Cynghrair y Cenhedloedd: Denmarc 2-0 Cymru

Craig Bellamy a chwaraewyr Cymru'n cymeradwyo cefnogwyr Cymru wedi'r golled yn erbyn Denmarc
- Cyhoeddwyd
Colli oedd hanes Cymru yn erbyn Denmarc nos Sul yn eu hail gêm Cynghrair y Cenhedloedd.
2-0 oedd y sgôr terfynol, oddi cartref yn Stadiwm Parken, Copenhagen.
Roedd y ddwy gôl yn ganlyniad chwarae gosod o fwy neu lai yr un rhan o'r cae, ac roedd y cyntaf yn gôl anffodus i'w rwyd ei hun gan y capten Ben Davies.
Golyga'r canlyniad bod Cymru yn ar waelod eu tabl yn haen uchaf y gynghrair cyn i'r ddau dîm arall yng Ngrŵp 4, Portiwgal a Norwy, wynebu eu gilydd yng ngêm hwyr nos Sul.
Cynghrair y Cenhedloedd: Portiwgal 1-0 Cymru
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Cymru heb Wilson, Broadhead a Darlow ar gyfer Cynghrair y Cenhedloedd
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Roedd y ddau dîm yn anelu at sicrhau eu pwyntiau cyntaf yn yr ymgyrch - Cymru ar ôl colli o gôl i ddim yn erbyn Portiwgal, a Denmarc ar ôl cael eu trechu 3-2 gan Norwy.
Roedd yna chwe newid i'r 11 a ddechreuodd yn erbyn Portiwgal, gan gynnwys Chris Mepham yn lle Ben Cabango yn yr amddiffyn, Charlie Savage yn lle Jordan James yng nghanol y cae a Sorba Thomas, Dan James a Kieffer Moore yn lle David Brooks, Lewis Koumas a Josh Sheehan.
Dychwelodd Connor Roberts i ochr dde'r amddiffyn a symudodd Neco Williams i'r ochr chwith gan ddisodli Jay Dasilva.

Ben Davies yn ceisio atal Rasmus Hojlund yn yr hanner cyntaf - aeth Hojlund ymlaen i sgorio dros ei wlad
Y tîm cartref gafodd y gorau o'r meddiant a'r cyfleoedd i sgorio yn y cyfnod cychwynnol, gyda'r ymdrech mwyaf addawol gan Gustav Isaksen.
Bu'n rhaid i Chris Mepham ymateb yn gyflym i atal ergyd gan Mikkel Damsgaard ac roedd yna amddiffyn dan gan Ben Davies hefyd i amharu ar ymosodiad gan Rasmus Hojlund.
Ond doedd dim modd atal Isaksen rhag sgorio gôl gampus, wedi 23 munud o chwarae, a hynny yn dilyn symudiad a ddechreuodd wedi i Gymru ildio'r bêl yn eu hanner eu hunain.
Yn ffodus i dîm Craig Bellamy, fe gadarnhaodd wiriad VAR bod yna gamsefyll, a doedd y gôl ddim yn cyfri.
Tarodd Mikkel Damsgaard y postyn o bell yn fuan wedi hynny. Ben arall y cae, daeth cyfle da cyntaf Cymru o'r gêm - cic arbennig o dda gan Sorba Thomas o gyrion y cwrt chwech a grymanodd ychydig heibio gôl Denmarc.
Ildiodd y tîm cartref gic rydd o safle addawol ger gornel y cwrt chwech wedi trosedd yn erbyn Dan James, ond fe fethodd Brennan Johnson â gwneud y gorau o'r cyfle.
Cyfartal ddi-sgôr oedd y gêm ar yr egwyl, er hanner cyntaf ddigon bywiog.

Sorba Thomas oedd yn gyfrifol am un o gyfleoedd gorau Cymru yn yr hanner cyntaf
Cafodd Cymru ddechrau digon sionc i'r ail hanner hefyd, gan gynnwys ergyd gan Neco Williams y bu'n rhaid i'r golwr Filip Jorgensen ei dargyfeirio.
Fe wnaethon nhw lwyddo i ddal fwy o afael ar y bêl, a mentro ymhellach i'r cae.
Roedd hynny cyn i Ddenmarc sicrhau cic rydd o safle beryglus wedi i Williams wthio Isaksen yn ei gefn.
Fe groesodd Mikkel Damsgaard y bêl yn gelfydd o ochr dde'r cae gan wibio heibio mur amddiffynnol Cymru i gyfeiriad Hojlund ac i gefn y rhwyd.
Er dathliad Hojlund, roedd lluniau'n dangos mai Ben Davies gafodd y cyffyrddiad olaf.
Gyda 52 munud ar y cloc, roedd Denmarc ar y blaen ond daeth Cymru'n agos at ddod yn gyfartal ryw bum munud yn ddiweddarach.
Fe groesodd Sorba Thomas gan anelu at ben Kieffer Moore - aeth y bêl fymryn dros ben yr ymosodwr a bu ond y dim iddo fynd i'r gôl, ond yn anffodus i Gymru aeth heibio ochr anghywir y postyn.
Daeth hanner cyfle wedi hynny i Brennan Johnson ac roedd yna ddihangfa i Gymru pan wnaeth Isaksen smonach o ymgais ben arall y maes.
Ond doedd dim smonach pan ddaeth ail gôl Denmarc - dan amgylchiadau tebyg iawn i'r un cyntaf.
Ildiodd Williams gic rydd ddi-angen unwaith yn rhagor ym mron yr un safle, ac er i Moore benio'r bêl o'r lein aeth ond cyn belled ag Isaksen.
Fe darodd ei gic y trawst cyn gwyro i'r rhwyd ac roedd Denmarc ddwy gôl ar y blaen wedi 66 o funudau.

Roedd Gustav Isaksen yn ddraenen yn ystlys Cymru gydol y gêm cyn sgorio ail gôl Denmarc
Fe lwyddodd Cymru i atal y gic rydd nesaf, ac roedd yna ymdrechion i sgorio, gan gynnwys peniad gan Williams a darodd y trawst.
Ond roedd Denmarc yn fwy a mwy cyfforddus ar y bêl.
Fe rwyddodd Hojlund am yr eildro wedi 87 o funudau, ond roedd ymateb y dorf - ac, yn wir, y chwaraewr ei hun - yn amlygu'r ffaith fod yna gamsefyll amlwg.
Fe rwydodd Williams hefyd gyda pheniad wedi 89 o funudau ond doedd y gôl ddim yn cyfri.
Y dyfarniad oedd bod Ethan Ampadu wedi gwneud cysylltiad ag un o chwaraewyr Denmarc wrth benio'r bêl ymlaen.
Wrth i'r gêm dynnu i'w therfyn fe ganodd gefnogwyr Cymru Hen Wlad Fy Nhadau ond doedd dim amheuaeth gan unrhyw un yn y stadiwm fod Denmarc yn enillwyr haeddiannol.
Fe fydd Cymru'n chwarae gartref am y tro cyntaf yn yr ymgyrch yn eu gêm nesaf, yn erbyn Norwy yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau 1 Hydref.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.