Asiantaeth Ddatblygu Cymru 'yn barod ar ryw lun erbyn haf nesaf'

Mae'r gweinidog sy'n gyfrifol am economi Cymru, Adam Price, yn rhagweld y bydd yr asiantaeth newydd "yn barod ar ryw lun" erbyn haf nesaf
- Cyhoeddwyd
Fe ddylai asiantaeth ddatblygu sydd i fod i hybu economi Cymru fod yn dechrau ar y gwaith erbyn yr haf y flwyddyn nesa - ar ryw ffurf o leia'.
Dyna mae gweinidog yr economi, Adam Price, wedi ei ddweud, a hynny wrth i un ffon fesur o lwyddiant busnesau awgrymu bod rhywfaint o golli tir wedi bod.
Fe gafodd yr ymchwil hwnnw ei wneud gan gangen annibynnol o Fanc Datblygu Cymru, sef Dirnad Economi Cymru.
Mae'n cyfeirio at arwyr cynhyrchiant - "busnesau/mentrau bach a chanolig (3 oed neu fwy) sy'n tyfu eu refeniw a'u cyflogaeth, gyda refeniw yn tyfu ar gyfradd gyflymach".
Yn 2024/25 roedd 1,732 o fusnesau wedi ennill y statws hwnnw, ond mae'r nifer yn is na'r ffigwr cyfatebol o 2,637 o arwyr cynhyrchiant ar gyfer 2022/23.
'Cynllun uchelgeisiol' i 'drawsnewid economi Cymru' - Adam Price
- Cyhoeddwyd3 Mehefin
Adam Price eisiau 'gwerthu' Cymru o amgylch y byd
- Cyhoeddwyd24 Mai
Wrth edrych i'r dyfodol, fe all Llywodraeth Cymru fod yn cymryd cam i'r gorffennol, oherwydd mae 'na fwriad i sefydlu asiantaeth ddatblygu newydd.
Fe fyddai honno'n adlais o Awdurdod Datblygu Cymru, y WDA, fu wrthi rhwng 1976 a 2006.
Ond mae gan rai penaethiaid busnes syniadau go bendant o beth ddylai'r asiantaeth newydd ei wneud.
Dywedodd Fflur Elin, pennaeth cysylltiadau allanol Ffederasiwn y Busnesau Bach: "O ran yr asiantaeth ddatblygu mae 'na gyfle i newid pethau i fusnesau bach yng Nghymru, ond hynny dim ond os o'r dechrau mae lleisiau busnesau bach yn rhan o siapio'r asiantaeth ddatblygu.
"Achos y'n ni am 'neud cefnogaeth busnes yn rhywbeth sydd ar gael i bob busnes, dim ots ble 'dach chi yng Nghymru a beth yw eich maint chi."

Mae angen i leisiau busnesau bach fod yn rhan o siapio'r asiantaeth ddatblygu "o'r dechrau" ym marn Fflur Elin
Ym marn Lloyd Powell, pennaeth cyfrifwyr ACCA yng Nghymru, mae angen bwrw ymlaen yn gyflym.
"'Dan ni'n gefnogol o'r syniad ond be' sy'n bwysig ydy clywed sut mae'n mynd i weithio, sut mae'n mynd i weithio gyda busnesau a be' sy'n mynd i fod yn wahanol.
"Hefyd yr amserlen o be' mae'n mynd i edrych fel, yn hytrach na jyst symud petha' 'mlaen dros y pedair blynedd nesa'... does dim pwynt 'neud e jyst er mwyn 'neud e."

Mae angen amserlen o ran y camau nesaf, medd Lloyd Powell
Y gweinidog sydd nawr yn gyfrifol am yr economi - y gweinidog dros fenter, cysylltedd ac ynni - ydy Adam Price.
"'Dan ni isio cyrraedd y pwynt lle mae'r asiantaeth yn weithredol ar ryw ffurf cyn gynted â sy'n bosib," meddai.
"Fy nisgwyliad i ydy y bydd yr asiantaeth yn barod ar ryw lun erbyn yr haf y flwyddyn nesa'.
"Mae'n rhaid i ni dderbyn mai cam wrth gam y byddwn ni'n troedio, gyda'r esblygiad o ran yr amrediad o weithgarwch y bydd yr asiantaeth yn gyfrifol amdani dros gyfnod o flynyddoedd."

Mae cwmni Halen Môn yn gwerthfawrogi'r cymorth y mae eisoes wedi ei dderbyn, medd Samuel Burns
Wrth sicrhau y bydd gan fusnesau bach ran yn y gwaith o siapio'r asiantaeth, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis cynrychiolwyr o'r maes hwnnw i fod ar banel ymgynghorol.
Ymhlith y busnesau fydd yn cyfrannu fydd Halen Môn.
Mae eu cynnyrch nhw bellach yn cael ei allforio i dros 20 o wahanol wledydd, o'r brif swyddfa ym Mrynsiencyn.
Mae'r cwmni'n ddiolchgar o'r cymorth maen nhw eisoes wedi ei gael, fel y dywedodd un o'u gweithwyr, Samuel Burns.
"Roedd 'na lot o gefnogaeth gan Business Wales ac mae'r Development Bank o Gymru wedi rhoi lot o gefnogaeth ynglŷn â solar panels ar y to i 'neud y busnes yn fwy gwyrdd, felly o ran y gefnogaeth fel 'na, mae 'di 'neud lot o wahaniaeth i'r busnes."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.