Rheilffordd arfordir y gogledd i gau am fis cyfan i wneud gwelliannau

Y disgwyl yw y bydd bysiau'n rhedeg yn lle trenau pan fydd y rheilffordd ar gau
- Cyhoeddwyd
Bydd rheilffordd arfordir y gogledd yn cau am bedair wythnos fis Ionawr er mwyn cyflwyno gwelliannau, yn ôl Network Rail.
Fis Mai 2025 fe wnaeth Ysgrifennydd Trafnidiaeth y llywodraeth Lafur ar y pryd, Ken Skates, gyhoeddi cynllun gwerth £2.1bn i ailwampio rhwydwaith rheilffyrdd gogledd Cymru.
Mae'r cyhoeddiad yn cynnwys manylion am fuddsoddiad gwerth £25m yn y rhwydwaith.
Ond mae'r cynlluniau'n golygu y bydd llwybr arfordir gogledd Cymru ar gau o ddydd Sadwrn 9 Ionawr i ddydd Sadwrn 6 Chwefror 2027 er mwyn cwblhau'r gwaith i "hybu dibynadwyedd a chapasiti".

Bydd y gwaith yn digwydd fis Ionawr gan ei fod, ar y cyfan, yn gyfnod tawelach o ran nifer y teithwyr
Yn ystod tair wythnos gyntaf y gwaith, bydd y rheilffordd ar gau rhwng Caer a Chaergybi, gan gynnwys llinell Dyffryn Conwy a Chyffordd Llandudno at y dref.
Yn ystod y bedwaredd wythnos bydd llai o'r rheilffordd ar gau, sef y rhan rhwng Cyffordd Llandudno a Chaergybi.
Y rheswm am gau'r rheilffordd, yw er mwyn cwblhau'r gwaith "yn ddiogel ac yn effeithlon," meddai Network Rail.
"Gyda mwy o drenau'n defnyddio'r rheilffordd, bydd cau'r rheilffordd ym mis Ionawr hefyd yn caniatáu i dimau Network Rail wneud gwaith cynnal a chadw ychwanegol, yn ogystal â'r prif waith adnewyddu."
Dywedodd y cwmni y bydd bysiau'n rhedeg yn lle trenau pan fydd y rheilffordd ar gau, a bod disgwyl cadarnhad o'r cynlluniau hynny fis Hydref.
Cafodd mis Ionawr ei ddewis ar gyfer cwblhau'r gwaith gan ei fod yn gyfnod tawelach i dwristiaeth yn y gogledd yn draddodiadol.
Beth yw'r gwelliannau?
Mae'r gwelliannau yn cynnwys:
Adnewyddu'r trac ar Bont Reilffordd Diwbaidd Conwy, sy'n strwythur rhestredig Gradd I. Mae'r trac presennol yn dyddio'n ôl i 1978;
Gwelliannau mawr i'r trac a'r draeniau yn Nhwnnel Bodorgan, yn adnewyddu seilwaith sy'n dyddio'n ôl i 1972 ac yn helpu lleihau risg llifogydd;
Adnewyddu'r trac a gwelliannau i'r tir ym Mhenmaen-bach, lle nad yw rhannau o'r trac wedi'u hadnewyddu ers 1986;
Gwelliannau i'r trac a'r pwyntiau yng Nghaergybi a Llandudno;
Gwelliannau i'r platfform yng Nghyffordd Llandudno;
Gwaith ar bedair croesfan wastad, i'r dwyrain o Fangor;
Gwaith rheoli llystyfiant gwerth oddeutu £1.4m mewn naw lleoliad a gwaith cynnal a chadw helaeth ar hyd y llwybr;
Dwy bont droed gwbl hygyrch newydd ym Mhrestatyn ac Abergele, gan ganiatáu cau pedair croesfan wastad risg uchel.

Kieran o Fangor
Yng ngorsaf drenau Bangor ddydd Mawrth, roedd rhai teithwyr yn dweud y byddai cau'r rheilffordd yn effeithio'n sylweddol ar eu teithiau.
Dywedodd Kieran Lynch, sy'n byw ym Mangor, ei fod yn defnyddio'r trên yn gyson i deithio at ei wyrion yn Abertawe a Chaerdydd.
"Dwi'n defnyddio'r trenau'n rheolaidd - bob ychydig wythnosau, felly bydd hyn yn effeithio arna i," meddai.
"Dwi ddim yn arbenigwr, ond dwi'n cymryd bod ganddyn nhw arbenigwyr, ac os mai dyma eu cyngor nhw, pwy ydw i i'w herio?"

Scott o Ddeganwy
Dywedodd Scott o Ddeganwy, sy'n fyfyriwr, y bydd y newid yn gwneud ei daith i'r brifysgol yn llawer hirach.
"Fel arfer, byddai'n daith syml o 20 munud ar y trên, ond mae'r bws tua awr a hanner, felly mae hynny'n mynd i fod yn dipyn o boen," meddai.
"Dydw i ddim yn gwybod a yw'r traciau mewn cyflwr gwael neu beidio, felly gallai fod yn gwbl angenrheidiol i'r gwaith gael ei wneud nawr, ond byddwn i'n hoffi meddwl y gallai rhywfaint o'r gwaith gael ei wneud yn ystod oriau tawelach, dros nos efallai."
Dywedodd nad oedd yn gwybod am y gwaith cyn ymweld â Bangor, gan ychwanegu ei fod yn poeni nad yw'r wybodaeth yn cael ei rhannu'n ddigon eang.

Rachel o Tamworth
Dywedodd Rachel, sy'n dod o Tamworth yng nghanolbarth Lloegr, fod cau'r rheilffordd yn broblem gan mai dyma'r prif lwybr i Gaergybi.
"Mae'n ofnadwy, a dweud y gwir," meddai.
"Mae fy mab yn y brifysgol yma, felly dwi newydd ddod draw, ac mae hyn yn cyd-daro â'r amser pan fydd myfyrwyr yn dychwelyd ym mis Ionawr, felly does dim llwybr trên i fyfyrwyr prifysgol na rhai teuluoedd.
"Mae llawer o bobl yn methu gyrru ac yn dibynnu ar y trên, felly mae'n mynd i achosi problemau mawr."
Dywedodd ei bod yn deall bod angen gwneud gwelliannau os oes eu hangen, ond y bydd y gwaith yn ymestyn teithiau pobl sy'n dibynnu ar y gwasanaeth i fynd i'r gwaith neu i gludo plant i'r ysgol.

Dyma ddyluniad artist o sut fydd y bont newydd ym Mhrestatyn yn edrych
Ar Dros Frecwast dywedodd Tomos Roberts o Network Rail bod y gwaith atgyweirio yn "hollbwysig" i'r rhwydwaith.
"Mae'n waith gwerth blynyddoedd, felly mae'n reit gymhleth."
"Mae lot o hyn i hybu'r dibynadwyedd a'r capasiti mae teithwyr angen os mae pethau yn mynd o'i le
"Does 'na byth amser da i gau'r rheilffordd, ond mae mis Ionawr wedi cael ei ddewis fel amser bach tawlech efo twristiaeth.
"Ond 'da ni hefyd yn deall fod o'n effeithio ar deithwyr.
"Da ni'n ddiolchgar iawn i deithwyr o flaen llaw am eu hamynedd oherwydd ni'n gwybod faint o drafferth bydd hynny yn achosi iddyn nhw."

Dyluniad o sut fydd y bont newydd ym Mhensarn, Abergele, yn edrych
Dywedodd eu bod nhw'n cydweithio'n agos a Thrafnidiaeth Cymru er mwyn cynnig opsiynau eraill i deithwyr, ond nad yw'r trefniadau wedi eu cadarnhau eto.
"Bydd bysiau yn rhedeg yn lle trenau, ond bydd hefyd gwasanaethau mwy uniongyrchol, mwy direct, ond hefyd rhai bydd yn gwneud fwy o stops.
"Mae lot o waith yn cael ei wneud i wneud yn siwr bod pethau yn symud.
"Bydd y wybodaeth yn dechrau cael ei gynnwys ar wefannau tua 12 wythnos allan.
"Bydd hwn yn dweud pa mor hir bydd teithiau pobl, felly 'da ni'n gofyn i unrhyw deithwyr gwirio cyn teithio."
Mae Trafnidiaeth Cymru ac Avanti West Coast wedi cydnabod y bydd y gwaith yn achosi trafferth i deithwyr ar eu gwasanaethau.
Ond dywedodd llefarydd Trafnidiaeth Cymru bod y gwaith yn "hanfodol" i sicrhau bod y rhwydwaith yn gallu delio gyda "chynnydd yn nifer y teithwyr ac amlder y gwasanaethau ar draws gogledd Cymru".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mai 2025
