Dyffryn Peris: Côr cymunedol yn dathlu pen-blwydd Pont Pen Llyn yn 200

Trigolion yr ardal yn dathlu ar y bont ar ddydd Sadwrn 26 Medi
- Cyhoeddwyd
Dros y penwythnos fe gasglodd trigolion lleol ar bont Pen Llyn ym Mrynrefail ger Llanberis er mwyn dathlu pen-blwydd y bont unigryw yn 200.
Daeth rhai o aelodau Seindorf Arian Llanrug a Deiniolen ynghyd i chwarae'r alaw werin Bwlch Llanberis, roedd dawnswyr ifanc yn clocsio, ac fe ddaeth côr cymunedol at ei gilydd i ganu caneuon o'r ardal fel Safwn yn y Bwlch, gan Hogia'r Wyddfa.
Mae'r bont sy'n croesi Llyn Padarn ac yn cynnig golygfa arbennig o'r Wyddfa yn denu miloedd o ymwelwyr dieithr bob blwyddyn. Ond mae hefyd wedi ysbrydoli beirdd a chantorion i ganu amdani'n Gymraeg ers ei chodi yn 1826.
"Pan fyddai'r nos yn olau a llwch y ffordd yn wyn, a'r bont yn wag sy'n croesi'r dŵr difwstwr ym Mhen Llyn," a ganodd y bardd R Williams parry yn ei gerdd Tylluanod, sydd wedi ei hanfarwoli gan Hogia'r Wyddfa.
Ac hyd yn oed os nad ydych yn gyfarwydd â'r ardal, mae siawns go dda bod gwylwyr newyddion Cymraeg wedi gwylio gohebydd newyddion yn adrodd o'r safle.

Gwenno Pritchard (dde) gyda rhai o aelodau Seindorf Arian Llanrug a Deiniolen ar Bont Pen Llyn
Wrth adlewyrchu ar y dathliadau ddydd Sadwrn 26 Medi, fe ddywedodd Gwenno Pritchard, un o'r trefnwyr ac arweinydd y côr cymunedol:
"Mae trefnu rhywbeth fis Medi yn gallu bod yn heriol gan bod cymaint o bobl ar eu gwylia fis Awst.
"Felly gafodd Côr Cymunedol Dyffryn Peris ddau ymarfer cyn y perfformiad. O'n i'n awyddus i ddysgu rhywbeth sy'n gysylltiedig â'r ardal felly Safwn yn y Bwlch oedd y dewis amlwg."

Gwenno yn arwain y côr cymunedol a'r gynulleidfa
Fel un o Ynys Môn yn wreiddiol mae Gwenno a'i gŵr o Lanberis yn byw yn Llanrug ers rhai blynyddoedd. Ac fel un o drigolion Dyffryn Peris erbyn hyn, mae Pont Pen Llyn wedi dod i olygu llawer iddi hithau hefyd.
Meddai: "Do'n i ddim yn ymwybodol bod y bont mor agos at lle oedda ni'n byw tan Covid mewn gwirionedd.
"Yn ystod y cyfnod yma o fynd am dro nathon ni ddarganfod pa mor agos oeddem ni i nifer o olygfeydd hyfryd sydd yn yr ardal.
"Erbyn hyn 'dan ni'n aml yn cael dro at y bont ac mae gen i datŵ o olygfa'r mynyddoedd ohoni, achos wna i fyth ddiflasu ar yr olygfa yna."
Ond beth felly yw hanes Pont Pen Llyn? Cymru Fyw fu'n sgwrsio gyda'r hanesydd a'r chwilotwr lleol Dafydd Whiteside Thomas.
Adeiladu'r bont
Adeiladwyd y bont garreg yn 1826 i gysylltu chwarel lechi Fachwen â'r brif ffordd o Gaernarfon i Lanberis. Mae ganddi bedwar bwa ac mae'n croesi afon Rhythallt wrth i'r afon honno adael Llyn Padarn.
Yng nghrombil cofnodion Glynllifon ar gadw yn yr Archifdy yng Nghaernarfon mae'r frawddeg "…bridge has now been completed." A'r dyddiad yw Chwefror 1826.
Ac felly pam fod y cofnodion amdani gan stâd Glynllifon? Stâd Glynllifon, perchnogion chwarel lechi Fachwen, ar un ochr y llyn oedd yn gyfrifol am ei hadeiladu.

Pont Pen Llyn
Ond roedd chwarel Dinorwig hefyd gerllaw, a oedd ym meddiant Thomas Assheton Smith, stâd Y Faenol.
Cyn codi'r bont fe roedd llechi'n cael eu cludo o chwarel Fachwen, i lawr at lannau'r llyn cyn cael eu cario mewn cychod ar hyd Llyn Padarn, yna ar hyd Llyn Bogelyn (sydd ond i'w gweld ar hen fapiau erbyn heddiw).
Ar ôl i'r llechi groesi'r dŵr roedd ffordd hir eto nes cyrraedd y cei llechi'n Y Felinheli.

Y côr cymunedol fu'n canu yn Pen Llyn, Brynrefail fel rhan o'r dathliadau 200
Roedd codi'r bont tua'r un cyfnod â phan godwyd y briffordd rhwng Llanberis a Chaernarfon yn golygu bod llechi'n gallu cael eu cludo dros y bont cyn uno â'r briffordd newydd yn hytrach na chroesi'r dŵr.
Ond fe werthwyd y bont a chwarel Fachwen yn ddiweddarach i stâd Y Faenol, perchnogion chwarel Dinorwig.

Ellis Roberts yn gohebu o'r bont yn 2019 a chopa'r Wyddfa'n glir y tu ôl iddo
Gan bod chwarel Dinorwig a chwarel Fachwen yn gyfagos i'w gilydd, a thir Fachwen yn eiddo i stâd Glynllifon, roedd y tir oedd dan eiddo Glynllifon yn rhwystr amlwg i chwarel Dinorwig wrth iddyn nhw gludo eu llechi o Ddinorwig i'r môr yn Y Felinheli.
Roedd gan chwarel Dinorwig system dramffordd ac inclein o Ddinorwig ar draws y plwyf, ond roedd prynu'r bont a thir Fachwen yn golygu mynediad haws i'r porthladd.

Fe gyflwynodd Dafydd Whiteside Thomas hanes y bont fel rhan o'r dathliadau
Pan werthwyd Pont Pen Llyn roedd cymal yn dweud nad oedd hawl codi toll am ei chroesi, a bu'n rhydd i bawb ei throedio fyth ers hynny.
Adeiladwyd rheilffordd wedyn, yn 1843, ar hyd glan y llyn i gludo cynnyrch Dinorwig i longau'n Y Felinheli.

Y bont tua 1860
Fe ddaeth y bont yn bwysicach fyth i'r pentrefi cyfagos yn yr 1860au pan godwyd y rheilffordd o Gaernarfon i Lanberis.
Roedd y brif orsaf yng Nghwm-y-glo, y pentref agosaf i'r bont ym Mrynrefail. Golygai hyn bod modd i barseli a llythyrau adael yr orsaf yng Nghwm-y-glo cyn cael eu cludo dros y bont i'w dosbarthu i'r pentrefi cyfagos; i Frynrefail, Penisarwaun, Dinorwig a Deiniolen.

Trigolion Dyffryn Peris yn casglu ar y bont fel rhan o'r dathliadau 200 - a'r olygfa ar draws Llyn Padarn i'r Wyddfa tu cefn iddyn nhw
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2019

- Cyhoeddwyd29 Ionawr

