladu'r blaid ar gyfer y dyfodol."

Ond gydag etholiadau i bob un o gynghorau Cymru y flwyddyn nesaf, mae amser yn brin.

Cafodd Llafur ganlyniadau da yn yr etholiadau lleol diwethaf yn 2022, gan ennill 43% o'r holl seddi ar draws Cymru.

Pan ofynnwyd iddo a oedd hi'n anochel y byddai ei blaid yn mynd am yn ôl y flwyddyn nesaf, dywedodd Skates: "Na, dwi ddim yn derbyn hynny."

"Rydyn ni'n canolbwyntio ar ddal ein gafael ar gymaint o gynghorau a chynghorwyr â phosibl ac adeiladu ar lwyddiant yr etholiadau lleol diwethaf."

"Ond fe wnaethon nhw ddigwydd ar adeg ffafriol ac efallai na fydd hynny'n wir y tro hwn," ychwanegodd.

'Gallai gymryd blynyddoedd'

Yn breifat, mae rhai ffigyrau amlwg o fewn y blaid yn cydnabod bod gan Lafur Cymru her fawr o'i blaen.

Dywedodd un bod angen ailadeiladu'r blaid "o'r llwch" ac y gallai "gymryd blynyddoedd" i'r blaid adennill y gefnogaeth a gollodd ym mis Mai.

Ond mae gobaith hefyd yn dilyn penodiad Andy Burnham yn brif weinidog y DU.

Dywedodd un ffynhonnell nad oedd unrhyw frwdfrydedd ar gyfer curo ar ddrysau ym mis Mai, ond bod hynny wedi newid.

Dywedodd hefyd nad oedd Skates "wedi gwneud unrhyw gamgymeriadau hyd yn hyn", ac felly, er y bydd mis Mai nesaf yn anodd, "mae llwybr i gael fyddai'n golygu nad yw'r canlyniadau'n drychinebus i Lafur Cymru".

Bydd Politics Wales ar BBC One Cymru am 10:00 ddydd Sul 27 Medi ac ar iPlayer.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.