'Dwi erioed wedi arolygu tŷ newydd a chanfod dim byd o'i le'

John Cooper
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd John Cooper ei fod wedi cael digon ar weld gwaith adeiladu sâl yn mynd heb ei herio

  • Cyhoeddwyd

Mae perchennog cwmni sy'n arolygu tai newydd er mwyn asesu problemau gyda gwaith adeiladu gwael yn dweud ei fod "erioed wedi arolygu tŷ a chanfod dim byd o'i le".

Roedd John Cooper o Abertawe yn arfer gweithio fel adeiladwr, ond dywedodd ei fod wedi cael digon ar weld gwaith adeiladu sâl ar stadau tai newydd.

Penderfynodd sefydlu cwmni New Home Quality Control er mwyn ceisio helpu prynwyr i asesu beth sydd o'i le ar y cartref maen nhw wedi'i brynu, tra'u bod nhw'n dal mewn safle ble mai'r datblygwr sy'n gyfrifol am unrhyw waith atgyweirio.

Mae'r math yma o fusnes yn cael ei alw'n gwmni 'snagio' - gyda'r nod o amlygu gwaith adeiladu gwael ac atal prynwyr rhag byw mewn tai anniogel neu orfod talu costau atgyweirio drud.

Cartref Charles a GeorginaFfynhonnell y llun, Georgina Barnes
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tŷ newydd Charles a Georgina yn edrych yn iawn ar yr olwg gyntaf, ond fe wnaeth asesiad ganfod 150 o broblemau

Roedd Georgina a Charles Barnes wedi bod yn arbed arian am flynyddoedd cyn iddyn nhw lwyddo i brynu tŷ oedd newydd gael ei adeiladu.

A hwythau wedi gwario £300,000 ar eu cartref newydd, fe benderfynon nhw gael cwmni John Cooper i asesu'r adeilad, i weld a oedd rhywbeth o'i le.

Fe wnaeth yr arolwg ganfod 150 o bethau oedd o'i le, gan gynnwys arwyddion bod dŵr wedi bod yn gollwng i mewn i'r adeilad, a safon gwaith "eithriadol o wael".

Roedd problemau gyda'r to, pwysedd dŵr gwael, a mesurau diogelwch tân oedd wedi'u gosod yn anghywir.

"Fydden ni byth wedi gwybod," meddai Georgina.

Am fod ganddyn nhw warant, cafodd yr holl faterion eu cywiro gan ddatblygwyr y safle yn Sir Gaerlŷr.

"I unrhyw un sy'n prynu tŷ sydd newydd ei adeiladu, 100%, heb amheuaeth, bydden i'n dweud wrthyn nhw i gael snagger," meddai Georgina.

Charles a GeorginaFfynhonnell y llun, Georgina Barnes
Disgrifiad o’r llun,

Fe brynodd Charles a Georgina eu cartref ym mis Chwefror eleni

Dyw problemau o'r fath ddim yn newydd i John Cooper, 50.

Roedd yn gweithio fel rheolwr cytundebau ar safleoedd adeiladu yn 2018, "pan wnaeth rheolwr y safle ofyn i fi guddio rhywbeth rhag cwsmer oedd yn symud i mewn y diwrnod wedyn".

Dywedodd John ei fod wedi gweld gwaith adeiladu sâl yn mynd heb ei herio am tua chwe blynedd cyn hynny hefyd.

"O'r pwynt yna ymlaen, nes i feddwl i'n hun, mae'n rhaid i fi newid y diwydiant yma rhywsut. All hyn ddim parhau," meddai.

Fe wnaeth John siarad â'i gydweithiwr ar y pryd, Lee Challenger, 42, ac fe benderfynodd y ddau roi'r gorau i'w swyddi a dechrau'r busnes newydd.

"Dy'n ni erioed wedi arolygu tŷ a chanfod dim byd o'i le," meddai John.

Dywedodd fod y problemau mwyaf cyffredin yn ymwneud â gwaith brics, gwaith coed, neu doeau.

Fe ddangosodd arolwg gan y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi yn 2025 bod 93.7% o brynwyr cartrefi newydd wedi sôn am ddiffygion neu fân broblemau wrth y datblygwr ar ôl symud i mewn.

Nodwyd hefyd bod dros chwarter o brynwyr wedi wynebu mwy na 15 o broblemau yn eu cartref newydd.

'Haeddu cael beth maen nhw wedi talu amdano'

Dywedodd John fod y Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC) yn asesu pob tŷ newydd i'w cymeradwyo cyn bod modd i'r prynwr gael yr allweddi.

"Fi wedi cael digon ar weld pob tŷ yn cael sign-off. Os bydde pob tŷ mewn cyflwr iawn, bydde gennym ni ddim busnes," meddai.

Ychwanegodd eu bod wedi cael cleientiaid yn mynd yn emosiynol a hyd yn oed yn llefain pan maen nhw'n cael gwybod bod cymaint o broblemau gyda'u cartref newydd.

Nod hirdymor John yw i bob cartref newydd gael asesiad annibynnol cyn i'r perchnogion symud i mewn.

"Os yw rhywun yn gwario eu life savings ar dŷ, maen nhw'n haeddu cael beth maen nhw wedi talu amdano," meddai.

Dywedodd fod arolygiadau ei gwmni ef yn costio £349-£499, ac yn cymryd rhwng dwy a phedair awr, yn dibynnu ar faint y tŷ.

Dywedodd yr NHBC mai cyfrifoldeb adeiladwyr yw sicrhau bod tai newydd yn cydymffurfio â safonau adeiladu.

Ychwanegodd y dylai perchnogion newydd nodi unrhyw broblemau gyda'r adeiladwr o fewn dwy flynedd, ac y dylen nhw gysylltu â'r NHBC os nad ydyn nhw'n cael eu datrys.

Dywedon nhw hefyd eu bod yn cynnal asesiadau ar "gamau allweddol yn y gwaith adeiladu" o unrhyw ddatblygiad newydd, ac yn rhoi adborth ar safon y gwaith.

'Anochel' y bydd rhai problemau

Dywedodd y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, sy'n cynrychioli'r diwydiant adeiladu, bod cartrefi yn "gynnyrch unigryw, wedi'u hadeiladu gan nifer o weithwyr, ar safleoedd sy'n aml yn agored i bob tywydd".

"Mae'n anochel, ar rai achlysuron, y bydd ambell beth o'i le."

Ychwanegodd y corff bod mwyafrif y materion sy'n cael eu codi yn bethau bach, a bod safonau adeiladu yn "parhau'n uchel iawn".

Rhybuddion nhw hefyd nad oes rheolau pendant am safonau arolygwyr annibynnol.

Dywedodd Vistry, sy'n gyfrifol am y datblygwr Countryside a adeiladodd dŷ Charles a Georgina, eu bod yn cefnogi "arolygiadau annibynnol sy'n cael eu cynnal yn briodol fel sicrwydd pellach o safon y gwaith adeiladu".

Ychwanegodd bod pob cartref yn cael ei gymeradwyo gan eu timau cyn i bobl symud i mewn, a bod adeiladwyr yn cwrdd â pherchnogion newydd o fewn y mis cyntaf i drafod unrhyw faterion sydd angen sylw.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i sicrhau bod prynwyr yn cael gwaith o safon a bod cefnogaeth iddyn nhw os yw unrhyw beth yn mynd o'i le.

Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn buddsoddi £39bn mewn cartrefi fforddiadwy a'u bod wedi clustnodi £625m i hyfforddi hyd at 60,000 o adeiladwyr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig