Pryderon bod Amgueddfa Lechi Cymru ar gau am hyd at 18 mis yn hwy

Gwaith adeiladu yn Amgueddfa Lechi Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Gwaith yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, fis Medi 2026

GanBryn Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Fe fydd Amgueddfa Lechi Cymru ar gau am hyd at flwyddyn a hanner yn ychwanegol gan arwain at bryderon am ddyfodol rhai busnesau lleol.

Dywedodd perchnogion cwmnïau eu bod yn ansicr os fydden nhw'n goroesi'r cyfnod gan fod eu trosiant i lawr hyd at 50% ers dechrau'r gwaith adnewyddu.

"Llynedd roeddan ni'n meddwl mai jest un haf arall oedd ar ôl ac roeddan ni'n trio bod yn bositif," meddai Rebecca Colley-Jones, perchennog Ropeworks Active.

"Ond mae am fod yn haf arall rŵan ac mae posibilrwydd fydd y busnes ddim yma mewn dwy flynedd os mae pethau'n cario mlaen fel yma."

Dywedodd Amgueddfa Cymru nad ydi graddfa'r gwaith atgyweirio yn dod i'r amlwg mewn prosiectau mawr cadwraethol tan mae'r adeiladwyr yn dechrau ar y safle.

Gwaith adeiladu o flaen rhes o dai teras
Disgrifiad o’r llun,

Gwaith yn digwydd o flaen Fron Haul, rhes o dai chwarelwyr sydd wedi eu hailadeiladu i adlewyrchu bywyd mewn gwahanol gyfnodau o'r diwydiant llechi

Fe wnaeth yr amgueddfa yn Llanberis gau fis Tachwedd 2024 er mwyn gwneud gwaith adnewyddu ac ailddatblygu gwerth £21m. Y bwriad yw gwella'r adeiladau a'r profiad i ymwelwyr - gan gynnwys cael caffi newydd, gofod arddangos a chanolfan addysgu a dehongli.

Ar y pryd roedd disgwyl i'r gwaith gymryd dwy flynedd gyda'r lleoliad yn ailagor ar ddiwedd 2026 neu yn gynnar yn 2027 .

Ond gall BBC Cymru Fyw ddatgelu eu bod bellach yn anelu i agor gwanwyn 2028 sy'n golygu methu haf cyfan arall i gwmnïau sydd yn ddibynnol ar dwristiaeth.

"Mae'n stressful iawn a 'da ni'n stryglo i gario mlaen," meddai Ms Colley-Jones. "Fel bob man sy'n ddibynnol ar dwristiaid 'da ni'n gorfod gwneud ein pres dros yr haf i dalu bils yn y gaeaf."

Mae'r newyddion yn ergyd arall i fusnesau yn y pentref wrth droed Yr Wyddfa sydd wedi eu heffeithio gan sawl prosiect datblygu sy'n digwydd ar yr un pryd.

Arwyddion ffordd ar gau
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl ffordd wedi eu heffeithio gan waith y Grid Cenedlaethol, gan gynnwys y lôn rhwng Fachwen a Dinorwig - sy'n rhan o gylchdaith cerdded poblogaidd o gwmpas Llyn Padarn

Yn ogystal â chau'r Amgueddfa Lechi mae'r Grid Cenedlaethol yng nghanol prosiect saith mlynedd i ailosod ceblau trydan rhwng gorsaf bŵer Dinorwig ac is-orsaf Pentir, ger Bangor.

Mae hyn wedi arwain at sawl blwyddyn o dagfeydd traffig a chodi trac trên Rheilffordd Llyn Llanberis.

Ers blwyddyn dydi'r trên ddim teithio o gwbl ar hyd y llyn - dim ond taith fer rhwng Gilfach Ddu, sydd ar lan ddeheuol y llyn, a'r pentref.

Llyn Padarn a lleoliad trac tren
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd dwy filltir o'r trac trên, sy'n rhedeg ar yr hen lein chwarel ar hyd y llyn ers 1971, ei drosglwyddo i'r Grid Cenedlaethol fis Medi 2025

Mae'r Amgueddfa Lechi a phrif orsaf, siop a chaffi'r rheilffordd wedi eu lleoli yn Gilfach Ddu, sy'n rhan o Barc Padarn Cyngor Gwynedd, ar gyrion Llanberis.

Mae Parc Padarn, sy'n eiddo i Gyngor Gwynedd, hefyd yn gartref i sawl busnes gan gynnwys caiacio, sawna, canolfan antur a siopau crefft.

Un o'r rheiny ydi Odyn Copper a dywedodd y perchennog Sam Rogers ei bod wedi diswyddo dau aelod o staff eleni oherwydd yr effaith ar ei busnes ac mai dim ond hi sy'n gweithio yno bellach.

"Pan ddechreuodd y gwaith ro'n i'n disgwyl bod i lawr tua 20% ond dwi lawr 50%," meddai.

"Mae'n bryderus os ydy'r amgueddfa am fod ar gau am hirach a dwi'n gutted i glywed y byddan ni rŵan yn colli tymor cyfan arall."

Sam Rogers, perchennog Odyn Copper
Disgrifiad o’r llun,

Sam Rogers, perchennog Odyn Copper, busnes teuluol ers 54 o flynyddoedd sy'n creu a gwerthu gemwaith a chrefftau

Dywedodd Ms Rogers bod llawer llai o ymwelwyr yn mynd i Barc Padarn ers i'r holl waith ddechrau gan fod llai i'w wneud yno a gan fod pobl yn cadw draw gan feddwl bod yr holl le ar gau.

Am gyfnod roedd yr ardal tu allan i'w siop yn safle adeiladu gan fod Cyngor Gwynedd hefyd yn adeiladu canolfan groeso newydd yno.

Ychwanegodd bod y tagfeydd ar y ffordd i mewn i Lanberis hefyd wedi arwain at gwmnïau teithiau bysiau yn cadw draw o'r pentref yn gyfan gwbl.

Canolfan groeso a siopau crefft yn Gilfach Ddu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Odyn Copper wedi ei leoli yn yr unedau ar y chwith, a'r ganolfan groeso newydd yn Gilfach Ddu i'w weld ar y dde

Dywedodd bod rhai cwmnïau bysiau wedi dechrau ymweld eto yn ddiweddar gan fod y gwaith ffordd a'r ganolfan wedi eu cwblhau, ond eu bod yn aros am gyfnod byr yn unig er mwyn i'w teithwyr ddefnyddio'r toiledau newydd.

"Mae'r straen feddyliol wedi bod yn gymaint o broblem â'r straen ariannol, ddim yn gwybod pryd fydd pobl yn dechrau dod yn ôl – a dw i'n ddibynnol ar yr incwm," meddai.

"Er ein bod ni'n ddiolchgar bod y gwaith yn cael ei wneud ac yn edrych ymlaen at y gwelliannau fydd yn siŵr o ddod â mwy o ymwelwyr yma, mae'n fater o orfod goresgyn storm am ddwy neu dair blynedd tan hynny.

"'Da ni'n ddiolchgar bod ni heb fynd allan o fusnes ac wedi goroesi hyd yma."

Dywedodd ei bod hefyd yn gwerthfawrogi'r cymorth sydd wedi ei roi – gan gynnwys saib mewn talu rhent i'r cyngor ac iawndal gan y Grid Cenedlaethol – ond nad oedd yn dod yn agos i'w digolledu.

Mae Ropeworks Active yn fusnes antur sydd wedi ei leoli drws nesaf i'r amgueddfa lechi.

Dywedodd y cyd-berchennog Rebecca Colley-Jones nad oedd posib gweld eu lleoliad o'r ganolfan groeso newydd oherwydd y gwaith adeiladu.

Yr olygfa o'r amgueddfa o'r Ganolfan Groeso newydd. Mae Ropeworks Active ar y dde, tu cefn i'r cabanau glas
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa o'r amgueddfa o'r Ganolfan Groeso newydd. Mae Ropeworks Active ar y dde, tu cefn i'r cabanau glas

Mae pobl yn dal i archebu eu lle i fynd yno ar y we ond mae'r busnes gan bobl oedd yn mynd yno ar ôl ymweld â'r amgueddfa neu oedd ar deithiau bysiau wedi dod i ben.

"Roeddan nhw'n dod fewn i gael coffi, a weithiau fyddai pobl yn dod fewn oedd efo wyrion neu wyresau a wedyn fydda nhw'n dod yma," meddai.

"Os mae rhywun yn cyrraedd rŵan mae'n edrych fel building site a dydi nhw ddim yn gweld ni efo'r holl hoardings."

Ychwanegodd bod tripiau ysgolion a cholegau hefyd wedi rhoi'r gorau i ddod yno gan fod cyrraedd Parc Padarn a Llanberis wedi bod yn drafferthus.

Gwaith adeiladu ar yr amgueddfa
Disgrifiad o’r llun,

Tra mae'r gwaith yn parhau dydi perchnogion Ropeworks Active ddim agor eu lleoliad yn Llanberis onibai bod rhywun wedi archebu lle o flaen llaw

Dywedodd Ms Colley-Jones bod y busnes wedi colli dros draean o'u trosiant.

"Da ni methu profi bod o lawr i un peth – mae o'n cumulative impact o bob dim," meddai.

Dywedodd bod y rhai sy'n gyfrifol am y gwaith yn cydymdeimlo ac yn cydweithio gyda nhw, er enghraifft drwy ganiatáu arwyddion ychwanegol ac iawndal, ond bod angen mwy o gymorth.

"Mae 'na compensation gan y National Grid am y gwaith ond tydi o ddim yn cyfro'r colledion o gwbl.

"Faint bynnag maen nhw wedi rhoi mae'r colledion chwe gwaith yn fwy.

"Pan fydd o'n ailagor fydd y Parc yn briliant ac mae'n dda bod 'na investment, ond ar y funud 'da ni efo blwyddyn neu ddwy i stryglo – a dw i ddim yn gwybod os wnawn ni survivio tan hynny."

Cydnabod y rhwystredigaeth

Dywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru bod y gwaith "yn mynd rhagddo yn dda iawn" a'u bod yn gobeithio agor gwanwyn 2028, er ei bod yn anodd rhoi dyddiad pendant.

Ychwanegodd: "Fel gyda phob prosiect cadwraeth sylweddol, dim ond pan fydd gwaith ar y safle yn dechrau y daw'r ddealltwriaeth lawn o raddfa rhai o'r atgyweiriadau.

"Ar hyn o bryd, does dim cynnydd yn y costau cyffredinol y gallwn adrodd arno, ond bydd y gyllideb yn amrywio o fewn y paramedrau derbyniol drwy gydol y prosiect adeiladu, ac mae gennym ddarpariaeth wrth gefn ar waith i reoli unrhyw newidiadau."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod yn "cydnabod y rhwystredigaeth" i bobl leol gyda'r amrywiol brosiectau a'u bod wedi rhoi pecyn cymorth i fusnesau lleol".

Mae hyn yn cynnwys gwella edrychiad yr unedau busnes crefft a pheidio codi rhent am chwe mis yn ystod adeiladu'r ganolfan groeso newydd.

Mae'n nhw hefyd wedi gweithio gyda'r Grid Cenedlaethol i ddigolledu'r busnesau a sicrhau eu bod yn gwybod am gymorth sydd ar gael.

Arwydd ffyrdd ar gau a golygfa o Lyn Padarn
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffyrdd yr ardal wedi cael eu heffeithio gan y gwaith ers 2022

Diolchodd llefarydd ar ran y Grid Cenedlaethol i'r gymuned a'r busnesau lleol am eu hamynedd yn ystod gwaith hanfodol i wella isadeiledd sydd wedi gwasanaethu'r ardal ers degawdau.

Ychwanegodd: "Rydym yn gweithio'n galed i leihau'r effaith ar y gymuned, wrth gyflawni'r uwchraddiad rhwydwaith hanfodol hwn yn ddiogel.

"Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, bydd yn helpu i sicrhau y gall Dinorwig – un o orsafoedd pŵer pwysicaf Prydain – barhau i gyflenwi trydan ymhell i'r dyfodol."

Mae gwaith ar ddau allan o dri cylchedd trydan wedi eu cwblhau, a'r holl waith ar yr A4086 i Lanberis bellach wedi gorffen.

Mae gwaith yn parhau ar yr A4244 ac mae'r ffordd rhwng Brynrefail a Fachwen yn dal ar gau.

Mae'r Grid Cenedlaethol wedi rhoi mwy na £200,000 i fudiadau cymunedol ers i'r prosiect ddechrau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gydag Amgueddfa Cymru i ailagor cyn gynted a phosib.

Meddai llefarydd: "Mae cymorth wedi'i deilwra ar gael gan Fusnes Cymru i fusnesau sy'n wynebu ansicrwydd oherwydd cau'r amgueddfa."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.