Y gŵr a fu'n ddigartref sy'n ceisio adfywio'r gamp hynafol bando

George Hooper
GanLois Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae'r erthygl hon yn cynnwys cyfeiriad at ddefnydd o gyffuriau.

Mae George Hooper, brodor o Gaerdydd ond a dreuliodd y rhan fwyaf o'i blentyndod yn Ffrainc, wedi dechrau ymgyrch i adfywio'r gamp hynafol bando.

Roedd bando yn boblogaidd iawn ledled Cymru hyd at ddiwedd y 19eg ganrif, yn enwedig yn Sir Forgannwg. Fe ddirywiodd ei phoblogrwydd wrth i bêl-droed a rygbi ennill ei blwyf.

Rhyw ffurf gynnar ar hoci oedd bando yn ôl Amgueddfa Cymru, a deuai'r enw o bande sef y gair Ffrangeg am ffon gam. Wrth gwrs, cai'r gêm ei chwarae gyda ffon gam – y bando.

Nod y gêm oedd taro'r bêl rhwng dau farc naill ben i'r maes chwarae. Fel nifer o gampau gwerinol, prin oedd y rheolau tu hwnt i hynny. Yn aml byddai'r ddau blwyf yn cytuno ar reolau cyn dechrau'r gêm.

Caiff y gêm ei chymharu'n aml â hyrli (hurling) o Iwerddon a shinty o'r Alban.

TJ Reid o dîm Kilkenny yn ennill meddiant dros Fintan Burke o dîm Galway yn y Bencampwriaeth Hurling GAA Leinster rhwng Kilkenny a Galway yn Croke Park yn Nulyn.Ffynhonnell y llun, Ray McManus/Sportsfile via Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae hurling yn boblogaidd iawn yn Iwerddon. Dyma T.J. Reid o dîm Kilkenny yn ennill meddiant dros Fintan Burke o dîm Galway yn y Bencampwriaeth Hurling GAA Leinster rhwng Kilkenny a Galway yn Croke Park yn Nulyn

Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda George Hooper sy'n gobeithio sefydlu timau ar draws Caerdydd a'r cyffiniau am ei awydd i adfer y gamp.

"Ers o'n i'n ifanc ac yn byw yn Ffrainc dw i wedi bod yn obsessed efo unrhyw beth Cymreig. Dw i'n angerddol iawn am bando, ac mae ei adfer yn rhywbeth dw i eisiau ei wneud.

"Mae'n gamp Gymreig. Dw i wrth fy modd â chwaraeon a dw i'n falch o fod yn Gymro. Dw i eisiau gweld pobl yn chwarae bando ac yn ymfalchio yn hynny."

Fe ddechreuodd ei ymgyrch yn fuan wedi iddo ddechrau gwirfoddoli gyda mudiad Campau Celtaidd Cymru, sef corff llywodraethol chwaraeon newydd i Gymru.

"Mae Campau Celtaidd Cymru gyfystyr â'r GAA yn Iwerddon," eglurodd George.

"Y gobaith yw hyrwyddo chwaraeon Cymreig tra hefyd yn hyrwyddo a thyfu'r iaith. Ar hyn o bryd y prif ffocws yw bando.

"Fe ddechreuais i wirfoddoli efo nhw tua blwyddyn yn ôl. Dyn o'r enw Steven Lake yw un o'r prif bobl sy'n gweithio ac yn rhedeg y mudiad."

Gwahanol fathau o ffyn i chwarae bando gyda phêlFfynhonnell y llun, George Hooper
Disgrifiad o’r llun,

Y math o offer sydd ei angen i chwarae bando

Siaradodd Steven ar raglen Dros Ginio yn 2025 pan sefydlwyd Campau Celtaidd Cymru; y bwriad oedd cyflwyno'r gêm i blant ysgol. Cafodd bando ei chwarae mewn digwyddiad ym Margam adeg Eisteddfod Dur a Môr yr Urdd yn mis Mai 2025.

Yn ôl Steven, yn hanesyddol roedd bando'n cael ei chwarae gan ddwsinau o chwaraewyr, ar draethau a meysydd a allai fod yn ddwy filltir o hyd, a byddai'r gemau'n aml iawn yn mynd yn dreisgar.

Felly yn naturiol, fe fydd yr adfywiad y mae Campau Celtaidd Cymru yn ceisio ei wireddu yn dilyn rheolau mwy cadarn. Bydd y gêm yn dilyn rheolau y gamp Wyddelig hurling gan fod y ddwy gêm yn debyg iawn cyn y diflannodd bando.

Ffon bando o 1845Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ffon bando o tua 1845 o eiddo Thomas Thomas, aelod o'r Margam Bando Boys

Ond, bwriad George yw sefydlu tîmau lleol gyda'r gobaith yn y pendraw o sefydlu cynghrair leol.

"Yn wreiddiol fe ddechreuais chwilio am dîm yng Nghaerau a Threlái, ond fe sylweddolais mai ym Mhontcanna a Threganna y mae'r nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg Caerdydd. Felly, meddyliais pe bawn ni'n gallu creu tîm yn fanno hefyd mi allwn recrwtio siaradwyr Cymraeg."

Adfer ei hun drwy adfywio bando

Mae'r ymgyrch i adfywio bando wedi bod yn rhyw fath o achubiaeth i George, dywedodd.

"Pan wnes i symud i Gaerdydd do'n i ddim ar lwybr da iawn. Ro'n i'n ddigartref am ddwy neu dair blynedd. Ro'n i'n cymryd llawer o gyffuriau trwm.

"'Nes i stopio cymryd cyffuriau, ac es i ddim allan am gyfnod hir. Ond, drwy lwc fe ddechreuodd bethau newid.

"Dechreuais siarad gyda mwy o bobl ar y cyfryngau cymdeithasol oedd yn rhannu'r un diddordebau â mi. A nawr dw i yma gyda chi yn siarad am adfywio bando!"

Mae pethau'n mynd o nerth i nerth iddo. Mae'n dechrau astudio yn y Brifysgol ddiwedd y mis er mwyn cael digon o gredydau i fynychu cwrs cyfieithu fel y gall weithio fel cyfieithydd Ffrangeg-Saesneg.

"Mae wedi bod yn hwb enfawr i fy hyder i. Ar ôl y diwrnod cyflwyno yno, dw i'n teimlo fel fy mod i wedi cael fy nghyflwyno i gymuned hollol newydd."

Ochr yn ochr â'i astudiaethau, mae George yn benderfynol o weld bando yn llwyddo.

"Y nod yw cael 15-bob-ochr. Os gallwn ni gael tîm merched hefyd, fe fyddai hynny'n wych.

"Dw i hefyd eisiau dysgu Cymraeg, a dw i'n chwilio am siaradwyr Cymraeg i fy helpu i.

"Mae dysgu Cymraeg yn hanfodol i mi ac yn ganolog i'r hyn dw i'n ceisio ei wneud efo bando."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig